Tra’n crwydro Bwlch Corog, gwelodd ein Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau yr Yfwr Gwlith hardd hwn – er nad yw’n un o’n gwyfynod prinnach, mae’n dda ychwanegu rhywogaeth arall at y rhestr ar gyfer Bwlch Corog! Credir bod y gwyfyn hwn wedi’i enwi oherwydd bod y lindysyn yn yfed diferion o wlith ar goesynnau glaswellt. Maent yn ffafrio lleoedd llaith a chorsiog felly mae ardaloedd ucheldirol ein safle yn gynefin perffaith iddynt.