TORLANNOL

Mae glannau afonydd wedi eu mawrygu ers amser maith mewn cân a stori. Mae yna rywbeth arbennig ynglŷn â lle mae tir yn cwrdd â dŵr, llinellau terfyn o wyrdd a glas, lle mae glannau rhedynnog yn ffinio afon byrlymus, lle mae helyg dioglyd yn estyn eu bysedd trwy’r dŵr. Mae llên gwerin yn llawn trigolion dirgel yr afon, ceffylau’r dŵr a’r afanc. Y tu hwnt i farddoniaeth a chwedl, mae’r lle bydd tir a dŵr croyw yn cwrdd hefyd yn arwyddocaol yn nhermau ecolegol, a gelwir y parthau ffiniol hyn yn ardaloedd torlannol. Ardaloedd glannau afon yw’r gororau rhwng afonydd, nentydd a’r tir o’u cwmpas, gan gysylltu’r tir â’r afon, ac mae’n cynnwys y darnau  agored o dir o amgylch afon a’r gorlifdiroedd sy’n ymestyn y tu hwnt iddi.

Mae ardaloedd torlannol yn hanfodol ar gyfer ecosystemau iach. Maent yn naturiol yn storio dŵr ac yn cronni gwaddod. Gweithredant fel clustogfa rhwng tir ac afonydd, gan amddiffyn y tir rhag chwyddiadau tymhorol afonydd, ac amddiffyn yr afonydd rhag gwaddodi gormodol a dŵr llygredig o’r tir. Mae systemau gwreiddiau llystyfiant torlannol yn sefydlogi glannau afonydd ac yn atal erydiad pridd. Heb yr ardal ganolraddol hon, mae ansawdd dŵr yn dioddef,  o halogi gan wrtaith, yn enwedig o nitradau niweidiol a geir mewn llawer o wrteithwyr amaethyddol. Oherwydd y llystyfiant toreithiog, mae ardaloedd torlannol yn sefydlogi carbon, ac yn atal tir rhag sychu.

Mae parthau glannau afon yn gartref i blanhigion amrywiol sy’n cadw ac yn ailgylchu maetholion sydd yn eu tro yn cynnal nifer o bysgod a rhywogaethau anifeiliaid eraill. Maent yn gweithredu fel coridorau, gan gysylltu ardaloedd dyfrol a daearol, yn caniatáu i anifeiliaid symud o afonydd i’r dirwedd ehangach, yn lwybrau mudo pwysig i anifeiliaid mor amrywiol â brogaod a dyfrgwn. Mae fflora glan yr afon, y coed, y llwyni a’r gweiriau sy’n tyfu yma, yn denu infertebratau sy’n ffurfio cyfran fawr o fwyd ar gyfer pysgod a rhywogaethau dŵr eraill. Mae deunydd coediog, sbwriel dail a detritws planhigion eraill yn cyfoethogi afonydd â maetholion ac yn rhan bwysig o weoedd bwyd dyfrol, tra bod pryfed sy’n cwympo i’r dŵr o lystyfiant uwchlaw yn ffynhonnell fwyd allweddol ar gyfer rhywogaethau dyfrol. Mae gwreiddiau tanddwr a chanopi coed a phlanhigion ill dau yn darparu cysgod a lloches i anifeiliaid dyfrol, bydd rhywogaethau eraill, fel adar, yn nythu a bwydo yn y gorchudd glan yr afon hwn. Mae cysgodion y coed ar lan yr afon yn helpu i gynnal tymheredd y dŵr ac yn cyfyngu ar dyfiant chwyn, a all fygu afonydd os na chaiff ei reoli.

Mae cynefinoedd glannau afon yn y DU yn brin ac yn aml yn dameidiog, gan dorri’r cysylltiadau hanfodol rhwng yr afon a’r tir. Ymhen amser bydd Coetir Anian yn caniatáu i’r cynefin hwn ffynnu’n naturiol, gan wella bioamrywiaeth yr afon a’r ardal gyfagos. Rhaid cadw’r cynefin pwysig hwn i bobl ac i fywyd gwyllt.