
Hoffem gyflwyno aelod diweddaraf ein tîm – croeso i Lora, ein Swyddog Prosiect.
Magwyd Lora yn Nhywyn ac, ers yn ifanc, mae hi wedi mwynhau treulio amser tu allan ym myd natur. Ar ôl meithrin angerdd dros gadwraeth, penderfynodd Lora astudio gwyddorau biolegol yn y brifysgol ac mae hi hefyd wedi datblygu cyfoeth o brofiad ym maes natur a chadwraeth trwy fynd ar drywydd cyfleoedd gwirfoddoli amrywiol. Mae’r rhain wedi cynnwys cymorthydd fferm (Sbaen), gwaredu plastig o’r cefnfor ar gyfer In The Same Boat (Norwy), cynorthwyydd gwaith maes cadwraeth gwiwerod coch (Bunloit a Cawdor), cadwraeth rhywogaethau a lliniaru gwrthdaro dynol-bywyd gwyllt ar gyfer Sefydliad Naankuse (Namibia.)
Aeth dwy rôl ddiweddaraf Lora â hi i’r Alban, yn gyntaf fel gwirfoddolwr sgiliau cadwraeth preswyl gyda’r RSPB Forsinard Flows lle roedd ei rôl yn cynnwys arwain grwpiau gwirfoddol mewn amrywiol dasgau gwarchodfeydd megis arolygon dyfnder mawn, casglu sbwriel a gofalu am y blanhigfa goed brodorol. Yn ystod ei lleoliad diweddaraf fel ceidwad cynorthwyol gydag Ymddiriedolaeth Natur yr Alban ar Ynys Handa, mwynhaodd Lora gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau. Roedd ei chyfrifoldebau’n cynnwys arwain ar fonitro’r llygod mawr brown, cyflawni llawer o dasgau ymarferol ar y warchodfa megis atgyweirio llwybr pren, rheoli’r system dŵr yfed a chyfarch ymwelwyr â’r ynys gyda sgwrs groeso.
Rydym yn falch bod Lora wedi symud yn ôl i Gymru gan ein bod yn siŵr y bydd ei gwybodaeth, ei phrofiadau a’i brwdfrydedd yn gaffaeliad i’n tîm.