gan Simon Ayres

Erthygl arall yn ein cyfres sy’n edrych ar berthnasoedd dynoliaeth â natur. Nid yw cynnwys yr erthygl hon yn adlewyrchu barn yr elusen sy’n parhau i fod yn niwtral ar gwestiynau polisi.

Mewn neges i arweinwyr byd, erfynia Nemonte Nenquimo, arweinydd y Waorani yn rhanbarth yr Amazon, ar i wareiddiad y Gorllewin ddysgu gan bobl lwythol a newid ei berthynas â’r blaned. Un o agweddau trawiadol y neges yw’r difaterwch a’r dirmyg tuag at yr economi ddiwydiannol-brynwr y mae’n cyfeirio ati fel gwareiddiad y Gorllewin.

Ysgrifenna Nemonte Nenquimo am y cynlluniau parhaus i dorri’n ddarnau ein tiroedd i ysgogi economi nad yw erioed wedi bod o fudd i ni. Noda, fel pobl frodorol, rydym yn ymladd i amddiffyn yr hyn rydyn ni’n ei garu – ein ffordd o fyw, ein hafonydd, yr anifeiliaid, ein coedwigoedd, bywyd ar y Ddaear – ac mae’n bryd ichi wrando arnom. Mae’n arwyddocaol ei bod yn sôn am amddiffyn eu ffordd o fyw, yn hytrach na cheisio cyfran mewn economi marchnad.

Wrth ymhelaethau, mae hi’n collfarnu’r gweithgareddau diwydiannol echdynnol a llygrol sy’n dinistrio eu tir a llawer o weddill y blaned, gan dynnu sylw at y celwyddau cysylltiedig ynglŷn â diogelu’r amgylchedd a buddion i bobl leol – Gorfodoch chi eich gwareiddiad arnom ni a nawr edrychwch ble ry’n ni…

Mae Nemonte Nenquimo yn nodi’n glir, rwyf wedi dysgu digon (ac rwy’n siarad law yn llaw gyda fy mrodyr a chwiorydd brodorol ledled y byd) i wybod eich bod wedi colli eich ffordd.

Heb os, mae cymdeithas sy’n dinistrio’r amgylchedd, yn gwenwyno’r dŵr, yn llygru’r aer, ac sy’n creu anfodlonrwydd ac anghenion artiffisial er mwyn gyrru prynwriaeth yn ‘golledig’. Mae’r casgliad hwn yn dwyn i gof eiriau Salima Hirani * a ddefnyddiwyd yn y cyd-destun hwn: “Os ydych ar goll, y peth gorau i’w wneud yw olrhain eich camau i’r man lle’r oeddech cyn i chi fynd ar goll.” Mae’r erthygl hon yn archwilio’r cynnig o olrhain ein camau yn ôl, gan ddychwelyd i fyw mewn cydbwysedd â’n hecosystemau.

Yn aml, datgenir “Ni allwn fynd yn ôl” ysbryd slogan sy’n stopio meddwl. At beth mae ‘mynd yn ôl’ yn cyfeirio yma? Yn gyffredinol, cymerir ei fod yn golygu dychwelyd i system economaidd

symlach a ymarferwyd gan ein cyndeidiau. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft: technolegau symlach; darparu ar gyfer ein gwir anghenion; peidio creu anghenion artiffisial; ymarfer economïau lleol; bod â chysylltiad agosach â chynhyrchu; byw mewn cytgord â’n hamgylchedd; peidio defnyddio arian. Yn y bôn, y ffordd o fyw y mae pobl Waorani yn brwydro mor galed i’w chadw.

Byddaf yn cyflwyno detholiad o brofiadau cymunedau sy’n brwydro i warchod ffordd symlach o fyw yn wyneb ei golli i ‘gynnydd’, ac o bobl sy’n dewis dychwelyd i fywyd sy’n fwy cytbwys â gweddill bywyd ar y blaned hon. Dangosa’r enghreifftiau hyn ei fod yn bosibl ‘mynd yn ôl’, ac ar ben hynny ei fod yn gynnig dymunol o safbwynt unigolyn neu bersonol. Mae’r angen o safbwynt y blaned yn ddi-gwestiwn. Yn gyntaf, byddaf yn adolygu’n fyr y cysyniad o ‘gynnydd’ sy’n darparu’r cyd-destun paradeim ar gyfer y syniad “na allwn fynd yn ôl”.

