Species Name Here

Ewig

Roe Deer. Capreolus capreolus

Mae ewigod yn frodorol i Brydain. Maent yn fyrrach na cheirw coch, yn mesur oddeutu 2.5 troedfedd i’r ysgwydd ac mae ganddynt gyrn llai sydd weithiau’n syth neu a all fod â hyd at dri phwynt. Mae ganddyn nhw ddarn gwyn nodedig ar eu crwperau sy’n cael eu dangos pan fyddant yn dychryn. Mewn ymgais i greu argraff, mae’r bchod yn gwastatáu haenau o brysglwyni yn siapiau ffigur o wyth sy’n cael eu galw’n ‘gylchoedd ewig.’ Pan fyddant wedi paru, rhwng Gorffennaf ac Awst, ni fydd yr ŵy ffrwythlon yn mewnblannu nac yn tyfu tan y mis Ionawr canlynol, sy’n golygu y bydd yr ifanc yn cael eu geni yn ystod misoedd cynhesach y gwanwyn, gan wella eu siawns o oroesi. Mae ewig yn gyffredinol yn byw a bod ar eu pennau eu hunain ond maent yn ffurfio grwpiau bach yn y gaeaf.

Bu ewig yma ers y cyfnod Mesolithig – lle defnyddiwyd eu crwyn, eu hesgyrn a’u cyrn wrth greu offer ac eitemau amrywiol o ddillad. Gwleyd hwy’n crwydro’n rhydd yn y coetir trwchus a oedd yn doreithiog gyda chyll, bedw, palalwyf, llwyfen a derw. Maent yn gysylltiedig â’r Duw corniog Celtaidd, Cernunnos, duw hynafol ffrwythlondeb ac anifeiliaid gwyllt, a ddarluniwyd yn aml gyda cheirw a chyrn. Mewn traddodiadau Celtaidd gall ceirw basio rhwng y byd hwn a’r Arallfyd. Mae eu cyrn, sy’n cael eu bwrw unwaith y flwyddyn, yn symbol o ffrwythlondeb, aileni ac adnewyddiad.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol