Species Name Here

Ceffyl Gwyllt

Wild horse. Equus ferus

Mae’r holl geffylau (Equus ferus) yn ddisgynyddion o’r ceffyl gwyllt cyntefig – a adwaenir weithiau fel y tarpan – a oedd yn poblogi Ewrop ac Asia, ac sy’n rhywogaeth frodorol o Brydain. Fodd bynnag, mae rhywfaint o amrywiad rhwng gwahanol fridiau domestig – y bridiau sy’n cyfateb agosaf i’r ceffyl gwyllt yw Konik (o Ewrop), Przewalski (o’r paith Asiaidd) a Sorraia (o Benrhyn Iberia). Mae’r bridiau hyn yn arddangos lliw twyni ‘dun’, streipen cefnol ddu, streipiau llorweddol ar y coesau a nodweddion strwythurol sy’n nodweddiadol o’r ceffyl gwyllt. Dim ond Przewalski sydd wedi cadw’r mwng unionsyth. Yn gyffredinol mae gan Koniki liw ‘grullo’ neu ‘dun glas’. 

Ynghyd â’r nodweddion hyn, mae’r Konik yn hynod wydn a gall ffynnu ar lystyfiant caled, gan ei wneud yn addas iawn ar gyfer byw fel gre wyllt ac yn cyd-fynd yn dda â’u rôl yn ein prosiect a’r amodau ym Mwlch Corog. Maent hefyd yn gallu pori gwellt y gweunydd (Molinia caerulea), sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o’r safle. Mae’r Konik yn effeithlon iawn wrth storio cronfeydd braster mewn cyfnodau o ddigonedd o fwyd, i’w alluogi i ffynnu trwy’r gaeaf, ac mae’n adnabyddus am ei iechyd cadarn a hirhoedledd. Yn ogystal, nid oes angen tocio carnau ar Koniki gan eu bod yn colli twf gormodol yn naturiol.

Konik Horse Characteristics and History 2013  ar gyfer gwybodaeth am y Konik.

Statws yng Nghoetir Anian: Gre fechan o geffylau Konik yn bresennol