GWIRFODDOLI

Dwi bob amser yn mwynhau dod i Fwlch Corog i wirfoddoli. Gall y gwaith fod yn anodd ar brydiau, ond r’ych chi’n teimlo bod yr amser yn cael ei dreulio’n dda. Ac mae’n ffordd dda o helpu bywyd gwyllt i ffynnu hefyd.

Diolch am ddangos diddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni. Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i lwyddiant y prosiect, ac rydym yn cynnig ystod eang o brofiadau gwirfoddoli diddorol. Y brif ffordd o ymuno gyda ni yw trwy helpu gyda thasgau ymarferol ar ein safle ym Mwlch Corog – rydym yn cynnal dau ddiwrnod gwaith pob mis, fel arfer ar ddydd Iau canol y mis a dydd Sadwrn olaf y mis. Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu gydag agweddau eraill o’n gwaith, yna cysylltwch gyda ni er mwyn trafod posibilidau.

Er mwyn derbyn y wybodaeth diweddaraf, gofynnwch i gael bod ar ein rhestr cyswllt.

Dyddiadau diwrnodau gwaith 2024:

DYDD IAU
18fed Ionawr
– plannu coed ar y rhostir gan ddefnyddio gardiau ‘cactws’ i amddiffyn y glasbrennau
8fed Chwefror **GOHIRIWYD OHERWYDD RHAGOLYGON TYWYDD GWAEL _ DYYDIAD NEWYDD 15fed CHWEFROR** – plannu coed / clirio llwybrau / rhoi amddiffynwyr llygod pengrwn ar goed
21ain Mawrth 
11eg Ebrill 
9fed Mai 
13eg Mehefin
11eg Gorfennaf 
15fed Awst
12fed Medi 
10fed Hydref
14eg Tachwedd
12fed Rhagfyr 

DYDD SADWRN
27ain Ionawr – 
plannu coed ar y rhostir gan ddefnyddio gardiau ‘cactws’ i amddiffyn y glasbrennau
24ain Chwefror – 
plannu coed ar y rhostir gan ddefnyddio gardiau ‘cactws’ i amddiffyn y glasbrennau
16eg Mawrth
Cylch risglo llarwydd, clirio llwybr yn y goedwig, gwirio’r ffens drydan yn barod ar gyfer y gwartheg, symud coed tân i’r sied goed
27ain Ebrill 
18fed Mai –
 diwrnod agored cymunedol
29ain Mehefin
27ain Gorffennaf
31ain Awst
28ain Medi
26ain Hydref
30ain Tachwedd

Os hoffech ymuno â ni, buasem  yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i ni ymlaen llaw drwy gysylltu â ni post@coetiranian.org

Ar y diwrnod:

9.45 y.b. -Cwrdd yn y gilfan (mynedfa Y Plas) wrth ymyl y gylchfan ar gyrion Machynlleth (A487 wrth deithio i’r de.). What3words – folks.camp.aims
NEU
ewch yn sythi Fwlch Corg erbyn 10 y.b. dyma sut i’n ffeindio ni.

Gwisgwch ddillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau ar gyfer tir gwlyb, os gwelwch yn dda.

Bydd diodydd poeth a chacen ar gael ond dewch â bwyd a diod yn ôl yr angen amser cinio, os gwelwch yn dda.

4.00 y.p. – gorffen.