YMWELD Â CHOETIR ANIAN

Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosib ddarganfod a mwynhau popeth sydd gan Bwlch Corog i’w gynnig, gan gysylltu â natur yn y dirwedd arbennig hon. Mae croeso i chi ymuno â ni ar ddiwrnodau gwaith gwirfoddol neu ar gyfer gweithgareddau wedi’u trefnu ar y safle.

Fel arall, gallwch ymweld pryd bynnag y mynoch – mae Bwlch Corog yn rhydd i grwydro. Os ydych chi awydd aros ychydig yn hirach, caniateir gwersylla gwyllt cyn belled â bod yr egwyddor o ‘adael dim ôl’ yn cael ei ddilyn.Yr unig adegau pan fyddwn yn cyfyngu mynediad i’r safle yw pan fyddwn yn redeg cyrsiau ein hunain – nodir y dyddiadau hyn ar y calendar.

Dyddiadau mewn coch – ddim ar gael.
Dyddiadau mewn oren – ar gael o 4.30 y.p.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn ag ymweld â ni, cysylltwch os gwelwch yn dda.

SUT I’N FFEINDIO NI

Ar y ffordd
Ar yr A487 (Machynlleth i Aberystwyth) tua milltir i’r de o Fachynlleth cymerwch ffordd fechan arwyddwyd Glaspwll (ar eich chwith). Os ydych chi’n teithio ar yr A487 o gyfeiriad Aberystwyth, tua ½ milltir i’r gogledd o Derwenlas, bydd y ffordd fach ag arwydd Glaspwll ar eich ochr dde.

Cariwch ymlaen i bentref Glaspwll – tua 2 filltir o’r briffordd. Wrth ichi gyrraedd y pentref, ewch i’r dde i lawr allt bach – yn eich wynebu bydd Mêl Wainright’s a Phrosiect Bridio Gwenyn. O’r fan hon, mae Bwlch Corog wedi ei arwyddo.

Ar drên
Cymerwch y trên i Gyffordd Dyfi a cherddwch i bentref Glandyfi: dilynwch yr A487 i’r gogledd am ½ milltir ac yna ewch ymlaen ar hyd mân ffordd heb arwydd sy’n arwain i’r dwyrain ar hyd Cwm Llyfnant. Ewch ymlaen i bentref Glaspwll, tua 2 filltir o’r briffordd. Fel arall, dilynwch y llwybr ceffylau sy’n arwain ar hyd Cwm Llyfnant ar ochr ogleddol yr afon.

Llwybr amgen: ewch ar y trên i Fachynlleth a pharhewch i Glaspwll mewn tacsi neu fws / ar droed.

Ar fws
Mae gwasanaethau bysiau dda ar hyd yr A487. Yn anffodus nid oes yr un ohonynt yn mynd yn union i bentref Glaspwll. Mae arosfannau bysiau wedi’u lleoli ym mhentrefi Derwenlas a Glandyfi. I barhau ar droed, dilynwch y cyfarwyddiadau ‘Ar y ffordd’ uchod. Neu defnyddiwch y llwybr ceffylau ar hyd ochr ogleddol Cwm Llyfnant.

Ar ôl cyrraedd Glaspwll, trowch i’r chwith ar bwys y ‘West Wales Bee Breeding Project’. Ewch i fyny’r trac am filltir.

Pan ddewch chi i’r fforch, cadwch i’r dde.

Gyferbyn â’r bythynnod gwyliau, trowch i’r dde.

Ewch trwy’r giât ac i fyny’r trac i ben y bryn.