Diolch i brosiectau lleol ledled y byd a phersonoliaethau proffil uchel fel Syr David Attenborough a Greta Thunberg, mae ‘ailwylltio’, neu ‘dad-ddofi’, wedi dod yn derm adnabyddus iawn, ac un sydd yn dynodi gobaith yn wyneb trychineb amgylcheddol i lawer. Defnyddir Coetir Anian weithiau fel enghraifft gan rai – fodd bynnag nid ydym ni’n disgrifio’r prosiect fel ‘ailwylltio’. Nodwn ein rhesymeg isod.

Dydy’r term ddim wedi ei ddiffinio’n dda, ac mae’n golygu pethau gwahanol i bobl gwahanol. I nifer o bobl yn lleol, mae’r term wedi dod i gyfleu’r syniad o gefnu ar dir a’i adael i fynd yn ddiffaith. Nid dyma beth yw bwriad ein prosiect. Mae ein rheolaeth o’n safle ym Mwlch Corog yn actif ac yn cynnwys ymyriad adferol. Rydym wedi ail-gyflwyno anifeiliaid sy’n pori (ar ôl saith mlynedd heb unrhyw bori cyn i’r tir dod i’n meddiant ni) yn ogystal â chynnal cyrsiau addysgol yn ymgymryd â chysylltiad â natur. Yn wir, mae pori a chyflogaeth achlysurol o gontractwyr amaethyddol lleol yn elfennau hanfodol o’n rheolaeth o’r tir. Mae hyn ymhell o gefnu ar y tir neu ei droi’n ddiffaith.

O fewn y symudiad ailwylltio mae llawer o drafodaeth ynglŷn â beth olyga’r term. Y diffiniad mwyaf syml yw troi lle (neu berson) yn fwy gwyllt. Mae hyn yn ddehongliad da, ond yn dibynnu ar beth yr ydych yn golygu o’r gair ‘gwyllt’ ac, yng nghyswllt hyn, p’un ai eich bod yn golygu ‘gwyllt’ i fod yn beth da neu’n beth drwg. Mae trafodaeth hefyd ynglŷn â p’un ai gall tirwedd wedi ei ailwylltio gael ymyriad dynol ai peidio, ac ar ba ffurf. Er enghraifft, a yw plannu coed yn enghraifft o ailwylltio? Beth am gael gwared ar rywogaethau sy’ ddim yn frodorol, er enghraifft pyrwydd sitca? Mae trafodaeth hefyd o gwmpas rôl pori gan lysysorion mawr. Mae rhai (fel Mark Fisher) yn gweld pori’n wrthwynebol i ailwylltio, ond eraill yn dweud fod pori yn rhan naturiol o dirwedd wyllt ac felly yn chwarae rhan mewn ailwylltio. Ac os ydy llysysorion mawr yn bresennol, dylai eu poblogaethau cael eu gadael heb reolaeth, fel yn Oostvaardesplassen yn yr Iseldiroedd, neu callach byddai rheoli’r niferoedd, fel yn Knepp, Sussex?

Mae hefyd amrywiaeth yn yr hyn mae’r term yn golygu ymhlith pobl y tu allan i’r symudiad. Yn gyffredinol iawn, ymddengys fod gan bobl y dref syniad positif o ailwylltio fel ateb i golled fywyd gwyllt sy’n parhau er y gwaith amddiffynnol gan sefydliadau cadwraeth draddodiadol. Mae pobl y wlad, yn enwedig rheiny sy’n gwneud eu bywoliaeth o ffermio neu hela yn aml yn fwy drwgdybus o ddad-ddofi. Mae Coetir Anian yn brosiect cymunedol wedi ei sefydlu ym Machynlleth gan bobl leol, nepell o’n tir ym Mwlch Corog. Yma, yng nghanol y gymuned wledig, ble mae ffermio anifeiliaid yn brif weithgaredd, rydym yn ymwybodol iawn o sut mae ailwylltio’n cael ei weld yn lleol. Mae llawer o fewn y diwydiant amaethyddol yn dueddol o gymryd ailwylltio i olygu ail gyflwyno cigysyddion mawr a gadael tir i fynd yn ddiffaith, ac yn ystyried hyn yn debygol o arwain at golledion bywoliaeth, diboblogi’r ardal, colli etifeddiaeth ffermio, a cholli’r iaith.

Pwrpas Coetir Anian yw adfer cynefinoedd a rhywogaethau, a rhoi cyfle i bobl ymwneud yn uniongyrchol â natur. Yn bennaf, adnodd cymunedol yw Coetir Anian, ble gall pobl leol gymryd rhan mewn prosiect yn eu tirwedd lleol. Neu, gallant ddefnyddio’r safle ar gyfer adloniant, yn cynnwys gwersylla gwyllt, mewn lle ble maent yn gallu teimlo eu bod yn perthyn, ble nad oes angen iddynt dalu am y fraint. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi eu datgysylltu o’r tir ac yn hiraethu am gysylltu â natur, ond yn aml yn teimlo eu bod yn dresbaswyr yn y dirwedd. Mae Coetir Anian am gywiro hyn – dylai cysylltu â’r tir fod yn hawl i bawb, nid yn unig i leiafrif ffodus. Dyma sut mae Coetir Anian yn ceisio gwasanaethu’r gymuned leol.

Mae’r prosiect yn darparu cyflogaeth ac wedi ei seilio yn nhreftadaeth naturiol a diwylliannol yr ardal. O fewn cof byw, roedd y bryniau yma yn llawn sŵn y gylfinir a’r rugiar, a’r afonydd yn llawn eog a brithyll. Rydym am weld y ffyniant naturiol yma yn dychwelyd.

I gloi, rydym wedi ymrwymo i adfer natur wyllt gymaint â phosibl yng nghyd-destun amodau lleol, treftadaeth naturiol a diwyllianol yr ardal, a’r iaith Gymraeg. O ystyried yr ystod eang o wahanol ganfyddiadau o ystyr y term ‘ailwylltio’, gan gynnwys gadael tir a cholli bywoliaethau, sy’n groes i’r hyn y mae Coetir Anian yn ei gyflawni, nid yw’n briodol i ni ddefnyddio’r gair i disgrifio ein gweithgareddau. Rydym yn gobeithio y bydd y bobl hynny sydd â diddordeb cadarnhaol mewn ‘ailwylltio’, fel ysgogiad i ddychwelyd digonedd naturiol i’r tir, yn parhau i gael eu denu at y prosiect – ynghyd â’r rhai sy’n ddealladwy yn wyliadwrus o’r term a’i ddefnydd mewn rhai cyd-destunau.