Wild Boar

Baedd Gwyllt

Mae’r baedd a’r goedwig yn rhan annatod o lên gwerin yr ynysoedd yma. O fewn y Mabinogi ceir chwedl Culhwch ac Olwen; ble gorfu Culhwch, a llwyth o ryfelwyr y brenin Arthur, hela’r Twrch Trwyth ar hyd a lled y wlad i geisio cael gafael ar y crib a’r gweill o du ôl i glustiau’r baedd cynddeiriog hwn. Yn y diwedd, gyrrwyd y creadur anffodus i’r môr.

Ac mae’r syniad hyn o’r baedd fel creadur byr-dymer wedi aros gyda ni, ac mae’r wasg yn hoff o dynnu sylw at y perygl tybiedig i bobl pan gaiff y baedd eu hail-gyflwyno i ardal. Ond fel rheol maent yn greaduriaid swil sy’n osgoi pobl yn llwyr. Hawdd anghofio felly eu bod yn rhywogaeth allweddol, sy’n cyfrannu’n fawr at ecoleg ein coedlannau drwy eu harferiad o balu a hel gwreiddiau.

Yr ysgithrau yw’r peth mwyaf amlwg am y baedd a’u croen blewog garw. Mae eu llygaid yn wan ond mae eu synhwyrau arogli yn wych. Mae’r porchell fel petai yn gwisgo ‘pyjamas’ llinellog melyn ac mae’r hychod, neu banhwch, yn byw mewn grwpiau matriarchaidd tra bod y tyrchod yn unigeddol.

Diflannodd y baeddod cynhenid diwethaf o fewn y 300 mlynedd diwethaf. Ers hynny cawsant eu ffermio, ac yn yr 1990au bu ddianc rhai ohonynt gan sefydlu poblogaethau lled-wyllt yn Ne Lloegr a’r ‘Forest of Dean’. Mae eu gallu i adfer eu hunain yn galonogol i’r ymdrechion i’w hail-gyflwyno i’n tirwedd.