Species Name Here

Gylfinir

Curlew. Numenius

Yn mesur 50-60cm o hyd a gyda rhychwant adenydd o 80-100cm, y gylfinir yw aderyn hirgoes mwyaf Prydain. Mae eu cri yn amrywio rhwng curlee-curlee iasol, a ‘yap’ byrlymus. Yn ogystal â’u sain nodedig, mae ganddynt big crwm mawr a phlu brith trawiadol o frown a bwff. Yn y gwanwyn a’r haf maent yn gadael eu tiroedd gaeafu arfordirol ac yn mudo i ardaloedd ucheldirol, fel rhostir grug, gwlyptiroedd a phorfa arw, i fridio. Mae brithwaith cymysg o gynefinoedd ar raddfa fawr yn hanfodol i lwyddiant y gylfinir, fel y gallant fwydo, nythu, bridio a chael eu gwarchod gan y gwahanol fathau o lystyfiant a gynigir mewn tirwedd o’r fath. Maent yn bwydo ar borfa, gan ddefnyddio eu pigau main hir i ddarganfod mwydod ac infertebratau eraill, ac yn nythu mewn ardaloedd â gweiriau hirach sy’n cynnig amddiffyniad i’r rhai ifanc.

Yng Nghymru, mae poblogaeth y gylfinir wedi gostwng oddeutu 81% ers 1993. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae eu tiroedd bridio yn cael eu colli oherwydd datblygiad a rheolaeth wael ar dir, mae ysglyfaethu gan lwynogod hefyd yn ffactor o bwys yn eu dirywiad. Oherwydd eu dirywiad cyflym a cholli cynefin gosodwyd y gylfinir ar y Rhestr Goch o Rywogaethau dan Fygythiad yn 2015. Gwelwyd llawer o sylw yn y wasg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac ym mis Ionawr 2018 cynhaliodd Adnoddau Naturiol Cymru a grwpiau cadwraeth gynhadledd i drafod sut i achub yr aderyn carismatig hwn.

Mae’r bygythiad sy’n wynebu’r gylfinir yn eironig o ystyried ei fod unwaith yn gysylltiedig â marwolaeth ac fel drwgargoel i forwyr o foroedd stormus. Er gwaethaf eu cysylltiadau â thranc, bendithiodd abad Cymru, Beuno Sant, gylfinir ar ôl i un achub ei lyfr gweddi ar ôl iddo ei ollwng mewn dŵr. Roedd mor ddiolchgar o’i gael yn ôl nes iddo sicrhau y byddai’r gylfinir bob amser yn cael eu gwarchod – dyma’r esboniad ar gyfer pam mae eu nythod mor anodd dod o hyd iddynt!

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol