Species Name Here

Mwyalchen y Mynydd

Cysylltir mwyeilch y mynydd â gwylltineb. Maent yn byw ym mannau gwasgarog Prydain, ymysg mynyddoedd a chreigiau lle bydd eu cân dolefus yn cyfannu’r llecynnau uchel ac unig sydd yn gartref uddunt. Bob gwanwyn maent yn ymfudo o barthau cynhesach i’w cadarnleoedd geirwon yn yr Ynysoedd Prydeinig. Mae Cadair Idris yn gartref i boblogaeth o’r adar hyn, lle mae’r mwyeilch yn rhannu golygfa’r nefoedd efo’r cawr o ryfelwr hynafol. Mae’r mwyeilch y mynydd yn perthyn i’r aderyn du (sef y mwyalch cyffredin), fel mae eu henw’n dangos.

Hynodir mwyeilch y mynyddoedd gan y cilgant gwyn ar eu bron. Maent ar y rhestr coch gan fod eu niferoedd wedi gostwng yn ddramatig yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.  Ymgartrefa’r mwyeilch y mynedd mewn ardaloedd creigiog. Darperir amddiffyniad a lleoedd da i fwyta i’w cywion gan lwyni mynyddig. Mae gweiriau byrion yn lleoedd da i chwilota am bryfed.

Mae mwyeilch y mynedd yn bwyta chwilod, pryfed genwair, mwyar ac, o bryd i’w gilydd, mamaliaid ac ymlusgiaid bychain. Bydd y fenyw yn dodi sawl wy ag ysmotiau glas a brown. Er mwyn helpu mwyeilch y mynydd i adenill eu niferoedd, mae’n rhaid i’r cynefin lle maent yn ffynnu cael eu hadfer ac amddiffyn. Gobeithiwn gweld dychweliad yr adar dymunol hyn i’r Mynyddoedd Cambriaid.