Mae amser ar ôl i gyfrannu . . .

Day(s)

:

Hour(s)

:

Minute(s)

:

Second(s)

YMGYRCH NEWID TRWY NATUR

Y mis Tachwedd hwn rydym yn ymuno â Her Nadolig y ‘Big Give’ er mwyn helpu creu dyfodol i bobl a lleoedd.
Ein nod yw creu newid cadarnhaol ar gyfer pobl a’r amgylchedd. Mae ein dull deublyg o adfer cynefinoedd Bwlch Corog ochr yn ochr â chynnig ystod o raglenni ar gyfer grwpiau amrywiol yn creu tirwedd amrywiol, llawn natur sy’n hygyrch i bawb.
Er ein bod ar hyn o bryd yn wynebu sawl her – yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, adferiad o Covid ac amddifadedd i enwi ond ychydig, yma yng Nghoetir Anian rydym yn creu gofod lle gall natur a phobl ffynnu.

Sut gall eich cyfraniad helpuhelpu?

£5

i brynu pâr o esgidiau glaw ar gyfer y ‘cwpwrdd cit’

£20

i blannu a chynnal dwy goeden ar y safle

£30

i sefydlu meithrinfa goed mewn ysgol

£100

i dalu am wiriad iechyd ar gyfer y koniks

£300

i dalu i un person ifanc fynychu gwersyll

Newyddion gwell fyth yw y gallwch chi, am wythnos, ddyblu effaith eich rhodd.

Bydd pob ceiniog a roddwch yn cael ei ddyblu OND dim ond yn ystod wythnos y ’Big Give Christmas Challenge’ o’r 30ain o Dachwedd – 7fed o Ragfyr.

Sut mae’ch rhodd i Goeir Anian trwyr’ ‘Big Give’ yn gweithio:

1. Cyfrannwch at ein hymgyrch Newid Trwy Natur, a fydd yn fyw yma rhwng y 30ain o Dachwedd a’r 7fed o Ragfyr 2021
2. Bydd ein ’Big Give Champions’ yn dyblu’ch rhodd

Mae hi mor syml â hynny!

 

Cymerwch ran yn wythnos Her Nadolig y ‘Big Give’ a helpwch ni i gyrraedd ein targed o £ 15,000 i sicrhau bod gan natur a phobl le i ffynnu ym Mwlch Corog.