Species Name Here

Llygoden Bengron y Dŵr

Water Vole. Arvicola amphibius 

Yn ystod y can mlynedd diwethaf, diflannodd 95% o’n llygod pengrwn y dŵr. Gellir dod o hyd i lygod pengrwn y dŵr yn agos at afonydd, gwelyau cyrs, nentydd, llynnoedd a phyllau, rhostiroedd a ffosydd hyd yn oed. Er eu bod yn debyg o ran maint ac ymddangosiad, nid llygod ffyrnig ydynt, ond rhywogaeth fawr o lygod pengrwn. Adnabyddir nhw ar lafar fel llygod ffyrnig y dŵr neu gŵn y dŵr, ac maen nhw’n nofio yn yr un modd â chŵn, gyda’u cefnau a’u pennau i’w gweld uwchben y dŵr. Mae llygod pengrwn y dŵr yn rhywogaeth gymdeithasol, sy’n byw mewn cytrefi mawr mewn tyllau tanddaearol gyda mynedfeydd tanddwr i ddianc rhag perygl, weithiau byddant yn rannu nythod yn ystod y gaeaf. Arwyddion cyffredin o weithgaredd llygod pengrwn y dŵr yw pentwr o faw, neu doiledau, y mae’r benywod yn eu defnyddio fel marcwyr ffiniau, yn ogystal â’u ffyrdd mynediad sy’n frith ar hyd glannau afonydd.

Maent yn bridio rhwng mis Mawrth a mis Hydref, cânt 2-5 torllwyth o 2-8 ci bach bob blwyddyn, wedi’u geni mewn nythod tanddaearol wedi’u gwehyddu o weiriau a chyrs. Nid yw’r mwyafrif o lygod pengrwn y dŵr yn goroesi am fwy na dau aeaf, ac mae angen iddynt fwyta 80% o bwysau eu corff bob dydd, gan gynnwys dros y gaeaf gan nad ydyn nhw’n gaeafgysgu. Mae eu diet yn cynnwys gweiriau, hesg a brwyn, ynghyd â rhisgl coed a ffrwythau yn y misoedd oerach, ac, yn anaml iawn, pryfed.

I lawer o bobl, bydd llygod pengrwn y dŵr yn gysylltiedig â Ratty doeth a charedig o lyfr plant Kenneth Grahame, The Wind in the Willows.

Statws yng Nghoetir Anian: Absennol ar hyn o bryd.