Species Name Here

Gwiwer Goch

Red Squirrel. Sciurus vulgaris

Un bychan, gyda ffwr browngoch a chlustiau mawr, twffiog, mae ein hunig wiwer frodorol yn rywogaeth sydd mewn perygl yng Nghymru. Amcangyfrifir mai dim ond 140,000 o wiwerod coch sydd ar ôl yn y DU, o’i gymharu â 2.5 miliwn o wiwerod llwyd. Mae gwiwerod llwyd yn cario firws brech y wiwer, nad yw’n effeithio ar eu hiechyd eu hunain, ond sy’n angheuol i wiwerod coch. Maent hefyd yn trechu’r wiwer goch mewn coedwig lydanddail, gan eu bod yn treulio cnau a hadau sy’n cynnwys lefel uchel o tannin, fel mes, yn haws. Mae’r wiwer lwyd hefyd yn ysbeilio celciau bwyd gwiwerod coch. Nid yw gwiwerod coch yn gaeafgysgu ac er eu bod yn bwyta llawer o fathau o fwyd gan gynnwys blagur, egin, ffyngau, pryfed, chwilod ac wyau adar, mae eu storfeydd bwyd yn hanfodol i’w gaeafu. Coetir llydanddail cymysg gyda rhywfaint o gonwydd a digon o goed collddail â hadau bach fel gwern, aethnenni, helyg a bedw yw’r cynefin delfrydol ar gyfer y wiwer goch. Mae gwiwerod coch yn ynysig ac yn anodd dod o hyd iddynt, gan dreulio tua 80% o’u hamser yn uchel yn y canopi coed. Maent yn adeiladu nythod o frigau, mwsogl, glaswellt a gwallt a gallant gael dau dorllwyth o chwech y flwyddyn.

Mae Partneriaeth Gwiwerod Coch Canolbarth Cymru yn gobeithio cryfhau’r pocedi o boblogaethau gwiwerod coch yng nghanolbarth Cymru, a gall y boblogaeth o fele’r coed a sefydlwyd yn ddiweddar yng nghanolbarth Cymru (wedi’i drawsleoli gan ‘The Vincent Wildlife Trust’),ymhen amser, helpu i reoli poblogaeth y wiwer lwyd yn naturiol, gan fod y wiwerod llwyd sy’n arafach ac yn fwy o faint yn haws eu dal na’u cefndryd ystwyth.

Statws yng Nghoetir Anian: Absennol, er ein bod yn gobeithio ailgyflwyno gwiwerod coch yn y dyfodol.