White calf with red ears Yn ystod misoedd yr haf, mae Bwlch Corog yn darparu porfa i rai o wartheg un o’n hymddiriedolwyr, Joe Hope. Eleni, bydd y fuches yn cynnwys llo ychydig yn anarferol gan fod gan ychwanegiad diweddaraf i fferm Joe olwg nodedig iawn! Mewn llên gwerin Celtaidd credir bod anifeiliaid gwyn â chlustiau coch yn dod o’r Arallfyd. Gan ein bod ni’n cysgodi yng nghanol gwlad y Mabinogion, efallai ein bod wedi cael anrheg o Annwn! Felly, os ydych chi’n crwydro Bwlch Corog yn ystod y misoedd nesaf, cofiwch gadw llygad allan am y creadur prin hwn. Gallwch ddarganfod mwy yma.