Rydyn ni’n hoffi adrodd stori wrth ein hunain bod gwareiddiad ar lwybr diwrthdro o esblygiad cymdeithasol tuag at greal sanctaidd o hollalluogrwydd technolegol. Ond ai stori yn unig ydyw, myth? O ystyried bod cymdeithasau dynol wedi goroesi am filiynau o flynyddoedd o dan amodau economaidd a chymdeithasol sefydlog mewn cydbwysedd â’u hamgylcheddau, gellir dadlau bod y gymdeithas ddiwydiannol-brynwr gyfredol yn blip dros dro, ac y byddwn yn dychwelyd i’r cyflwr dynol naturiol pan fyddwn ni wedi deffro i’r realiti nad yw’r system hon yr ydym wedi’i chreu yn gweithio. Efallai taw rhyfyg yw’r myth sy’n ymhyfrydu yn y triciau y gallwn eu gwneud. Efallai bod y myth yn ddyfais bropaganda i wneud inni brynu mwy o bethau nad oes eu hangen arnom.

Defnyddiwyd myth o gynnydd fel dyfais bropaganda i gyfiawnhau gwladychiaeth. Mae’r Athro Priya Satia, yn ei llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar ‘Time’s Monster – How History Makes History’, yn darparu beirniadaeth o haneswyr fu’n ysgrifennu yn ystod ac ar ôl yr Ymerodraeth Brydeinig. Cydnabuwyd bod trais, ymelwad, hiliaeth, newyn, pla a dinistr – cynhyrchion ac offer gwladychiaeth – yn ddrwg, ond fe’u cyfiawnhawyd fel pethau cyfochrog â’r orymdaith odidog o gynnydd gwareiddiad. Ni allwn osgoi’r argraff bod ‘cynnydd’ wedi cael ei ddefnyddio fel gwrthdyniad gan bobl bwerus i guddio eu gwir gymhellion o gynyddu eu cyfoeth a’u pŵer eu hunain. Efallai bod yr un deinamig yn digwydd heddiw yng nghyd-destun masnacheiddio.

Yn eironig, mae’r syniadau mwyaf blaengar ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau dybryd ein hamser yn amlwg cyn-ddiwydiannol. Enghraifft wych yw’r syniad newydd i ddatblygu llongau cargo sy’n cael eu pweru gan y gwynt ac yn meddu ar hwyliau.

Mewn dull tebyg, cyhoeddodd Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygiad, adolygiad Masnach ag Amgylchedd yn 2013 o’r enw ‘Wake up before it is too late.’ 

Canfu’r adolygiad fod systemau ffermio adfywiol ar raddfa fach yn fwy cynhyrchiol na dulliau cynhyrchu ungnwd ar raddfa ddiwydiannol, ac ar ben hynny maent yn darparu nifer o nwyddau cyhoeddus y mae cynhyrchu diwydiannol yn cael effaith negyddol arnynt. Cyflwynir ffermio ar raddfa fach draddodiadol fel yr ateb i lawer o broblemau byd-eang, megis newid yn yr hinsawdd, tlodi, llygredd, colli pridd, dinistrio bioamrywiaeth, ac ati. Mae’n annog newid cyfeiriad brys o gynhyrchu diwydiannol i ffermio cymysg ar raddfa fach.

Dyma ychydig enghreifftiau sy’n cwestiynu anocheledd a dymunoldeb gwareiddiad a chynnydd. Mae adroddiadau o Ogledd America o’r 18fed a’r 19eg Ganrif yn disgrifio ffordd o fyw pobloedd llwythol Brodorol America ac atyniad hyn i lawer o Ewropeaid.

Un enghraifft yw’r llythyr a ysgrifennwyd tua 1782 gan Hector St. John de Crèvecoeur, o’r enw ‘Distresses of a Frontier Man’. 

Fel ffermwr yng nghanol y Chwyldro Americanaidd roedd yn agored i gyrchoedd gan Ewropeaid eraill ar ochr America a Phrydain, ystyriodd Crèvecoeur yr opsiwn o fynd â’i deulu i fyw’n ddiogel gyda’r llwyth Americanaidd Brodorol lleol. Oherwydd ei ddiffyg gwybodaeth am eu ffordd o fyw a’i ragfarn o blaid diwylliant Ewropeaidd, bu’n betrusgar yn ei obaith. Ac eto gwyddai ddigon am ei gymdogion llwythol a phrofiadau da Ewropeaid eraill i fod yn optimistig.

