
Mae’r ffrwd newyddion hon wedi bod yn dawel ers tro – ymddiheuriadau am hynny. Roedd gennym ni brinder staff am gyfnod, ac roedd yn rhaid i ni flaenoriaethu pethau eraill wrth i ni recriwtio aelodau newydd o’r tîm ac wrth iddyn nhw setlo i’w roliau a dal i fyny gyda phopeth oedd angen ei wneud. Fe wnawn ein gorau i roi’r newyddion diweddaraf i chi o hyn ymlaen am yr hyn sy’n digwydd ar ein safle, Bwlch Corog.
Y ffordd orau o gadw i fyny yw ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, lle rydyn ni’n postio diweddariadau byr rheolaidd – a byddwn ni’n cysylltu ag erthyglau yma hefyd, felly os ydych chi ar gyfryngau cymdeithasol mae’n werth ein dilyn ni. Rydyn ni ar Facebook, Instagram, X (Trydar / Twitter) a LinkedIn. Os ydych chi yn ein dilyn ni, mae’n help mawr i ni os ydych chi’n ‘hoffi’ neu’n rhyngweithio fel arall â’n postiadau, oherwydd po fwyaf o sylw rydyn ni’n ei gael, y mwyaf y bydd yr algorithmau yn dangos ein gweithgaredd i ddefnyddwyr eraill nad ydyn nhw efallai’n ymwybodol ohonom ni eto. Diolch!
Bydd erthyglau newydd yn ymddangos yma’n fuan, ond yn y cyfamser, mae’r rhan fwyaf o’n newyddion o’r flwyddyn ddiwethaf i’w gweld yn ein cylchlythyr diweddaraf (rhifyn Rhagfyr 2024 – efallai eich bod wedi ei weld yn barod).
Diolch am eich amynedd!