Gwalch y Pysgod

Gwalch y Pysgod

Osprey. Pandion heliaetus

Mae Gweilch y pysgod yn treulio’r gaeaf yn Affrica, gan ddychwelyd yn y gwanwyn i Ewrop, yn aml i’r un safleoedd (weithiau am ddegawdau), i fridio. Mae benywod yn dodwy nythaid o 2-3 wy, sy’n cael eu deori gan y fenyw a’i chymar. Mae cywion yn magu plu tua 53 diwrnod oed, ac yn aeddfedu’n araf, gan fridio dim ond pan fyddant yn cyrraedd tua 4-5 mlwydd oed. Mae 99% o’u diet yn bysgod, sydd weithiau’n cael ei ategu gan gnofilod, cwningod, ysgyfarnogod, amffibiaid, adar eraill, ac ymlusgiaid bach. Mae eu techneg pysgota yn unigryw, wrth iddyn nhw esgyn i lawr i’r dŵr, a’u hadenydd yn ysgubo’n ôl, byddant yn estyn eu talonau ar yr eiliad olaf i dynnu pysgodyn o’r dŵr bas, gan fynd o dan y dŵr am ychydig eiliadau weithiau. Meddant ar ffroenau y gellir eu cau a chotiau olewog trwchus sy’n caniatáu iddynt drochi mewn dŵr hyd at ddyfnder o 1 metr. Ysbrydolodd eu perthynas â physgod eu henw Cymraeg (fish hawk). Er hwylustod hela, anaml y bydd gweilch y pysgod yn nythu mwy na 5km i ffwrdd o gorff o ddŵr.

Mae cofnodion yn dangos bod Cymru yn rhannu hanes hir gyda’r gweilch. Mae arfbais Abertawe a Gorllewin Morgannwg yn darlunio’r aderyn mawreddog hwn

Statws yng Nghoetir Anian:Absennol, er fod poibilrwydd y gellir eu gweld yn hedfan dros y safle, yn teithio o’u safle nythu gerllaw yn nyffryn Dyfi. Gweler Dyfi Osprey Project.