Mae strwythur newydd wedi’i gwblhau ym Mwlch Corog, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ddarparu lloches ar gyfer gweithgareddau, crefftau, gemau, prydau bwyd, ac ymlacio i grwpiau sy’n treulio amser ar y safle. Rydym yn ei alw’n Lloches Addysg.

Mae’r lloches dymhorol hon yn ofod dan do, agored ei waliau, sy’n cynnig lloches rhag y glaw a chysgod rhag yr haul yn ystod rhan boethaf y dydd, fel y gall grwpiau sy’n cymryd rhan mewn digwyddiadau a chyrsiau ym Mwlch Corog elwa o dreulio amser yn yr awyr agored ym mhob tywydd – heblaw am dywydd eithriadol o arw.

Wedi’i fframio o goed llarwydd a dorrwyd ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd, a dynnwyd gan geffyl a’i risgl wedi’i blicio i ffwrdd gan ddefnyddio offer llaw, mae ôl troed carbon y lloches yn fach iawn. Diolch i’w chynnwys resin uchel, mae llarwydd yn naturiol yn gallu gwrthsefyll pydredd, a gall fod yn agored i’r elfennau am flynyddoedd lawer cyn y bydd angen ei newid, heb fod angen triniaeth gemegol. Nid oes unrhyw bren yn para cyhyd o dan arwyneb y ddaear ag uwchben, ond defnyddiwyd dulliau ecogyfeillgar i ymestyn oes pyst y lloches, sy’wedi eu suddo i’r ddaear er mwyn sefydlogrwydd. Mae’r darnau hyn wedi’u trin trwy losgi eu harwyneb – techneg a elwir yn aml wrth yr enw Japaneaidd shou-sugi ban – a’u gosod mewn tyllau wedi’u leinio â cherrig. Mae’r wyneb wedi’i llosgi yn ffurfio haen amddiffynnol ar du allan y pren sy’n gwrthsefyll pydredd. Mae’r garreg, sydd unwaith eto’n dod o bellter byr iawn o fewn y safle, yn caniatáu i ddŵr glaw ddraenio i ffwrdd ac yn cadw’r pren yn llawer sychach nag y byddai pe bai mewn cysylltiad â’r pridd.

Y Lloches yn ystod y gwaith adeiladu

Mae gan y strwythur do goleddf dwbl, ac mae dau darpolin ar ei ben – un newydd ac un wedi’i ail-bwrpasu, ar ôl bod yn do’r Lloches Addysg wreiddiol y mae’r un hon yn ei disodli. Bydd y tarpolinau hyn yn cael eu tynnu dros y gaeaf pan fydd y tywydd ar ei waethaf, a phan ddisgwylir gwyntoedd arbennig o gryf yn ystod yr haf. Fodd bynnag, bydd eu dyluniad yn caniatáu i wyntoedd cymedrol basio rhwng y goleddfu a thrwy’r strwythur, tra’n dal i ddarparu lloches a chysgod.

Rydyn ni’n meddwl bod y lloches newydd hon yn brydferth, ac mae eisoes yn profi ei gwerth fel gofod defnyddiol, addasadwy sy’n caniatáu profiad natur i grwpiau a chyfranogwyr digwyddiadau wrth tra’n eu hamddiffyn rhag yr elfennau. Diolch yn fawr i Chris a Sven am eu gwaith yn codi’r lloches, ac i’n gwirfoddolwyr gwych am blicio’r holl bolion a chario’r garreg ar gyfer gosod y pyst ynddi.

Cofiwch fod Bwlch Corog ar agor i’w archwilio unrhyw bryd, felly os hoffech weld y lloches newydd, edrychwch ar ein tudalen Ymweld â Bwlch Corog i weld sut i gyrraedd y safle. Nodwch, pan fydd grwpiau ar y safle, efallai y gofynnir i chi gadw draw o rannau penodol o’r safle, gan gynnwys y Lloches Addysg, felly gwiriwch y calendr cyn ymweld.

Ac os hoffech chi ei weld heb deithio i Fwlch Corog, edrychwch ar y fideo isod.

Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru a’u Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.

  Â