​Mae Coetir Anian neu Cambrian Wildwood bellach yn ail flwyddyn rhaglen Ysgolion Cynradd y prosiect. Rydym wedi bod yn gweithio gyda chwe ysgol ers mis Medi 2018: cychwynnodd Penrhyncoch a Phenllwyn ger Aberystwyth a Maesyrhandir yn y Drenewydd yn y flwyddyn gyntaf; Ymunodd Corris, Pennal a Bro Hyddgen ym Machynlleth â’r rhaglen ym mis Medi 2019. Mae pob grŵp o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dros dair blynedd.

Yn nhymor yr Hydref dysgodd y disgyblion am y prosiect i adfer cynefinoedd yr ucheldir ac am fywyd gwyllt yn gyffredinol yn ystod sesiynau yn yr ysgol, a mwynheuwyd ymweliad diwrnod cyfan â’r safle. Yma, aethant am dro  i ddysgu am y lle ac i gwrdd â’n ceffylau lled-wyllt; fe wnaethant gymryd rhan mewn sesiwn mathemateg awyr agored gyda Simon Ayres lle dysgon nhw am rifau Fibonacci a’u perthynas gyda natur; buont yn chwilota am ddeunyddiau naturiol i greu mandalas mawr ar lawr gyda Holly Owen, arlunydd amgylcheddol.

Mandala 6 Penrhyncoch

I rai plant, hwn oedd eu profiad cyntaf erioed o fod mewn lleoliad mor anghysbell a gwyllt. Nid oedd rhai o’r plant wedi bod allan o’u tref enedigol o’r blaen. Roeddent wrth eu boddau! Yn ddiweddarach yn y Gaeaf, ymwelodd Milly Jackdaw, ac yn yr ail flwyddyn Clarissa Richards, â’r ysgolion i hau mes gyda’r disgyblion, un ar gyfer pob plentyn. Byddant yn gofalu am eu eginblanhigion derw am 2 flynedd, cyn dychwelyd i Fwlch Corog yn eu trydedd flwyddyn i blannu eu coed ar y safle.

Yn nhymor yr Haf 2019 cymerodd y disgyblion ran mewn sesiwn celf greadigol undydd dan arweiniad Holly Owen ac Arbenigwr Addysg Coetir Anian, Clarissa Richards. Y nod oedd creu llinell amser ar gyfer Coetir Anian – sut roedd yn edrych yn y flwyddyn gyntaf a sut y gallai edrych mewn 10 mlynedd ac yna 100 mlynedd. Ar hyn o bryd mae rhedyn yn un o’r rhywogaethau amlycaf ar y safle, felly daeth Holly ag enghreifftiau o ffrondiau rhedyn i’r disgyblion eu defnyddio i greu lluniau pensil a arsylwyd yn ofalus. Yna cafodd y rhain eu torri allan a’u gludo ar ddarn hir o bapur.

Ar gyfer eu lluniadau o sut y gallai Coetir Anian edrych mewn 10 mlynedd, chwaraeodd y disgyblion rôl ‘Ditectifs Natur,’ gan ddarllen cliwiau i ddarganfod ffeithiau am wahanol blanhigion ac anifeiliaid a allai fod wedi ymgartrefu ym Mwlch Corog. Yna fe wnaethant greu lluniadau pensil lliw o’r planhigion a’r anifeiliaid hyn a’u hychwanegu at y llinell amser.

Wrth feddwl sut y gall Coetir Anian edrych ymhen 100 mlynedd ’, chwaraeodd y disgyblion dditectif eto yn ogystal â chymryd rhan mewn trafodaethau cyn darlunio, gyda phasteli y tro hwn, yr anifeiliaid a’r planhigion y gobeithiwn weld yn y dyfodol e.e. gwiwerod coch, afancod ac amrywiaeth ehangach o goed a phlanhigion. Dysgodd y disgyblion am bwysigrwydd amrywiaeth mewn natur ac roedd adran 100 mlynedd y llinell amser yn frith o liw ac amrywiaeth ffawna a fflora! Roedd amser ar gyfer rhai gemau cysylltiad natur hefyd a chyfle i ddysgu popeth am afancod gyda’n pyped afanc.

Yn Ysgol Pennal yng Ngwanwyn 2020, creodd y plant furluniau o goed brodorol gyda’r artist Elin Vaughan Crowley. Disgrifir hyn mewn erthygl arall Prosiect Creadigol Ysgolion Cynradd gyda fideo o’r gwaith creadigol.

Yn eu hail flwyddyn, mae’r disgyblion yn ymweld â’r coetir eto i ddysgu sgiliau crefftau byw’n wyllt. Yr Hydref y llynedd fe wnaethant ddysgu am danau gwersyll, beth sy’n gwneud golofged da ac fe wnaethant i gyd roi cynnig ar gynnau tân. Cafodd rhai o’r plant hwyl fawr ar hyn, tra bod eraill yn gorfod goresgyn eu hofn o dân. Datblygodd pob un ohonynt hyder trwy gael hyfforddiant ac yna ymddiriedaeth i gymryd rhan mewn gweithgaredd ‘peryglus’.

Mae’n bleser pur gweld y plant y tu allan yn cael hwyl mewn tirwedd wyllt. Mae’r sesiynau’n cynnwys digon o amser heb strwythur i chwarae rhydd fel y gallant ryngweithio â natur yn eu ffordd eu hunain.

Mae’r mwyafrif ohonyn nhw’n cael eu denu at ddŵr, yn chwarae gyda’i gilydd yn y nant, neu’n cael llawer o fwynhad o ardal y gors. Dywed yr athrawon wrthym fod plant sy’n cael anhawster ymgysylltu ag addysg yn yr ysgol yn ymddangos yn hapusach ac yn ymwneud yn fwy â gweithgareddau yn yr amgylchedd hwn. Gofynnodd un pennaeth a allent ddod yn ôl bob wythnos!