Ysgrifenna Crèvecoeur am bentref gwych ymhell o gymdogaeth melltigedig Ewrop, mae ei drigolion yn byw gyda mwy o rwyddineb, gwedduster a heddwch, nag yr ydych chi’n ei ddychmygu: lle, er nad yw’n cael ei lywodraethu gan unrhyw ddeddfau, eto i gyd, mewn moesau syml heb eu halogi, mae’r holl ddeddfau hynny yn gallu ffynu. Mae eu system yn ddigon cyflawn i ateb holl brif ddymuniadau dyn, a’i alluogi’n fod cymdeithasol, fel y dylai fod yng nghoedwig fawr natur.

 

Yma, mae Crèvecoeur yn cymharu’r gwahanol ffordd o fyw yn ddiduedd:
Rwyf wedi ystyried ei holl effeithiau a thueddiadau ddaw i’n rhan, y dull newydd o fyw y mae’n rhaid i ni ei ddilyn, heb halen, heb sbeisys, heb liain a heb fawr o ddillad eraill; y grefft o hela, rhaid inni gaffael, y moesau newydd y mae’n rhaid i ni eu mabwysiadu, yr iaith newydd y mae’n rhaid i ni ei siarad; y peryglon i addysg fy mhlant y mae’n rhaid i ni eu dioddef. Efallai y bydd y newidiadau hyn yn ymddangos yn fwy dychrynllyd o bell na phan fyddant yn dod yn gyfarwydd: beth ydyw i ni, p’un a ydym yn bwyta crwst wedi’i wneud yn dda, neu ‘alagriches’ wedi’u malu; cig eidion wedi’i rostio’n dda, neu gig carw mwg; bresych, neu bwmpen? P’un ai ydym yn gwisgo dillad taclus wedi’u nyddu cartref neu afanc da; p’un ai ydym yn cysgu ar welyau plu, neu ar grwyn eirth? Nid yw’n werth talu sylw i’r gwahaniaeth.

Ysgrifenna Crèvecoeur am filoedd o Ewropeaid a ddewisodd aros gyda’r Americanwyr Brodorol pan gawsant gyfle i ddychwelyd i gymdeithas Ewropeaidd. Ac nid oedd wedi clywed am un ‘Indiaid’ pan gafodd gyfle i fyw’n gydradd yn nhrefi’r gwladychwyr nad oedd yn well ganddyn nhw ddychwelyd at ei lwyth.

Yn ôl pa bwer y digwydda, na ellir byth argyhoeddi plant sydd wedi’u mabwysiadu pan yn ifanc ymhlith y bobl hyn, i ail-gydio mewn moesau Ewropeaidd? Gwelais lawer i riant pryderus y rhyfel diwethaf, ar ôl dychwelyd yr heddwch, aethant i bentrefi’r Indiaid lle gwyddant bod eu plant wedi’u dwyn i gaethiwed; yna i’w tristwch llwyr, cawsant hwy yn Indiaidd llwyr, fel nad oedd llawer yn eu hadnabod mwyach, a’r rhai oedd yn hŷn ac yn cofio eu tadau a’u mamau, yn llwyr wrthod eu dilyn, ac yn rhedeg at eu rhieni mabwysiedig i gael eu hamddiffyn rhag arwyddion o gariad gan eu rhieni go iawn! Er mor anhygoel ymddangosa hyn, rwyf wedi clywed yr honiad mewn mil o achosion, ymhlith pobl dibynadwy. Ym mhentref ——, lle bwriadaf fynd, roedd Sais a gŵr o Sweden, tua phymtheng mlynedd yn ôl, yn byw, a’u hanes yn deimladwy, pe byddai gennyf amser i’w draddodi. Fe’u tyfwyd i oedran dynion pan gymerwyd hwy; fe wnaethant ddianc o gosb eithaf caethion rhyfel, a bu’n rhaid iddynt briodi’r Squaws a oedd wedi achub eu bywydau trwy eu mabwysiadu. Trwy rym arfer, o’r diwedd daethant yn gyfarwydd iawn â’r bywyd gwyllt hwn. Tra roeddwn i yno, anfonodd eu ffrindiau swm sylweddol o arian atynt i bridwerthu eu hunain ag ef. Rhoddodd yr Indiaid, eu hen feistri, eu dewis iddynt, a heb fod angen unrhyw ystyriaeth, dywedasant wrthynt, eu bod wedi bod yn rhydd cyhyd â nhw eu hunain. Dewison nhw aros; a byddai’r rhesymau a roesant imi yn eich synnu’n fawr: y rhyddid mwyaf perffaith, rhwyddineb byw, absenoldeb y gofalon hynny a’r deisyfiadau cyrydol sydd mor aml yn drech na ni; daioni rhyfedd y pridd yr oeddent yn ei drin, oherwydd nid oeddent yn ymddiried yn gyfan gwbl i hela; roedd yr holl gymhellion hyn, a llawer mwy o gymhellion, yr wyf wedi’u hanghofio, yn gwneud iddynt ffafrio y bywyd hwnnw, yr ydym â barn mor ofnadwy ohono.

