Blaidd

Blaidd

Y Blaidd.  Er iddynt ddiflannu o Brydain ers canrifoedd bellach, maent o hyd yn ein heneidiau ac yn ein chwedlau, storiâu a hwiangerddi. Er nad yw Cymru’n wlad addas i’w hail-gyflwyno, oherwydd goruchafiaeth anifeiliaid fferm a diffyg bwyd gwyllt iddynt, does debyg yr un creadur sy’n medru creu’r fath arswyd na diddordeb o fewn calon ddynol.

Mae yna dystiolaeth gref ynglŷn â’u buddioldeb ecolegol. Cawsant eu hail-gyflwyno i Barc Cenedlaethol Yellowstone yng nghanol 90au yr 20fed ganrif, a bu effaith aruthrol ar y dirwedd ac yn niferoedd yr afancod, bual ac adar ledled yr ardal. Mae yna ddadl dros eu hail-gyflwyno i’r Alban; er mwyn rheoli niferoedd y ceirw coch yn fwy effeithiol, ond mae yna bryder ymysg y cyhoedd ynglŷn â’r perygl i bobl ac anifeiliaid fferm, a hefyd o sut i reoli poblogaethau’r bleiddiaid.

Mae’r blaidd yn ail-gydio yn eu hen gynefinoedd ar draws Ewrop. Maent yn aml yn byw yn agos i ardaloedd poblog ac maent wedi dychwelyd yn naturiol i wlad Belg a’r Iseldiroedd. Mae rheolaeth ddeallus yn llwyddo i ddatrys unrhyw broblemau rhwng dyn a blaidd.

Mae ffaith a ffuglen yn gymysg pan ddaw i’r blaidd, ac mae’r chwedloniaeth ynghylch y blaidd fel bwystfil yn gamarweiniol. Mae ymosodiadau ar bobl yn beth prin ac mae sawl diwylliant yn eu hanrhydeddu. Mae’r Inuit yn eu cysidro’n greaduriaid uwchraddol a hudol. Maent yn uchel eu bryd o fewn diwylliannau brodorol Gogledd America; a chaent eu cysylltu â dewrder, cryfder, ffyddlondeb, ac fel helwyr gwych sy’n cydweithio gyda’i gilydd ac sy’n ymroddgar i’w teuluoedd.