Digwyddiadau a Chyrsiau
Diwrnod Hadau Coed Cymunedol
Sadwrn 27ain Medi
10:00 – 15:30

Bob hydref, rydym yn gwahodd y gymuned leol i ymuno â ni mewn diwrnod o ddathlu coed, a chasglu hadau o’n coed i’w tyfu ymlaen gan feithrinfa goed leol. Pan fyddant yn barod i fynd i’r ddaear, bydd y glasbrennau a dyfir o’r hadau hyn yn cael eu plannu yn ôl ar ein safle. Mae defnyddio hadau o darddiad lleol ar gyfer plannu coed yn bwysig am amrywiaeth o resymau, ac nid oes dim mwy lleol na hyn.
Bydd hwn yn ddiwrnod hamddenol, cyfeillgar, gyda digon o ddiodydd poeth a sgwrsio am goed a phopeth sy’n gysylltiedig â nhw!
Cyhoeddir manylion cyn gynted ag y cawn nhw, ond am y tro, rhowch y dyddiad yn y dyddiadur os ydych chi’n caru coed neu eisiau deall pam eu bod nhw’n bwysig, neu pam a sut rydym ni’n eu plannu ym Mwlch Corog.
Diwrnodau Gwirfoddoli
Dau bob mis
Gwelwch y dyddiadau yma

Mae ein diwrnodau gwirfoddoli’n ffordd wych o dreulio amser yn yr awyr agored, yn gwneud gwaith sy’n bodloni’r enaid mewn lle prydferth! Ewch i’n tudalen Gwirfoddoli i weld yr holl fanylion.
Bydd mwy o ddigwyddiadau yn ymddangos yma wrth i ni eu trefnu. Byddwn yn eu postio ar ein cyfryngau cymdeithasol hefyd (mae dolenni i’n dilyn ar waelod y dudalen hon) neu gallwch ymuno â’n rhestr e-bost isod os hoffech hoffi cael eich diweddaru. Cymerwch olwg ar ein hadolygiad o 2023 neu ein cylchlythyr diweddaraf i weld pa fath o bethau rydyn ni’n eu gwneud.
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o weld Bwlch Corog, ac i sgwrsio gyda’n staff a darganfod beth ydyn ni i gyd amdano.
A gallwch chi bob amser ymweld â Bwlch Corog yn eich amser eich hun!