White-Tailed Eagle

Eryr y môr

Mae yna rywbeth yn eisiau o’r wybren yng Nghymru – yr eryr môr – aderyn ysglyfaethus apigol mwyaf Prydain, a’r pumed mwyaf yn y byd. Bu ddiflannu o’r glannau yma ar ôl canrifoedd o erledigaeth a saethwyd yr un diwethaf ar Ynysoedd Shetland yn 1916 ond cawsant eu hail-gyflwyno yn 1975. Mae eu poblogaeth yn isel o hyd oherwydd gwenwyno gan blaleiddiaid, colli cynefin ac aflonyddwch gan bobl.

Ond ble mae’r eryr yn feistr, mae’n bosib eu gweld yn chwyrlio’n urddasol drwy’r awyr yng nghanol eu harddangosfa garwriaethol. Mae’r dyn a’r fenyw yn gafael yng nghrafangau eu gilydd tra’n plymio i’r ddaear, gan ymrannu prin troedfeddi cyn bwrw’r ddaear. Mae’r arddangosfeydd hyn yn cryfhau eu perthynas gan eu bod yn paru am oes.

Ar hyn o bryd maent wedi eu cyfyngi i orllewin yr Alban, o fewn ardaloedd pellenig arfordirol, culforoedd, llynnoedd a dyffrynnoedd afonydd. Maent yn bwyta pysgod, adar bach ac yn ysglyfaethu. Maent hefyd yn bachu unrhyw gyfle I ddwyn pysgod wrth adar eraill a hyd yn oed dyfrgwn!

Cyfeiriwyd atynt gan Taliesin am eu harfer o ysglyfaethu ar faes y gâd ac maent yn symbol o gryfder mawr o fewn yr hen lenyddiaeth. Yn yr iaith Gaeleg enwid hwy ‘Iolaire Suile na Grein’, neu ‘Aderyn Llygad yr Haul’.