Mentrodd Cyfarwyddwr y Prosiect, Katy a’r Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau, Neil i ardaloedd pellaf ein ‘cors fawr’ i wneud rhywfaint o waith monitro anffurfiol o’n gwaith adfer mawndiroedd.
Yn 2023, gyda chyllid gan Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, Cyfoeth Naturiol Cymru, buom yn arbrofi gyda thechnegau ar gyfer lleihau gorchudd Molinia ar ein hardaloedd o fawn dwfn. Yn dilyn ymgynghoriad ag ecolegydd a gyda chymorth contractwr arbenigol, crafwyd gwellt y gweunydd o rai mannau, gan ddefnyddio cyfuchliniau’r tir i greu argaeau bychain cyn plannu plygiau migwyn. Yn natur arbrofi, nid yw pob ardal wedi llwyddo 100% ond ar eu hymweliad diweddaraf, roedd Katie a Neil yn falch o weld llwyddiant mawr yn yr ardaloedd o fawn dyfnaf – mae’r migwyn yn ffynnu a’r ‘pyllau’ bach yn fyw gyda madfallod, llyffantod a gweision y neidr. Byddwn yn parhau gyda’r gwaith eleni, gan addasu ein technegau yn seiliedig ar ddarganfyddiadau’r llynedd.