PWY YDYM NI?

Mae Coetir Anian yn cynnwys y llu o bobl sy’n cyfrannu at ein hamcanion drwy wneud gwaith ar y safle neu gyfrannu arian. Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan dîm bychan o staff ac fe’i rheolir gan ymddiriedolwyr Coetir Anian..

Menter cymunedol leol ydyw yn y lle cyntaf, er gwaethaf ei harwyddocâd cenedlaethol a’i diddordeb yn ryngwladol.

Jane Davidson - Noddwr

Jane Davidson yw awdur #futuregen: Lessons from a Small Country, sy’n cyflwyno’r rhesymau pam mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyflwyno deddfwriaeth i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol. Cyhoeddir #futuregen gan Chelsea Green. Hi yw Cadeirydd Ymchwiliad Cymru i’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad a Dirprwy Is-Ganghellor Emeritws ym Mhrifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant

Rhwng 2000 a 2011, roedd Jane yn Weinidog Addysg, yna’n Weinidog yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd I Lywodraeth Cymru, lle cynigiodd gyfraith i wneud amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yn egwyddor drefniadol ganolog i’r llywodraeth; daeth Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gyfraith yn 2015. Cyflwynodd y tâl bagiau plastig cyntaf yn y DU, ac aeth ei rheoliadau ailgylchu â Chymru i’r trydydd gorau yn y byd. Creodd Gomisiwn Newid Hinsawdd i Gymru, swydd Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, Datblygiadau One Planet a Llwybr Arfordir Cymru. Mewn Addysg, treialodd newidiadau mawr i’r cwricwlwm; y Cyfnod Sylfaen ar gyfer y blynyddoedd cynnar, Bagloriaeth Cymru ac addysg integredig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang i Gwricwlwm Cymru.

Mae Jane yn noddwr i Goetir Anian, y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM) ac Offer ar gyfer Hunanddibyniaeth Cymru (TFSR Cymru). Mae ganddi gymrodoriaethau anrhydeddus o IEMA (Sefydliad Rheolaeth ac Asesu Amgylcheddol), WWF, CIWM (Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff), CIWEM (Sefydliad Siartredig Rheolaeth Dŵr ac Amgylcheddol) a doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Morgannwg. Mae hi’n cyfrannu’n rheolaidd at ddigwyddiadau arbenigol rhyngwladol. Mae hi’n Gymrawd RSA ac ers 2017 a bu’n gyfadran wadd yn y rhaglen Addysg Weithredol ar gyfer Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd yn Ysgol Iechyd y Cyhoedd T. H. Chan, Prifysgol Harvard.

Mae hi’n byw ar dyddyn yng ngorllewin Cymru lle mae’n anelu at fyw’n ysgafn ar y tir.

 

Sue Jones-Davies
Sue Jones-Davies - Llywydd

Mae Sue Jones-Davies yn Gynghorydd Tref yn Aberystwyth ar ran Plaid Cymru. Hi oedd Maeres y dref yn 2009. Cafodd ei magu yn sir Benfro yng nghysgod y Preselau. Mae’n cario’r cariad yna at y gwylltni a’r rhyddid a theimlasai yno, gyda hi hyd heddiw.

Mae’n aelod-sylfaenydd o GAG (Grŵp Aberystwyth Gwyrddach); sef grŵp a ffurfiwyd er mwyn amddiffyn y coed o fewn Aberystwyth, trwy blannu coed o fewn tir ysgolion a’u hybu ar ddatblygiadau adeiladu newydd. Bu GAG yn weithgar iawn wrth hybu a chefnogi’r cynllun i blannu coed ar y ffordd i fewn i Aberystwyth, gan sicrhau grant tair blynedd gan Lywodraeth Cymru.

Cred Sue fod y galw i hybu a chynnal cefn gwlad mor bwysig ac angenrheidiol ag erioed. Mae’n falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect gweledigaethol hwn i adfer cynefinoedd ac ymgysylltu pobl â byd natur yn y rhan brydferth hon o Gymru.

YMDDIRIEDOLWYR

Joe Hope

Cadeirydd

Ffermwr a chadwraethwr yw Joe. Mae e’n newydd iawn i ffermio gan mai cefndir proffesiynol mewn ecoleg sydd ganddo, yn benodol mewn dynameg coetiroedd, adfer cynefinoedd a chenneg. Bellach, mae Joe yn mwynhau brwdfrydedd rheini sydd wedi gweld y goleuni, trwy ailddarganfod diddordeb plentyndod a’i gyfuno ag angerdd newydd dros archwilio sut y gall amaethyddiaeth adfywiol gydblethu â chadwraeth bioamrywiaethol. Mae ganddo MSc o Fangor mewn Rheoli Adnoddau Gwledig a PhD o Stirling mewn dynameg tirwedd coedwigoedd. Yno, bu’n ymgymryd â gwaith maes helaeth yng Ngwarchodfa Coedwig Caledonian Glen Affric yn ucheldiroedd yr Alban – prosiect blaenllaw ar gyfer adfer cynefinoedd ar raddfa eang.

