Yn ystod mis Mehefin 2019, cynhaliodd Coetir Anian ddau Wersyll Gwyllt i bobl ifanc yn eu harddegau ar ein safle hardd ym Mwlch Corog. Mynychodd myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Crickhowell ac Ysgol Uwchradd Llanidloes wythnos o weithgareddau awyr agored a hwyluswyd gan Jane Robertson a Caspar Brown, arbenigwyr ym Mywyd Oes y Cerrig.

Dyluniwyd y gwersylloedd yn benodol i gynnig cyfle i bobl ifanc gael profiad dwfn a gwerth chweil o fod yn agos at natur, dysgu sgiliau newydd a magu hunanhyder. Ni chaniatawyd unrhyw ffonau symudol nac unrhyw dechnolegau digidol eraill yn ystod yr wythnos ac roedd ffocws cryf ar ymwybyddiaeth ofalgar a lles.

Ar ôl cyrraedd, y dasg gyntaf i fyfyrwyr oedd rhoi eu pebyll i fyny. Yn dilyn cinio o amgylch y tân, aethant ar daith gerdded cyfeiriadedd o amgylch y safle i archwilio’r gwahanol gynefinoedd. Roedd hyn yn cynnwys cerdded trwy’r afon i fyny’r ceunant. Fe wnaethant gerdded YN yr afon a oedd yn uchafbwynt eu hwythnos i lawer o fyfyrwyr! Ar ôl swper o amgylch y tân, siaradodd Jane a Caspar â’r myfyrwyr am fywyd yn Oes y Cerrig a dangos yr offer a’r dillad a fyddai wedi cael eu defnyddio.

Diwrnod tân oedd diwrnod dau. Dangoswyd gwahanol ddefnyddiau naturiol i’r myfyrwyr i’w defnyddio ar gyfer rhwymwr ac yna cymerasant ran mewn her ‘un matsien’. Gan weithio mewn parau, rhoddwyd un matsien a rhywfaint o rwymwr i bob pâr. Gofynnwyd iddynt ddychmygu eu bod yn oer a gwlyb, allan ar fynydd ac arnynt angen dirfawr am wres a bwyd. Dim ond un matsien oedd ar gael felly dyma fyddai eu hunig siawns o gynnau dân. Yr her oedd cynnau tân a’i gadw i fynd am 3 munud. O’r ddau grŵp ysgol, dim ond un pâr a lwyddodd i gyflawni’r her.

Yna aeth y grwpiau ymlaen i ddefnyddio fflint a dur a llwyddodd pob pâr i gynnau tân gan ddefnyddio’r dull hwn cyn dysgu tanio tân trwy ffrithiant. Mae hon yn grefft fedrus iawn ac roedd yn her enfawr i’r  myfyrwyr i gyd. Roedd yn dda gweld eu penderfyniad, eu gwytnwch a’u hymgysylltiad llwyr â’r dasg. Er na lwyddodd llawer o fyfyrwyr i gynnau tân gan ddefnyddio’r dull hwn, dysgodd pob un ohonynt lawer a dangos parch newydd at dân.

Gyda’r nos, cafodd y grwpiau sesiwn adrodd stori o amgylch y tân, dan arweiniad Milly Jackdaw.

Chwilota oedd ar y gweill ar y trydydd diwrnod. Aethon ni am dro, chwilota am fwyd a gorffen gyda nofio gwyllt mewn afon leol. Ymatebodd y ddau grŵp yn wahanol iawn i’r diwrnod hwn. Fe wnaeth un grŵp fwynhau agwedd gorfforol y dydd yn fawr (cerdded a nofio) tra bod y grŵp arall wedi ymateb yn wirioneddol dda i’r chwilota, yn llenwi eu boliau ar lus a chasglu planhigion gwyllt ar gyfer gwneud pesto ar gyfer ein pryd nos. Ar ôl dychwelyd i’r gwersyll dysgodd y myfyrwyr i baratoi brithyll a gafodd eu coginio wedyn dros y tân. Am wledd!

