Species Name Here

Lynx

O fewn y goedwig hynafol a fu, ceid y llewyn. Cawsant eu hela am eu crwyn tan iddynt ddiflannu’n llwyr oddeutu mil o flynyddoedd yn ôl. Maent, gan fwyaf, yn hela’r iwrch ond hefyd llwynogod a chwningod.

Mae lliw croen y llewyn yn amrwyio rhwng cochfrown a llwydwyn. Mae eu clustiau cwta cudynnog yn cyfnerthu eu clyw craff, tra bod eu pawennau mawr yn eu galluogi i hela’n effeithiol yn yr eira. Creaduriaid unigeddol ydynt sy’n hoff o gudd-ymosod eu prae yng nghyfnod y gwyll, o fewn coedwigoedd. Maent yn diflannu’n hawdd o fewn y coed.

Does dim llawer o gofnodion llenyddol am y llewyn, onibai am gymal o fewn hwiangerdd gan Aneirin – Pais Dinogad:

Beth bynnag a gyrhaeddai dy dad â’i bicell –
Boed yn dwrch, yn lewyn, yn lwynog –
Ni ddihangai’r un oni bai’n nerthol ei adenydd
.

Siawns fod y llewyn yn greadur cyfarwydd ar y pryd.

Does dim cofnod o lewyn yn ymosod ar bobl erioed, ac mae yna bosibiliad o’u hail-gyflwyno i’r mannau mwy anghysbell o fewn Prydain. Mae hyn, wrth gwrs, yn ddibynnol ar eu gallu i ganfod digon o’i prae naturiol.