Mountain Hare

Ysgyfarnog Fynydd

Trist yw nodi nad oes yr un ysgyfarnog fynydd yng Nghymru heddiw. Mae yna lond llaw yn yr Alban, Swydd Derby ac Ynys Manaw, ond mae eu niferoedd yn gostwng o hyd. Yn yr haf maent yn lliw brown amrywiol gyda rhywfaint o las – nabyddir ysgyfarnog ifanc fel glastorch – tra yn y gaeaf maent wyn pur.

Wedi dyfodiad yr ysgyfarnog gyffredin, maent wedi eu hynysu i’r ucheldiroedd hynny dros 500m. Yn yr Alban, cred y diwydiant saethu grugieir eu bod yn fygythiad, gan iddynt gario firws a geir o drogod, a chaent eu difa er eu statws cadwraethol. Maent hefyd yn wynebu colli cynefin ac ysglyfaethwyr. Mae yna botensial i’w hachub o fewn y ffaith eu bod yn cynhyrchu hyd at bedwar torllwyth y flwyddyn.

Mae’r enw Saesneg am y Pasg – ‘Easter’ yn tarddu o enw’r dduwies baganaidd ‘Ēostre’ ac mae’r ysgyfarnog yn cynrychioli ailenedigaeth a ffrwythlondeb. Mae’r Gwningen Basg ei hun yn tarddu o gysylltiad yr ysgyfarnog a hen wyliau’r gwanwyn. Yn chwedl Taliesin, mae Gwion Bach yn trawsffurfio’n ysgyfarnog i ddianc rhag y wrach Ceridwen.