EIN TIR

Prynnwyd Bwlch Corog, gynt Cefn Coch, ar gyfer Coetir Anian ym Mai 2017. Mae Sefydliad Tir Gwyllt Cymru yn dal prydles ar y tir am 125 mlynedd gan Goed Cadw, sy wedi prynnu’r rhydd-daliad ar y tir.

Mae’r safle yn 350 erw (140 hectar) o rosdir sy wedi ei orchuddio, ar y cyfan â braswellt piws (Molinia caerulea). Mae rhan gymharol fach o’r tir yn goetir hynafol rhwng dau nant yng nghornel ogleddol y safle.

Y bwriad yw y bydd coetir yn cytrefi yn naturiol ym Mwlch Corog. Bydd hyn yn cael ei gynorthwyo drwy blannu tuo wyth mil o goed cynefinol mewn ardaloedd bach o ambylch y safle. Mae’r ardaloedd bach yma o goed yn creu ffynhonnell o hadau, sy ddim yn bresennol ar hyn o bryd ar y tir uchel. Mae’n debygol y bydd y coetir bresennol yn ehangu yn naturiol i mewn i’r rhedynnau i fyny’r bryn. Bydd hefyd coed ar wasgar ar hyd y rhosdir. Bydd y gwaith cychwynnol hefyd yn cynnwys blocio’r 12 km o waith draenio sydd ar hyd a lled y safle. Bydd ardaloedd mawr o fraswellt piws yn dychwelyd i orgors a rhosdir grug, yn gymysg â’r coetir cynefinol.

Ni borwyd y safle am tua chwe mlynedd cyn iddo gael ei brynnu. Ers hynny, rydym wedi rhoi chwe ceffyl gwyllt ar y tir, pum caseg ac un stalwyn, rhwng Ebrill a Mehefin 2018. Mae llysysau mawr eraill yn bosib fel rhan o’r cynllun hir-dymor, os ydy’r arolygion yn dangos eu bod yn addas.

Bydd adfer cynefinoedd yn creu yr amgylchiadau cywir ar gyfer dod â rhai o’r rhywogaethau o anifeiliaid sy wedi eu colli yn ôl. Gall hyn ddigwydd yn naturiol, er enghraifft, rydym yn disgwyl y bydd adar yn cael eu denu at yr ardal wrth i’r cynefinoedd gael eu hadfer. Byddwn hefyd yn ysteyried ail-gyflwyno rhywogaethau, yn dilyn ymchwil trylwyr. Gall rhain gynnwys lygod y dŵr (Arvicola terrestris), gwiwerod coch (Sciurus vulgaris), ysgyfanogiaid y mynydd (Lepus timidus), baeddod gwyllt (Sus scrofa), afancar (Castor fiber), â chathod gwyllt (Felis silvestris) er enghraifft, yn ogystal â mamaliaid bach eraill. Mae’r boblogaeth fach o’r bele oed ar ôl yng Nghymru wedi cael hwb gan ychwanegiad o bumdeg-un anifail o’r Alban dros y dair mlynedd ddiwethaf, yn agos i safle Coetir Anian.

Y cam cyntaf yw i wneud arolwg i weld pa adar, mamaliaid, planhigion ac infertebratau sy’n bresennol. Bydd hyn yn rhow man cychwyn i’w gymharu gyda ar hyd y blynyddoedd.

Rydym wedi gwella’r llwybrau, a chreu rhai llwybrau newydd ar draws y rhosdir, er mwyn hwyluso mynediad ar droed ac wrth farchogaeth.

Mae Bwlch Corog wedi ei leoli ar y bryniau uwchben y Ddyfi, rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.

Bwlch Corog (Lleoliad)

Mae mynediad drwy Glaspwll. O fan hyn, mae llwybr gyhoeddus yn dilyn Nant Y Factory a Nant Cefn Coch. Mae hi hefyd yn bosib i ddilyn y llwybr i Lechwedd Einion, ac yna mynd i mewn ar lwybr gyhoeddus drwy giât.

Bwlch Corog (Lleoliad)

Dangosir ffîn Bwlch Corog, yn fras, mewn coch.

Bwlch Corog (Lleoliad)

Ambell lun o’r coetir a’r rhosdir ym Mwlch Corog…..

(Noder fod rhai ardaloedd a welir yn y lluniau, yn enwedig rheiny sy o olygfeydd eang, y tu allan i ffîn Bwlch Corog).

Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
Bwlch Corog (Lleoliad)
English