Adroddir y stori am gymydog ffermio o Crèvecoeur a dderbyniodd, rai blynyddoedd yn ôl, gan hen Indiaid da, a fu farw yn ei dŷ, llanc ifanc, naw oed, ei ŵyr. Trwy garedigrwydd, addysgodd ef gyda’i blant, a rhoddodd iddo’r un gofal a sylw er cof ei dad-cu hybarch, a oedd yn ddyn teilwng. Roedd yn bwriadu rhoi crefft syber iddo, ond yn nhymor y gwanwyn pan aeth y teulu i gyd i’r coed i wneud eu surop masarn, diflannodd yn sydyn; ac nid tan ddwy ar bymtheg mis wedi hynny, y clywodd ei gymwynaswr ei fod wedi cyrraedd pentref Bald Eagle, lle yr oedd yn dal i breswylio.

Ar iechyd meddwl mae’n ysgrifennu, Heb demlau, heb offeiriaid, heb frenhinoedd, a heb ddeddfau, maen nhw mewn sawl achos yn rhagori arnom ni; a phrawf yr hyn yr wyf yn ei ddatgan, yw, eu bod yn byw heb ofal, yn cysgu’n dawel, yn cymryd bywyd fel y daw, gan ddwyn ei holl erwinder gydag amynedd digymar, a marw heb unrhyw fath o bryder am yr hyn y maent wedi’i wneud, neu am yr hyn maent yn disgwyl cyfarfod â hi wedi hyn. Pa system athronyddol all roi cymaint o gymwysterau angenrheidiol inni ar gyfer hapusrwydd? Yn sicr, mae ganddyn nhw gysylltiad llawer agosach â natur nag sydd ganddom ni….

Fel y rhyfedda Crèvecoeur mor rhugl, Rhaid bod rhywbeth mwy cydnaws â’n gwarediadau brodorol, na’r gymdeithas ffug yr ydym yn byw ynddi; neu fel arall pam y dylai plant, a hyd yn oed pobl mewn oed, ddod mewn cyfnod byr mor hollol glwm wrtho?

Stephanie Fuchs Masai

Enghraifft gyfoes o wneud y dewis i adael gwareiddiad i fyw mewn ffordd lwythol yw Stephanie Fuchs, yn wreiddiol o Hamburg, a briododd i lwyth Masai yn Tanzania.  Mae hi’n bositif iawn am bobl y Masai a’u ffordd o fyw y mae hi wedi’i mabwysiadu.

Cadwraethwyr ydyn nhw. Maen nhw’n gwybod sut i fyw mewn cytgord â natur, felly pe byddech chi’n rhoi’r byd iddyn nhw, byddai’r byd yn dal i fod yn gyfan. Ni fyddai gennym yr holl broblemau sydd gennym pe bai pawb yn byw fel y Masai, a bod gan bawb y math hwn o wybodaeth draddodiadol bod yn rhaid iddynt fyw mewn cytgord â natur. Maen nhw’n parchu natur, maen nhw’n coleddu natur, ac mae hyn ynddo’i hun yn eu gwneud nhw’n bobl well …

Mae eu ffordd o fyw yn rhagori ar ein ffordd ni – mewn cytgord â natur. Mae ganddyn nhw dir, maen nhw’n gyfoethog, mae ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnoch chi i fyw … Maen nhw’n gwybod sut i fyw’n gynaliadwy… .. Dydyn ni ddim yn gwybod beth mae’n ei olygu i fyw bywyd sy’n driw i ni’n hunain a bywyd sy’n driw i’n planed , bywyd sy’n driw i natur.