Mae Joe yn byw ar Fferm Cefn Coch, ar drothwy safle Coetir Anian ym Mwlch Corog. Mae’n gobeithio dod ag arbenigedd mewn ecoleg yr ucheldiroedd, profiad mewn rheoli tir a rhywfaint o gyd-destun lleol (iawn!) i’r prosiect.

Mathew Mitchell

Trysorydd

Mae Mat yn Syrfëwr Siartredig sy’n ymdrin â thir ac adeiladau o fewn y sector gyhoeddus ac i gwmniau. Defnyddiodd y doniau hyn i sicrhau pryniant tir cyntaf yr elusen.

Gan ei fod o gefndir amaethyddol mae Mat yn awyddus iawn i weld sut y gall ffermio traddodiadol a defnydd tir amgen weithio ochr yn ochr â’i gilydd i wella cefn gwlad ar gyfer bywyd gwyllt a chynyddu mynediad iddo.

Kara Moses

Mae Kara yn hwylusydd o bob math o ailwylltio – tirweddau, pobl, a chymdeithas – mae’n cynnig cyrsiau addysgol mewn ailwylltio ymarferol, cysylltiad natur, ecoleg ysbrydol a sgiliau ar gyfer newid cymdeithasol. Mae hi’n angerddol am ysbrydoli a grymuso pobl i gysylltu â natur wyllt a’i gwarchod. Mae Kara yn darlithio ac yn hwyluso ar gyrsiau byr a rhaglenni Meistr yn y Ganolfan Technoleg Amgen, Coleg Schumacher a Chanolfan Cysoni a Heddwch St Ethelburga, lle mae hi’n Gymrawd Cysylltiol. Fel awdur ar ei liwt ei hun mae hi’n ysgrifennu am wylltineb, materion amgylcheddol a’r berthynas rhwng pobl a natur, gan gyfrannu’n rheolaidd at gylchgrawn Resurgence & Ecologist. Mae ganddi gefndir mewn ecoleg ac mae wedi astudio ecoleg ymddygiadol lemyriaid ym Madagascar ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, mewn caethiwed a’r gwyllt, gyda phapurau cyhoeddedig ar y pwnc. Mae ganddi BSc mewn Gwyddorau Biolegol (Amgylcheddol), MRes mewn Primatoleg, ac mae’n gweithio ar CHE mewn Ecoleg Maes. Gallwch ddarganfod mwy am ei gwaith ar ‘rewild everything.’

Milly Jackdaw

Mae Milly yn storiwraig a’n addysgwraig sy’n arbenigo mewn hyrwyddo gwerthfawrogiad o fyd natur trwy berfformiad, storiau a gweithdai. Mae ganddi gariad dwfn at natur ac anifeiliaid a chred ym mhwysigrwydd cysylltiad rhwng pobl a natur. Mae hi wedi gweithio mewn ysgolion ac mewn sawl man awyr-agored er mwyn ymrwymo plant gyda byd natur drwy berfformiad a thrwy profiad uniongyrchol, ac mae’n ymroddedig i alluogi mwy o gyfleuon i bobl i gael mynediad i fyd natur.

Mae hi’n arbennig o frwd dros greu cyfleuon i’r rheiny sy’n debygol o gwrdd â rhwystrau tra’n ceisio cysylltu â byd natur ac a fyddai hefyd yn elwa fwyaf o’r cysylltiad hynny. Ar hyn o bryd, mae’n astudio ecoleg maes ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n Aelod Cyswllt o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Nicola Charlesworth

Mae Nicola’n hannu’n wreiddiol o Ogledd-Orllewin Lloegr a daeth i Aberystwyth yn y 90’au cynnar i astudio Rheolaeth Cefn Gwlad. Testun ei thraethawd hir oedd Ymarferoldeb Ail-gyflwyno Afancod i Gymru..

Ar ôl graddio amhosib oedd gadael Aberystwyth wedi darganfod ei chariad at yr amgylchedd a’r diwylliant lleol ac ers hynny mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru fel gwâs sifil, mewn amryw o swyddogaethu, yn cynnwys: S.G.D., rheolaeth data, cyswllt T.G. ac fel swyddog priosect Tir Gofal.

