Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau newydd wedi dechrau yn ei rôl. Mae gan Neil gyfoeth o brofiad yn y maes ac mae’n awyddus i ddechrau gweithio ar ein prosiectau cyffrous niferus gan gynnwys adfer mawndiroedd a datblygu partneriaethau tirwedd. Fel y gwelwch o’r llun, mae wedi cael ei fetio gan rai o aelodau pwysicaf y tîm a chredwn eu bod yn cymeradwyo ein cydweithiwr newydd! Croeso, Neil!