Species Name Here

Carw Coch

Dyma uchelwyr y coed a’r bryniau a’u cyrn godidog. Hwy yw’r mamliaid mwyaf ar dir Prydain, yn byw ar y bryniau a’r mynyddoedd, ar y ffridd a’r gweunydd, ac o fewn y coetiroedd.

Mae’r gwrywod a’r benywod yn byw mewn hyddgre ar wahan i’w gilydd ac mae’r hydd yn rheoli hyd at 20 o fenywod yn ei wreicty, (neu harîm). Yn yr hydref pan maent yn ymgasglu i baru, gallwch glywed o bell rhuo rhoch yr hyddod a’u cyrn yn taro’i gilydd.

Mae ceirw coch yn frodorol i Gymru er bod y boblogaeth wreiddiol wedi hen ddiflannu. Yn ystod yr Oes Mesolithig dyma bobl yn eu hela am eu cig, a’u crwyn a’u hesgyrn i greu dillad ac offer llaw.

Maent yn arwyddocaol o fewn hanes gwerin a phan gwelid hydd wen credwyd bod Annwfn yn agos.       Gellid olrhain ambell air hefyd:

Hyddfrê = hyddfrêf =  Hydref.

Hyddgen = croen y carw coch.

Mae gan bori’r carw coch effaith gadarnhaol ar ein hecosystemau trwy balu a sathru’r tir. Ac oherwydd eu natur grwydrol maent yn ymledu maetholion a hadau ar hyd y dirwedd. Felly, gall boblogaethau sefydlog gyfrannu’n fawr at iechyd ac amrywiaeth nifer o gynefinoedd, gan gynnal llennyrch o fewn y coed, ac ar y ffridd.

Mae’r anifail ysblennydd yma yn rhan annatod a chyfareddus o’n tirwedd, a’n diwylliant.