Ym Mhrydain, cynrychiolodd y clostiroedd a’r cliriadau greulondeb symud pobl o’r tir wrth iddo ymddangos ar wahanol adegau mewn gwahanol ranbarthau dros ganrifoedd lawer. Ymhen amser, collodd mwyafrif y boblogaeth eu hawliau i fynediad economaidd i’r tir. Aeth llawer i weithio mewn ffatrïoedd yn y dinasoedd, y ffatrïoedd oedd yn aml yn eiddo i’r tirfeddianwyr fu’n gyfrifol am y cliriadau ac a oedd bellach â chyflenwad o lafur cyfleus i helpu i gynyddu eu cyfoeth. Aeth llawer i’r Byd Newydd. Arhosodd rhai fel gweithwyr fferm ar gyflogau isel iawn.

Yn ôl pob sôn, aeth y bardd John Clare yn wallgof gyda galar wrth golli’r tir comin o’i ardal leol. Mae’n disgrifio’r drasiedi yn llawer o’i ysgrifau. Daw’r dyfyniadau canlynol o ‘The Mores’, cerdd a ysgrifennwyd gan John Clare ym 1820.

Yn disgrifio cefn gwlad cyn ei amgáu:
Still meeting plains that stretched them far away
In uncheckt shadows of green brown, and grey
Unbounded freedom ruled the wandering scene
Nor fence of ownership crept in between

A chefn gwlad wedi’r amgáu:
Fence now meets fence in owners’ little bounds
Of field and meadow large as garden grounds
In little parcels little minds to please
With men and flocks imprisoned ill at ease

Adrodd yr effaith ddinistriol ar fywoliaeth pobl gyffredin:
Inclosure came and trampled on the grave
Of labour’s rights and left the poor a slave

Colled ffordd o fyw oedd mewn cytgord gyda natur:
While the glad shepherd traced their tracks along
Free as the lark and happy as her song

A:
Mulberry-bushes where the boy would run
To fill his hands with fruit are grubbed and done

A diwedd yr hawl hyd yn oed i gael mynediad i’r dirwedd:
Each little tyrant with his little sign
Shows where man claims earth glows no more divine
But paths to freedom and to childhood dear
A board sticks up to notice ‘no road here.’

Bu gwrthwynebiad cyson a chwyrn i’r llociau, gyda llawer o wrthryfeloedd a phrotestiadau dros y canrifoedd. Yn anorfod, ar bob darn o dir lle digwyddodd, byddai’r bobl leol a oedd wedi mwynhau hawliau arferol i’r tir, y cominwyr, yn ymyrryd â gwaith y tirfesurwyr, yn rhwygo’r ffensys newydd ac yn lefelu’r ffosydd a’r banciau a oedd yn amgáu’r caeau newydd. Yn aml, deua’r fyddin i mewn i atal y gwrsafiad. Mae’n werth nodi bod y tirfeddianwyr a’r llywodraeth wedi datblygu’r strategaeth o newid yn aml didoliad milwyr i le penodol, wrth i’r milwyr gydymdeimlo’n gyflym ag achos y cominwyr. Yn y senedd, yn y cyfryngau, a thrwy bamffledi, parhaodd y ddadl trwy’r 17eg, 18fed a’r 19eg ganrif.

Gyda’r Aelodau Seneddol hefyd yn dirfeddianwyr, prin oedd gan bobl unrhyw fodd gwleidyddol na chyfreithiol i ymgyrchu yn erbyn y llociau. Wrth golli eu hawliau i’r tir, collodd y bobl gyffredin eu bywoliaeth a’u ffordd o fyw. Roedd y dadleuon a gyflwynwyd o blaid cau tir yn tynnu ar y cysyniad o gynnydd ar ffurf ‘gwella’ amaethyddol, tra’n arbed y bobl gyffredin rhag difaterwch, a rhoi cyfle iddynt ennill cyflog. Y gwir reswm yn syml oedd trachwant y bobl mewn grym.

