Llwyfen

Llwyfen

Elm. Ulmus.

Mae 3 rhywogaeth o lwyfen yn tyfu ym Mhrydain: Llydanddail, Lloegr a Maes. Llwyfen llydanddail yw’r unig lwyfen wirioneddol frodorol, tra cyflwynwyd y ddau arall gan ein cyndeidiau. Ar un adeg roedd llwyfen yn goeden gyffredin, yn sefyll yn dal (hyd at 120 troedfedd) yn y dirwedd. Mae ganddo risgl llwyd llyfn, sydd dros amser yn troi’n llwyd-frown gyda holltau. Ymddangosa flodau bach coch yn y gwanwyn, sy’n ffurfio hadau asgellog o’r enw ‘samaras’ wedi peillio gan y gwynt. Lladdwyd 90% o lwyfenod Prydain gan clefyd llwyfen yr Iseldiroedd, a achoswyd gan straen o ffyngau sac a wasgarwyd gan chwilen rhisgl llwyfen. Mae gloÿnnod byw brithribin wen wedi dioddef ynghyd â dirywiad y llwyfen, dail llwyfen yw’r prif gyflenwad bwyd ar gyfer eu lindys. Nid yw clefyd llwyfen yr Iseldiroedd yn newydd, ac er mai’r achosion diweddaraf yw’r gwaethaf a gofnodwyd, mae’r llwyfen wedi llwyddo i wella. Dangosa cofnodion paill bod coed llwyfen yn hanesyddol wedi dirywio’n sydyn ac yna wedi dychwelyd.
Mae pren llwyfen yn gryf ac yn hyblyg. Mae’n gallu gwrthsefyll hollti a phydru ac mae’n para’n dda mewn amodau gwlyb. Gwnaed pibellau dŵr cynnar o bren llwyfen, ac ym 1930 dadorchuddiwyd pibellau dŵr llwyfen yn Llundain a oedd wedi bod yn cael eu defnyddio ers 1613. Ym mytholeg Geltaidd, mae’r goeden llwyfen yn gysylltiedig â’r Isfyd, dywedir ei bod yn tyfu’n agos at dramwyfeydd sy’n arwain allan o’n teyrnas Ddaearol, ac i’r Isfyd.

Statws yng Nghoetir Anian: Absennol, er ein bod yn gobeithio ailgyflwyno yn y dyfodol.