Wendy Joss

Mae Wendy wedi astudio, byw a gweithio yng Nghymru ers 30 mlynedd. Mae hi wedi profi llawer o dirweddau Cymru trwy ei chyflogaeth yn y sectorau treftadaeth, cadwraeth natur ac ynni adnewyddadwy. Mae Wendy’n angerddol am hyrwyddo a chyflawni dyfodol ar gyfer ecoleg ac amgylchedd Cymru. Yn gymwys mewn ystod o bynciau treftadaeth, adnoddau gwledig, newid hinsawdd a chynaliadwyedd, sydd wedi darparu gwaelodlin i’w phrofiad. Mae’r profiad hwn yn amrywio o arolygon treftadaeth ac ecoleg ar raddfa enfawr yn UDA, cloddiadau archeolegol yn Ffrainc, yr Alban, Cymru a Lloegr, gan arwain ar brosiectau adfer rhywogaethau ac adfer cynefinoedd fel grugieir du, cors flanced a choetiroedd hynafol. Mae Wendy wedi arwain ar bolisi’r llywodraeth ar gyfer coetiroedd a phriddoedd a dŵr, a choetir a’r amgylchedd hanesyddol. Ar hyn o bryd, mae Wendy yn gweithio i Gorff amgylchedd Cymreig fel cynghorydd arbenigol ar gyfer tîm y rhaglen creu coetir – gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynyddu plannu coetiroedd a chynghori ar atebion technegol amgylcheddol ac amgylchedd hanesyddol. Mae hi wedi rheoli nifer o brosiectau adfer cynefinoedd a rhywogaethau gan ddefnyddio methodolegau Prince 2.

Mae Wendy yn byw gyda’i gŵr, ei merch a’i chi yng nghanolbarth Cymru. Maent wrth eu bodd yn yr awyr agored ac wedi ymgartrefu mewn ardal y maent yn teimlo sy’n rhoi’r gorau y gall Cymru ei gynnig – mynyddoedd, môr, aberoedd, coetiroedd ac afonydd. Mae gan Wendy gymysgedd go iawn o ddiddordebau heblaw am yr amgylchedd naturiol sy’n cynnwys gwylio ffilmiau, pêl-droed, syrffio, pysgota, gwersylla, coginio, teithio a darllen.

Jon Walker

Mae Jon yn arbenigwr ar gynefinoedd mawndir ac adfer gorgorsydd ac mae’n gweithio fel ymchwilydd yn Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n byw yn lleol gyda’i deulu ifanc ac yn berchen ar dyddyn y mae’n gobeithio y bydd yn gartref i ferlod y Carneddau yn y dyfodol agos.

Simon Ayres

Coedwigwr proffesiynol yw Simon, sy’n arbenigo mewn creu ardaloedd o goetir newydd a rheoli coetiroedd brodorol, gan gynnwys adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol. Mae e wedi cefnogi adfer ardaloedd mawr o goetir brodorol ym Mhrydain ers dros 30 mlynedd, ac wedi ymwneud â hyrwyddo mwy o wylltineb yn y dirwedd ers bron i 20 mlynedd. Yn un o sylfaenwyr Coetir Anian, mae Simon yn parhau i ymwneud yn agos â datblygiad y prosiect ers ei sefydlu. Fe’i ysbrydolwyd i chwarae ei ran wrth atgyweirio’r difrod i’r byd naturiol, trwy adfer cynefinoedd a gwneud lle i fywyd gwyllt.

Ymhlith ei ddiddordebau mae ‘bushcraft’ ac archwilio ardaloedd gwyllt ar droed ac mewn chanŵ.

STAFF

Katy Harris

Cyfarwyddwr

Mae Katy wedi gweithio i elusennau amgylcheddol yng Nghymru ers 2004, gan gynnwys rolau yng Nghoed Lleol – Cymdeithas Coedwigoedd Bychain, y Ganolfan Dechnoleg Amgen, ac yn fwyaf diweddar RSPB Cymru. Mae gan Katy gyfoeth o brofiad mewn datblygu a rheoli prosiectau yn ogystal â chodi arian. Bu’n gweithio ar gadwraeth coedwigoedd boreal hen-dwf yn Rwsia a Sgandinafia, gan gefnogi grwpiau bach i feithrin gallu, ymgysylltu cymunedol a pholisi, a rhwydweithio. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn cadwraeth natur, adfer cynefinoedd, galluogi cymdeithas i ymateb i’r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac mewn cysylltu pobl a chymunedau â natur. Mae Katy wedi byw yn Aberystwyth ers bron i 20 mlynedd ac yn ei hamser rhydd mae’n mwynhau archwilio mannau gwyllt yng Nghymru a thu hwnt, fel arfer gyda’i gŵr a’i theulu ifanc. Mae hi hefyd yn mwynhau tyfu llysiau ar ei rhandir. Yn ogystal â 3 o blant, mae ganddi ddwy gath a phedair iâr bantam. Mae ganddi gymwysterau mewn Addysg ar gyfer Cynaliadwyedd, Rheolaeth ac Ieithoedd Modern. Mae hi’n rhugl yn Rwsieg ac Almaeneg ac yn dysgu Cymraeg.

