Dechreuwyd prosiect gwych arall ym Mwlch Corog. Diolch i gyllid gan CGGC, rydym wedi gallu gwahodd pobl ifanc o’r ardal leol i ymuno â’n rhaglen ddiweddaraf a dod yn ‘Llysgenhadon Natur.’
Yn ystod y flwyddyn hon, bydd pedwar grŵp gwahanol yn cael eu gwahodd i ymweld â ni am un diwrnod yr wythnos, dros gyfnod o chwe wythnos. Bydd pob sesiwn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau wedi’u teilwra ar gyfer dysgu sgiliau newydd, cysylltu â byd natur a chael profiad o wirfoddoli. Yn ogystal â datblygu sgiliau ymarferol, ein nod yw gweld cyfranogwyr yn gorffen y rhaglen hon gyda mwy o hunanhyder a hunan-barch. Gobeithiwn y bydd cymryd rhan yn brofiad boddhaus sy’n rhoi ymdeimlad o fod yn rhan o gymuned i’n pobl ifanc, trwy gydweithio ar y dasg bwysig o wella bio-amrywiaeth a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd.
Mae ymchwil diweddar gan yr NPC ar gyfer eu rhaglen waith ‘Everyone’s Environment’ yn dangos yn glir bod pobl ifanc yn poeni’n fawr am yr amgylchedd a’i warchodaeth, ond gallant ganfod bod y naratif o amgylch y pwnc hwn yn llethol a chânt drafferth dod o hyd i gyfleoedd i fod yn rhagweithiol. Yng Nghoetir Anian, rydym yn falch y bydd ein rhaglen ‘Llysgenhadon Natur’ yn helpu ein pobl ifanc leol i weithio tuag at ddyfodol disglair iddyn nhw’u hunain a’r amgylchedd.
Rydym yn weddol sicr bod ein criw cyntaf o ddisgyblion brwdfrydig o Ysgol Penglais wedi cael diwrnod gwych i gychwyn ar eu taith gyda ni!