Eithinen Ffrengig
Western gorse. Onn. Ulex gallii.
Aur dan y rhedyn,
arian tan yr eithin,
tlodi dan y grug.
Mae’r eithin melyn disglair yn rhan annatod o’n tirweddau ‘gwyllt’- y bryniau garw, y rhanbarthau arfordirol, y rhostir agored a’r gweundiroedd anghysbell – mae’r eithinen fythwyrdd, bigog yn rhan o deulu’r ytbys.
Yn gysylltiedig â Lugh, y duw haul Celtaidd, mae eithin yn dal sbardun yr haul trwy gydol y flwyddyn. Yng Nghymru, roedd yn amddiffyn yn erbyn gwrachod, ac yn aml fe’u llosgir i wared y gwrachod o’i blith. Roedd hyn yn newyddion da i’r eithin gan fod yr hadau angen gwres er mwyn eu lledaenu. Gallwch glywed yr hadau’n ‘ffrwydro’ ar ddiwrnod poeth o haf.
Mae llawer o adar yn defnyddio rhengau’r eithin i adeiladu eu nythod ac fel safleoedd bwydo; gan gynnwys llinosiaid, y bras melyn a theloriaid. Yng Nghymru mae Hwyaden yr Eithin, sy’n aderyn arfordirol prin, yn nythu mewn tyllau cwningod o dan eithin.
Mae gan yr eithin gyfnod blodeuo hir ac mae’n darparu bwyd gwerthfawr ar gyfer gwenyn, naill ai’n gynnar yn y gwanwyn pan fo blodau yn brin, neu’n hwyrach yn y flwyddyn pan fydd y blodau eraill wedi gwywo.