Clarissa Richards

Rheolwr Addysg a Chymuned

Mae Clarissa yn byw ar dyddyn ger Tregaron. Gyda’i theulu mae hi wedi mwynhau annog bywyd newydd i’r tir trwy blannu coed, adfer gwrychoedd, rheoli’r dolydd blodau gwyllt a chreu pyllau ac ardaloedd gwlyb. Maent wedi cael eu gwobrwyo gyda llawer o blanhigion ac anifeiliaid newydd yn gwneud eu cartrefi ar y tir, yn fwyaf diweddar mwydod tywynnu! Bu’n dysgu mewn ysgol leol am 13 mlynedd, ar ei hapusaf tu allan gyda’r disgyblion, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau natur.

Nia Huw

Rheolwr Cyfathrebu a Phrosiect

Bu Nia yn dysgu am 20 mlynedd a gwelodd yn uniongyrchol bwysigrwydd a buddion ail-gysylltu pobl ifanc â’u hamgylchedd. Mae hi’n wirfoddolwr gyda’r Alzheimer’s Society a’r Cinnamon Trust ac yn gwerthfawrogi’r cyfle y mae gweithio gyda’r elusennau hyn wedi’i roi iddi i adeiladu perthnasoedd ag ystod amrywiol o grwpiau ac unigolion. Treulir unrhyw amser sbâr sydd ganddi yn yr awyr agored – gyda’i theulu mae’n mwynhau gallu archwilio’r dirwedd trwy heicio, ‘bouldering’, nofio a chaiacio. Mae llynnoedd a choedwigoedd Sweden a rhostiroedd Swydd Efrog yn hoff fannau ar gyfer anturiaethau – ond does unman yn debyg i Gymru!

Deb Joffe

Rheolwr Codi Arian

Dechreuodd Deb ei gyrfa fel nyrs a bydwraig, a bu’n dysgu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y sector Addysg Bellach. Symudodd wedyn i’r sector elusennol lle bu’n cyd-arwain elusen iechyd meddwl fach ym Mryste, bu’n gweithio fel dyfarnwr grantiau i Sefydliad Cymunedol, ac roedd yn Godwr Arian ar gyfer elusen ffoaduriaid. Ar hyd y ffordd, mae hi wedi bod yn gwirfoddoli mewn llawer o rolau gwahanol, gan gynnwys cyfnod fel Cynghorydd Dinas ac fel Ymddiriedolwr i ymddiriedolaeth teulu bach. Mae ymgyrchu wedi bod yn rhan o’i bywyd erioed, o redeg grŵp gwrth-apartheid myfyrwyr i gyd-sefydlu Rhwydwaith Gweithredu Hinsawdd Swindon. Mae ganddi gymwysterau mewn Daearyddiaeth, Rheolaeth a Datblygiad Cynaliadwy. Y pethau agosaf at ei chalon yw ei merch, ei chyfeillion, natur, a syllu ar bethau bychain.

Neil Groves

Rheolwr Cynefinoedd a Rhywogaethau

Dim ond rhai milltiroedd mae Neil wedi mudo ychydig o warchodfa natur RSPB Ynys hir, lle bu’n gweithio am 13 mlynedd, yn rheoli coetiroedd, gorgors a ffriddoedd ar gyfer rhai o rywogaethau mwyaf eiconig Bro Ddyfi. Mae ei gefndir mewn rheolaeth tir ymarferol, monitro ecolegol a gweithio gyda gwirfoddolwyr a chontractwyr. Mae gan Neil brofiad o bori anifeiliaid ond mae’n gobeithio dysgu mwy wrth reoli’r fuches ar gyfer Cambrian Wildwood. Rhan fawr o waith Neil yw monitro a chofnodi newidiadau ecolegol dros amser ym Mwlch Corog. Mae’n byw yn lleol gyda’i deulu ac yn mwynhau chwarae pêl-droed, rhedeg, darllen a gwyddbwyll.