Species Name Here

Llwynog Coch

Red Fox. Vulpes vulpes

Y llwynog coch yw ein hunig rywogaeth cynol wyllt, perthynas i’r ci domestig a’r blaidd. Yn hanesyddol mae llwynogod yn gysylltiedig â chefn gwlad a choetiroedd ond byddant yn ffynnu ym mron pob cynefin, gan gynnwys amgylcheddau trefol. Maen nhw’n byw mewn cuddfannau tanddaearol, o’r enw ‘earths’, mewn grwpiau cymdeithasol, teuluol. Maent yn paru yn y gaeaf ac mae’r lwynoges (benyw) yn esgor ar un gwasarn o gŵn bach y flwyddyn. Maint cyfartalog y wasarn yw 2-6, bydd y llwynog (gwryw) yn hela ac yn darparu bwyd i’r fam a’u hepil. Deiet amrywiol iawn sydd gan llwynogod sy’n cynnwys aeron, ffrwythau, hesg a gweiriau ynghyd â llygod, cwningod, gwiwerod, adar a phryfed genwair. Maent yn sborioni yn ogystal â hela. Eu gallu i sborioni yw un o’r rhesymau y maent wedi addasu cystal i amgylcheddau trefol, gan fwyta bwyd wedi cael eu daflu gan bobl.

Mae llenyddiaeth a diwylliant yn eu cyflwyno fel y castwyr, yn gyfrwys ac ystrywgar, ond hefyd yn gymwynasgar a doeth. Yn ffilm Disney, mae’r llwynog Robin Hood, yn dwyn oddi wrth y cyfoethog ac yn rhoi i’r tlawd, tra bod ‘Fantastic Mr Fox’ Roald Dahl yn dwyn ieir, twrcïod (a seidr). Twylla Reynard, llwynog ym mytholeg yr Iseldiroedd, ei gyd-greaduriaid er ei fudd ei hun, tra yn ‘The Hounds of the Morrigan’, mae Cooroo yn peryglu ei fywyd i amddiffyn plant rhag cael eu herlid trwy storm eira gan helfa swynol.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol