APÊL CODI ARIAN FFOADURIAID I FYD NATUR

GALLWCH CHI’N HELPU?
Dros y blynyddoedd, ry’n ni wedi datblygu perthynas gref gyda ‘City of Sanctuary’, Wolverhampton sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae aelodau o’u grŵp yn gwirfoddoli gyda ni ym Mwlch Corog, gan wneud cyfraniad enfawr i’n gwaith adfer cynefinoedd. Mae eu gwaith wedi bod yn amhrisiadwy a gwyddom hefyd fod treulio amser ym myd natur wedi helpu i leddfu ychydig ar eu pryderon beunyddiol.

RY’N NI EISIAU GWNEUD MWY!
Mae Coetir Anian wedi’i dderbyn i gynllun ariannu ‘Save Our Wild Isles – 1 o ddim ond 8 prosiect yng Nghymru!
Drwy gydol mis Hydref, byddwn yn codi arian ar gyfer rhaglen gyffrous o weithgareddau i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Y newyddion gwych yw y bydd pob ceiniog a roddir yn cael ei gyfateb ddwywaith, felly bydd rhodd o £10 yn golygu £30 i ni!
Mae’n gyfle gwych i’ch rhodd cael yr effaith fwya’ posib.

 

CYFRANNU

Bydd eich rhodd o £25 . . .

. . .  yn troi’n £75

Bydd hyn helpu un ffoadur ifanc i fynychu diwrnod llesiant natur.

Bydd eich rhodd o £100 . . .

. . . yn cael ei ariannu’n gyfatebol i £300.

Bydd hyn yn talu i 6 teulu o ffoaduriaid fynychu diwrnod llesiant natur.

Bydd eich rhodd o £250 . . .

. . . yn creu swm anhygoel o £750.

Bydd hyn yn dod â saith teulu o ffoaduriaid i wersyll llesiant deuddydd.

Gwyddom nad yw bob amser yn bosibl gwneud cyfraniad ariannol, ond mae byddai ein hymgyrch yr un mor werthfawr i ni.

Gallwch gyfrannu am . . .

Day(s)

:

Hour(s)

:

Minute(s)

:

Second(s)