Priosect Coetir Anian

Gweithredir y priosect i ddi-ddofi rhan o Fynyddoedd y Cambria gan elusen Sefydliad Tir Gwyllt Cymru. Bydd y priosect yma yn adfer y coetir cynhenid ac yn ail-gyflwyno rhai o’r anifeiliaid coll. Bydd y man cychwyn ar 750 erw o rhosdir ac ucheldir dyffrynnol sydd mewn cyflwr ddirywiedig. O fewn amser, y nôd yw ymestyn y Coetir drwy brynnu tir pellach a’i luosu hyd at 7,5000 erw, yn cynnwys cydweithrediad tir-feddiannwyr eraill.

Gweithredir y priosect i ddi-ddofi rhan o Fynyddoedd y Cambria gan elusen Sefydliad Tir Gwyllt Cymru. Bydd y priosect yma yn adfer y coetir cynhenid ac yn ail-gyflwyno rhai o’r anifeiliaid coll. Bydd y man cychwyn ar 750 erw o rhosdir ac ucheldir dyffrynnol sydd mewn cyflwr ddirywiedig. O fewn amser, y nôd yw ymestyn y Coetir drwy brynnu tir pellach a’i luosu hyd at 7,5000 erw, yn cynnwys cydweithrediad tir-feddiannwyr eraill.

Nid oes diwedd pendant i raglen Coetir Anian ond fe fydd yn cael ei reoli mewn modd cylchol o 5 mlynedd ar y tro; mi fydd hyn yn symlhau pethau o ran cynllunio ac ariannu’r briosect. Bydd y priosect cychwynnol yn adfer cynefinoedd ym mryniau Canolbarth Cymru, ar 750 erw o rhosdir ac ucheldir dyffrynnol sydd mewn cyflwr ecolegol fregus; a bydd coed cynhenid yn cael eu hadfer i’r dyffryn sydd, yn ei bresennol wedd, yn ddi-goed. Mae prynnu’r tir hwn yn rhan o weledigaeth y briosect, er mwyn creu cysylltedd rhwng y cynefinoedd ynysig o fewn, a thu hwnt, i’r cwm. Mae yna goetir Ardal Gadwraeth Arbennig (A.G.A.), eisioes, o fewn 1.5 cilomedr i’r safle sydd wedi ei wahanu gan borfa garw a choed gwasgaredig. Fe fydd y priosect yn ymestyn y coetir cynhenid yma am rhyw ddau (2) cilomedr, ymhellach at flaen y cwm, lle bydd yn ymdoddi a choed gwasgaredig y rhosdir.

Ar ben y dyffryn ceir ardal eang o laswellt y bwla (Molinia purpurea), sydd yn gorwedd rhwng dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (S.o.Dd.G.A.) neu (S.S.S.I.). Adferir yr ardal yma yn ôl at weundir rugog a fydd, mewn rhannau, yn creu brithwaith efo’r coed. Os yn briodol, fe fydd cynefinoedd torlannol a chorsdirol yn cael au hadfer hefyd.

Drwy adfer y cynefinoedd hyn, fe fydd priosect Coetir Anian yn creu y cyfleuon angenrheidiol a alluogith y rhywogaethau anifeilaidd coll i ddychwelyd. Cyflawnir hyn drwy un’ai goloneiddio naturiol neu trwy ail-gyflwyno, yn dilyn astudiaeth dichonoldeb fanwl. Gall yr anifeiliaid hyn gynnwys: llygoden bengron y dŵr (Arvicola terrestris), y wiwer goch (Sciurus vulgaris), ysgyfarnog fynydd (Lepus timidus subsp. Scoticus), y baedd (Sus scrofa), yr afanc (Castor fiber), y bele (Martes martes) a’r gath wyllt (Felis silvestris); yn ogystal ag amrywiaeth o famaliaid bychain eraill.

Disgwylir i adar fudo i’r ardal wrth i’r cynefinoedd cael eu hadfer. Bydd y fenter yn dilyn egwyddorion di-ddofi neu “re-wilding”; sy’n golygu y bydd unrhyw llysysyddion mawr a fydd yn pori’r tir, yn rhai gwyllt neu hanner-gwyllt (feral), yn lle rhai domestig. Rydym yn cysidro cyflwyno merlod Exmoor fel eilydd i’r Tarpan ddiflanedig a gwartheg megis yr Heck fel eilydd i’r Aurochs a fu; a byddwn yn cynnal ymchwil fanwl i’w haddasrwydd cyn unrhyw gyflwyniad i’r safle.  Rydym yn disgwyl i’r Iwrch (Roe Deer) (Capreolus capreolus) fudo i’r ardal yn yr hir-dymor a byddwn hefyd yn astudio achos y carw coch (Cervus elaphus).

wildwood-bird

 

I gloi, bydd y priosect 5 mlynedd yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Prynu tir.
  • Cynhyrchu cynllun rheoli manwl yn seiliedig ar arolwg priddoedd a dadansoddiad paill.
  • Adfer cynefinoedd.
  • Astudiaeth o ddichonoldeb cyflwyno, (neu ail-gyflwyno), rhywogaethau.
  • Mynediad i’r cyhoedd : e.e. gweithio ar lwybrau troed a mannau gwersylla.
  • Hyrwyddo’r safle a menter Coetir Anian: addysg ac ‘estyn allan’ (outreach).
  • Paratoi ar gyfer cyfnod 5 mlynedd nesa’r fenter, gan gynnwys prynu tir pellach.
  • Gweithio’n agos gyda phartneriaid a chymdogion a thir-feddianwyr gyfagos, gan gynnwys
  • Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Aberystwyth

 

English