Species Name Here

Gwenyn

Bee. Antophilia

Ceir 267 rhywogaeth o wenyn ym Mhrydain. Mae rhai rhywogaethau yn nythu ar eu pennau eu hunain, mewn tyllau o dan y ddaear neu mewn coesynnau gwag, tra bod eraill yn byw mewn cytrefi. Ym Mhrydain, mae’r niferoedd o wenyn wedi dirywio’n sylweddol dros yr hanner can mlynedd diwethaf oherwydd colli cynefinoedd, newid yn yr hinsawdd a phlaladdwyr. Mae colli cynefinoedd llawn blodau fel dolydd gwyllt yn arbennig o ddinistriol i wenyn. Ym Mhrydain, mae Cymru yn arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â dirywiad y rhywogaeth ac yn 2013 lluniwyd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Peillwyr. Yn eu rôl fel peillwyr, mae gwenyn yn llinyn hanfodol o we bywyd. Mae ymwybyddiaeth o’r drafferth sy’n wynebu ein gwenyn yn tyfu, ac mae’n hanfodol bod lleoedd gwyllt yn parhau i gynyddu a ffynnu.

Datgelodd darganfyddiad archeolegol o ddarn o bot 4000 mlwydd oed bod pobl Neolithig wedi mwynhau diodydd wedi’u gwneud â mêl, bragiad alcoholig wedi’i eplesu o’r enw medd. Ar wahân i fwynhau eu cynnyrch, mae gan fodau dynol hanes ysbrydol hir gyda gwenyn. Roedd ‘Telling the bees’, defod a ymarferwyd ym Mhrydain ac Iwerddon, yn golygu siarad â gwenyn am ddigwyddiadau arwyddocaol fel genedigaethau, marwolaethau a phriodasau. Byddai anghofio trosglwyddo newyddion i’r gwenyn yn esgor ar ganlyniadau difrifol a allai sychu eu cyflenwad mêl, gan beri i wenyn adael eu cychod neu hyd yn oed farw.

Statws yng Nghoetir Anian: Presennol