Fel y disgrifia Simon Fairlie yn ei adolygiad ‘A Short History of Enclosure in Britain’ nid oedd diboblogi cefn gwlad yn cael ei adlewyrchu mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Ac fe gafodd effeithiau parhaol yn fyd-eang. Ymfudodd rhai o’r bobl a gollodd eu tir i’r Byd Newydd a chyfrannu at ddwyn tir oddi wrth y bobl yno. Yn bennaf, trodd y clostiroedd tyddynwyr gwledig yn drigolion slymiau’r ddinas. Roedd syrffed llafurwyr di-dir yn cadw cyflogau yn isel yn y ffatrïoedd ac roedd diwydiant cotwm Prydain yn gallu tandorri a dinistrio miloedd o ddiwydiannau lleol ledled y byd. Ni wnaeth colli eu mynediad i’r tir wella bywydau’r bobl gyffredin, ac ni wnaeth y byd yn lle gwell. O fewn un genhedlaeth, daeth y cysylltiad â natur a’r sgiliau i fyw o’r tir yn atgofion gwerin.

Mae hanes Mandobo o Papua yn adroddiad ingol, diweddar o bobl yn sylweddoli’n rhy hwyr iddynt gael eu twyllo i werthu eu coedwig, a gyda hynny eu ffordd o fyw, i gorfforaeth olew palmwydd enfawr.

 

Yn ei lyfrau ‘The Moneyless Man’‘The Way Home’, cyflwyna Mark Boyle y posibilrwydd o fyw heb arian yn yr 21ain Ganrif yn Lloegr a chefn gwlad Iwerddon ac, yn arwyddocaol, yr ymdeimlad o foddhad a bodlonrwydd sy’n dod gyda byw fel hyn. Mae mynediad i dir ar gyfer llety ac ar gyfer bwyd wrth gwrs yn sylfaenol i fyw heb arian. Ffactor defnyddiol arall yw tirwedd sy’n hygyrch ac yn doreithiog gyda chynnyrch gwyllt, er enghraifft pysgod a phren tanwydd.

Y gwahaniaeth cyson rhwng y cymdeithasau hynny sy’n gweithio mewn cytgord â’u hamgylchedd a’r rhai sy’n dinistrio’r sylfaen ar gyfer bywyd yw’r defnydd o arian. Mae cymdeithasau heb arian yn diwallu eu hanghenion am fwyd, dillad, cysgod a chymuned heb or-fanteisio ar eu hamgylchedd. Ar ben hynny gallant wneud hyn mewn llai o oriau gwaith nag yr ydym yn gweithio mewn cymdeithasau diwydiannol gweler er enghraifft ‘Stone Age Economics’, gan Marshall Sahlins. 

Cyflwynwch arian i’r economi, ac rydych chi’n cyflwyno cynhyrchu gormodol a di-angen a’r anogaeth tuag at drachwant a phrynwriaeth, gyda’r tlodi, oriau gwaith hir, gwahanu a dinistrio amgylchedd sy’n dod lawn yn llaw â hynny. Arsylwa Dr Gabor Maté, “Mae cymdeithas o ddefnyddwyr yn dibynnu ar greu anghenion artiffisial.” Gweler er enghraifft cyfweliad Russell Brand â Dr Maté. 

Camgymeriad yw gweld diwylliannau ymgynhaliol fel rhai nad ydynt yn ddinistriol o ganlyniad i fod yn llai soffistigedig yn gymdeithasol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu’r gwrthwyneb. Gwneir dewisiadau rhesymegol bwriadol gan y cymdeithasau hyn. Er enghraifft, mae Nemonte Nenquimo yn dweud wrthym fod a wnelo gwybodaeth pobl frodorol â miloedd ar filoedd o flynyddoedd o gariad at y goedwig hon, at y lle hwn. Cariad yn yr ystyr ddyfnaf, fel parch. Mae’r goedwig hon wedi ein dysgu sut i gerdded yn ysgafn, ac oherwydd ein bod wedi gwrando arni, ei dysgu a’i hamddiffyn, mae hi wedi rhoi popeth i ni: dŵr, aer glân, maeth, cysgod, meddyginiaethau, hapusrwydd, ystyr. Ac rydych chi’n cymryd hyn i gyd i ffwrdd, nid yn unig oddi wrthym ni, ond gan bawb ar y blaned, ac o genedlaethau’r dyfodol.

