Bu 2020 yn flwyddyn rhyfedd a heriol i Goetir Anian fel i weddill y wlad. Y siom fwyaf i ni oedd na allem gynnig ein gweithgareddau wyneb yn wyneb i ieuenctid yr ardal a hynny yn ystod cyfnod pan fyddai ymgysylltu â natur wedi bod o fudd wrth ymdopi gyda’r cyfnod anarferol oedd ohoni. Felly, yn hytrach na llaesu dwylo, aethpwyd ati i feddwl am ffyrdd i gefnogi’r bobl ifanc o bell. Canlyniad hyn oedd Arts Drop Natur.

Yn ystod mis Tachwedd derbyniodd cannoedd o blant a phobl ifanc bregus yng Ngheredigion a Phowys pecynnau gweithgaredd fel rhan o brosiect i gefnogi iechyd meddwl a lles tra dan gyfyngiadau Covid-19.
Mae Arts Drop Natur – y fenter gyntaf o’i math – yn dosbarthu bagiau o ddeunyddiau creadigol i helpu teuluoedd i fwynhau gweithgareddau hwyliog gartref.
Yn seiliedig ar y rhaglen Arts Drop wreiddiol a gefnogodd filoedd o deuluoedd yn Calderdale, Gorllewin Swydd Efrog yn ystod y cyfnod clo cyntaf, Arts Drop Natur yw’r cyntaf i gysylltu creadigrwydd â natur. Yn y pendraw, bydd y cynllun wedi trosglwyddo 600 o fagiau i weithwyr allweddol eu dosbarthu i blant a phobl ifanc sydd wedi eu hynysu ac sy’n cael eu heffeithio’n andwyol gan dlodi.

Dywedodd Clarissa, ein Harbenigydd Addysg, “Cefais fy nghyfareddu gan Arts Drop ac roeddem yn teimlo y gallai weithio’n dda iawn i gefnogi teuluoedd yn ein hardal ni. Ar y pryd roeddem yn teimlo’n rwystredig na allem gwrdd a chefnogi’r plant a phobl ifanc trwy redeg ein rhaglenni addysg a lles ar ein tir ger Machynlleth. Felly, roedd gallu cynnig y gweithgareddau yma yn hynod bwysig i ni.”

Mae’r bagiau, sydd wedi eu creu ar gyfer tri grŵp oedran – 0 i 5, 6 i 11 a 12 i 18, bellach wedi eu pacio gyda llond trol o ddeunyddiau fel llyfrau braslunio, paent, papur lliw, play-doh, glud, chwyddwydr a siswrn. Ond efallai taw elfen bwysica’r bagiau yw’r set bwrpasol o gardiau post sy’n cyflwyno 20 her syml, hwyliog gan gynnwys gwneud draenog neu goron natur, gwehyddu neu fynd am daith troednoeth.

Dyluniwyd y pecynnau a’r gweithgareddau o dan arweiniad Elaine Burke, ymgynghorydd celfyddydau ac iechyd sy’n arwain Arts Drop a hithau sbardunodd y prosiect ar ôl llwyddiant y peilot yn Calderdale.

Yn ôl Elaine: “Cawsom ymateb gwych i’r Arts Drop cyntaf yn Calderdale a phan glywsom fod gan Coetir Anian ddiddordeb yn y cynllun, achubom ar y cyfle i ychwanegu dimensiwn newydd sbon trwy greu Arts Drop Natur. Mae yna gamdybiaeth bod bywydau pobl yn ddelfrydol oherwydd eu bod wedi’u hamgylchynu gan dirwedd hardd ond rydyn ni’n gwybod bod tlodi gwledig ar gynnydd a bod cymunedau gwledig yn profi pob math o anawsterau iechyd meddwl. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod manteision enfawr i fod y tu allan ym myd natur a phan fyddwch chi’n cyfuno natur a chreadigrwydd rydych chi’n rhoi hwb i effeithiau’r ddau. Mae cael plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn yn eu cysylltu â’u lle, yn eu harwain i’r awyr iach ac yn datblygu eu creadigrwydd.”

Cefnogwyd Arts Drop Natur gan Gronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru, sy’n gweithredu o dan adain Sefydliad Cymunedol Cymru, a Chronfa Gymorth Covid-19 Moondance. Mae YPO Ltd, sefydliad o Wakefield sy’n cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau ledled y DU i gwsmeriaid gan gynnwys ysgolion a chartrefi gofal, wedi parhau â’i gefnogaeth i Dîm Arts Drop. Unwaith eto, rhoddodd Chris Mould, yr awdur a darlunydd o Halifax, ei wasanaethau yn rhad ac am ddim i ail-ddylunio logo arbennig Arts Drop Natur sy’n addurno’r bagiau gweithgaredd.

Dosbarthwyd y pecynnau i ysgolion, Barnardo’s Cymru, canolfan ar gyfer teuluoedd ffoaduriaid o Syria a’r gwasanaethau cymdeithasol ac mae’r ymatebion cychwynnol wedi bod yn hynod bositf. Meddai Clarissa, “Roedd paratoi’r bagiau yn dasg a hanner ond ein gobaith yw y byddant yn helpu i wella lles meddyliol plant a’u teuluoedd yn ystod y pandemig a thu hwnt, trwy eu cysylltu â natur. Yn aml, mae’n her dod o hyd i swyddi sy’n talu’n dda yn yr ardal. Mae lefelau tlodi yn uchel ac mae llawer o bobl sy’n gweithio yn gwneud gwaith shifft, sy’n anodd pan fydd gennych deulu. Yn aml, nid oes gan rieni yr amser yr hoffent i dreulio gyda’u plant yn yr awyr agored.

“Rhan o fwriad y pecynnau yw cynnig syniadau a hyder iddynt am sut i ddefnyddio deunyddiau naturiol a phethau y gallant eu gwneud gyda phlant yn yr awyr agored. Gyda’r bagiau anfonwn neges at blant bregus eu bod yn bwysig ac nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio.”