Species Name Here

Cath Wyllt

O fewn tudalennau’r Trioedd Cymraeg ceir chwedl Cath Palug, (yn bosib o’r un gwreiddair a ‘palu’); a oedd yn anedig i’r hwch Hen Wen, yn byw ar Ynys Môn, a’n bla ar Brydain. Cath Wyllt? Neu Lewyn? Pwy a ŵyr?

Erbyn heddiw dim ond yn Ucheldiroedd yr Alban y ceir y gath wyllt. Mae’i phryd yn debyg i’r gath frech ddomestig, ond maent yn fwy o faint gyda chynffon a choesau mwy, a phen mwy hefyd. Mae eu cynffonnau llinellog yn ddi-fin a thrwchus. Maent yn cysgodi oddi fewn coed a chreigiau neu ffau wag. Maent wedi’i addasu’n wych i’w cynefin, a’u crafangau miniog, a’u blew dwys a thrwchus. Heb anghofio eu synhwyrau ardderchog, eu clyw, eu harogli a’u gallu rhagorol i weld yn y nos.

Bu’r gath wyllt yn stelcian ar hyd tir Prydain tan ddiwedd yr 18G ond diflannodd oherwydd erledigaeth a cholled eu cynefin coetirol. Mae’r boblogaeth sy’n weddill dan straen yn sgil croesrywedd a chathod dof. Mae’n anodd dweud yn union faint o unigolion sy’n weddill gan ei fod yn anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y cathod gwyllt a lled-wyllt dof; amcangyfrif bod rhwng 400 a 4,000 yn bodoli. Efallai rhyw ddydd y dychwelant i Gymru i ganol y coetir gwyllt.