Mae gan Sefydliad Tir Gwyllt Cymru gyfle i ymddiredolwyr newydd ymuno â’i Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae’r elusen yn ymroddedig i adfer cynefin bywyd gwyllt yng Nghymru ac annog pobl i gysylltu â natur wyllt. Ar hyn o bryd ein prif brosiect yw Coetir Anian, neu Cambrian Wildwood, wedi’i leoli ym Mynyddoedd y Cambria.

Mae Coetir Anian yn safle 350 erw wedi’i leoli ger Machynlleth, caffaelwyd y tir yn 2017 mewn partneriaeth â’n partneriaid prosiect, Coed Cadw (Woodland Trust). Mae’r tir yn cynnwys ardal o goetir hynafol ‘Coedwig law Celtaidd’, ac ardal fawr o gynefin ucheldir dirywiedig wedi’i ddominyddu gan wellt y gweunydd.

Mae’r prosiect wedi dechrau’r broses o adfer cynefinoedd coetir, cors flanced a rhostir. Porir y tir gan gyr o geffylau lled-wyllt, ac rydym yn dechrau gweld amrywiaeth o rywogaethau adar yn dychwelyd, fel ehedydd, telor y ceiliog rhedyn, y gog, y rugiar goch a sawl aderyn ysglyfaethus.

Mae’r coetir yn gartref i bathewod cyll a gwelwyd bele ar adegau.

Mae gan y prosiect raglen cynhwysfawr mewn addysg ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Rydym yn gweithio gydag Ysgolion Cynradd lleol, lle mae’r plant yn cymryd rhan mewn rhaglen tair blynedd o weithgareddau ar y safle ac yn yr ysgol. Cynhelir gwersylloedd ieuenctid ar gyfer grwpiau Ysgol Uwchradd lle mae’r bobl ifanc yn gwersylla am bum niwrnod ac yn dysgu am fyw ym myd natur. Rydym hefyd yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli yn reolaidd yn ogystal â chynnal gweithgareddau eraill ar y safle.

 

Tîm o dri aelod o staff a Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n rhedeg y prosiect. Ar hyn o bryd, rydym yn cael ein hariannu gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, Glastir Advanced, rhoddion a chyllid grant.

Mae cyfle bellach wedi codi i un neu fwy o aelodau newydd ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.

 

Yr hyn rydym yn chwilio amdano …

Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi’u gwreiddio yn yr ardal leol sy’n meddu ar ddealltwriaeth ddofn o natur a diwylliant Cymru. Mae rhuglder yn y Gymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol (cynhelir cyfarfodydd y bwrdd trwy gyfrwng y Saesneg). Rydyn ni eisiau clywed gan bobl sy’n angerddol am natur a phobl yn ffynnu gyda’i gilydd.

Os oes gennych sgiliau a phrofiad yr hoffech eu cynnig tuag at lywodraethu elusen fach, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Buasem yn gwerthfawrogi’n arbennig sgiliau a phrofiad mewn un neu fwyd o’r meysydd canlynol; cyfathrebu allanol, ecoleg, rheoli tir, addysg, cysylltiad natur, hanes lleol a llên gwerin, cyllid neu brofiad blaenorol fel ymddiriedolwr elusennol.

Trwy ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr byddwch yn cefnogi prosiect arloesol i adfer natur sy’n creu cyfleoedd i blant ac oedolion gysylltu â natur wyllt mewn cyfnod cyffrous yn ei daith. Byddwch yn gweithio gyda’r tîm o staff ac ymddiriedolwyr i ddatblygu syniadau ar gyfer dyfodol yr elusen.

Os hoffech fynegi eich diddordeb yn y rôl hon neu wneud ymholiadau pellach, cysylltwch â ni trwy’r dudalen cysylltu ar y wefan.