I bobl llwythol yng Ngogledd America mae eu diwylliant, economeg, ysbrydolrwydd, moeseg, addysg a llywodraethu yn darparu fframwaith cydlynol ar gyfer byw gyda pharch at bob rhywogaeth ac fel presenoldeb cadarnhaol yn yr amgylchedd. Mae Braiding Sweetgrass: Indigenous Wisdom, Scientific Knowledge, a Teachings of Plants gan Robin Wall Kimmerer yn gyfrifon cyfoes o gymdeithas lwythol yng Ngogledd America sy’n dangos sut mae’r holl agweddau hyn yn gweithio gyda’i gilydd i greu cymdeithas gynaliadwy.

Ysgrifennodd Benjamin Franklin draethawd ym 1784 o’r enw ‘Remarks Concerning the Savages of North America’ lle mae’n mynegi edmygedd o’r Americaniaid Brodorol.

O’u cymdeithas sifil ysgrifennodd, … mae eu llywodraeth i gyd trwy gyngor y ‘sages’; nid oes unrhyw rym, nid oes unrhyw garchardai, dim swyddogion i orfodi ufudd-dod, na chosbi. Felly yn gyffredinol, maen nhw’n astudio areithyddiaeth, y siaradwr gorau sy’n cael y dylanwad mwyaf.

Ar eu defnydd o amser, Heb lawer o ddyheadau artiffisial, mae ganddyn nhw ddigonedd o hamdden i wella trwy sgwrs. Mae ein dull llafurus o fyw, o’u cymharu â hwy, yn cael ei ystyried yn slafaidd a thaeog; a’r dysgu, yr ydym yn mesur ein hunain wrtho, yn wamal ac yn ddiwerth.

 chanddynt rhesymau mynych i gynnal cynghorau cyhoeddus, maent wedi ennill trefn glir a gwedduster wrth eu cynnal.  Franklin ymlaen i ddisgrifio gweithdrefn y cynghorau.

A’u moesau da: Mae cwrteisi’r anwariaid hyn wrth sgwrsio yn wir yn cael ei gario i’r eithaf, gan nad yw’n caniatáu iddynt wrthddweud na gwadu gwirionedd yr hyn a haerir yn eu presenoldeb …

Thema ffilm Bruce Parry, Tawai, yw’r dewisiadau bwriadol a rhesymegol y mae pobl lwythol mewn gwahanol rannau o’r byd yn eu gwneud ynglŷn â sut maen nhw’n byw. Maent yn gwybod sut orau mai byw yn eu hamgylchedd trwy ddoethineb a chysylltiad â’r hyn sy’n werthfawr.

I gloi, mae’n werth dwyn i gof yr hyn a ddywedodd y gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd Alanis Obomsawin ym 1972:
Mae Canada, un o’r gwledydd mwyaf cyfoethog, yn gweithredu ar economi disbyddu sy’n gadael dinistr yn ei sgil. Mae’ch pobl yn cael eu gyrru gan ymdeimlad ofnadwy o ddiffyg. Pan fydd y goeden olaf yn cael ei thorri, y pysgodyn olaf yn cael ei ddal, a’r afon olaf yn llygredig; pan fydd anadlu’r aer yn ffiaidd, byddwch yn sylweddoli, yn rhy hwyr, nad mewn cyfrifon banc y mae cyfoeth ac na allwch fwyta arian.

Rydym yn gynyddol ymwybodol na fydd newid ein system economaidd yn unig yn ddigon i ddatrys y problemau y mae’n eu hachosi, bod angen lefel ddyfnach o lawer o ddiwygio. Er bod yr angen am newid yn cael ei adrodd yn aml, ymddengys bod y drafodaeth yn brin ar weledigaeth o’r hyn y gallai system economaidd sy’n darparu ar gyfer ein hanghenion heb ddinistrio’r blaned edrych. Ac eto mae’r ateb o flaen ein llygaid – yn y bywoliaethau a ymarferir gan ein cyndeidiau a’r ychydig ddiwylliannau llwythol ac ymgynhaliol sy’n weddill, y mae llawer ohonynt yn gofyn am gael eu clywed. Ein hangen ar unwaith yw rhoi’r gorau i ddisbyddu ein cyfoeth naturiol ac adfer digonedd i’r byd.

 

* Cydnabyddiaeth:
Mae llawer o’r syniadau a gyflwynir yma wedi eu llywio gan drafodaethau gyda Salima Hirani. Mae ei llyfr ‘In Our Nature’ yn cyflwyno’n fyw sut mae economi leol, wedi’i lleoli mewn pentrefi yn darparu’n gyffyrddus ar gyfer ein hanghenion.