Ar y pedwerydd diwrnod mwynheuwyd crefftau. Ar ôl cynaeafu coed gwyrdd addas ar y safle, dysgodd un grŵp gerfio llwyau tra bod y grŵp arall yn gwneud cyllyll menyn. Gyda’r nos rhoddwyd bagiau bivvy i bawb a chawsom ‘gysgu allan’ o dan y sêr, profiad hudolus.

Amser i fyfyrio oedd hi ar y pumed diwrnod. Daeth pob myfyriwr o hyd i lecyn tawel er mwyn ysgrifennu llythyr at eu hunain yn y dyfodol. Cawsant eu hannog i ysgrifennu am eu teimladau a’r hyn yr oeddent wedi’i ddysgu amdanynt eu hunain yn ogystal â sgiliau newydd dysgwyd yn ystod yr wythnos. Postiwyd y rhain atynt y flwyddyn ganlynol, a’u hannog, gobeithio, wrth iddynt barhau â’u taith bywyd.

Tynnwyd y gwersyll i lawr a ffarwelio. Yn y cylch cau o amgylch y tân dywedodd un myfyriwr, “Diolch am fy mhrofiad gwersylla cyntaf. Diolch am y caneuon ac am ddysgu fi, os ydw i’n isel fy ysbryd, i fynd i fyd natur a’r coed a byddan nhw’n fy helpu. “

Mewn adborth gan staff yr ysgol, dywedwyd bod “y ffocws ar weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar ac yn ôl i natur yn wych i ail-gysylltu’r bobl ifanc â’r awyr agored i ffwrdd o dechnoleg” ac “roedd lleoliad yn wych.”

Mae adborth ychwanegol gan y staff yn dangos gwerth y profiad hwn:

Ymrwymodd y myfyrwyr yn llawn i’r profiad ac wrth i’r wythnos fynd heibio gwelsom rai newidiadau gwych. Roedd y myfyrwyr yn chwerthin, yn crio ac yn cefnogi ei gilydd. Buont yn gweithio fel tîm yn gofalu am y tân, yn paratoi prydau bwyd, yn helpu i ddiogelu’r pebyll. Fe wnaethant ymgysylltu â staff ac roeddent wrth eu bodd yn dysgu am yr amgylchedd yr oeddent ynddo ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr amrywiaeth a gwarchod y cynefin naturiol.

Roedd y myfyrwyr yn bwyta’n dda, yn gwerthfawrogi’r ‘amser o amgylch y tân’ yn sgwrsio ac yn rhannu straeon. Mynegodd un myfyriwr, ‘Dyma ystyr teulu go iawn.’

Erbyn diwedd yr wythnos roedd y myfyrwyr yn ‘llwyth’; roeddent wedi cydnabod eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain ac wedi rhannu’r gwaith gwersyll yn unol â hynny. Gwelsom fân anghydfodau yn cael eu datrys ymysg ei gilydd, gwelsom wynebau trist pan ddaeth yn amser gadael, gwelsom blant hapus i ffwrdd o’r cyfryngau cymdeithasol, gwelsom blant yn rhannu brwydrau personol ac yn cael eu cefnogi gan gyfoedion.

Trwy fynd â’r myfyrwyr allan o amgylchedd ysgol gwelodd staff blant mewn golau gwahanol. Parhaodd y perthnasoedd hyn y tu hwnt i’r gwersyll a hyd heddiw rydym yn dal i sgwrsio am y gwersyll ac mae gan y myfyrwyr a fynychodd yr hyder i fynd at staff yr ysgol os oes ganddynt unrhyw broblemau yn yr ysgol.

Mae hwn yn brosiect y mae angen i bob myfyriwr ledled Cymru ei brofi. Cafodd dim ond cael wythnos i ffwrdd o ffonau symudol effaith ddwys ar eu lles ac rydym wedi gweld perthnasoedd yn datblygu a’r sgil hen ffasiwn honno o ‘siarad’ yn datblygu.

Yn olaf roedd pob rhiant yn gefnogol iawn ac yn ddiolchgar bod eu plant wedi cael cyfle i brofi’r Gwersyll Gwyllt.

Roedd y gwersyll yn llawn profiadau newydd a heriau personol i’r bobl ifanc, rhai yr oeddynt yn eu croesawu a’u mwynhau. Roedd eu hadborth ysgrifenedig yn adlewyrchu eu synnwyr o oresgyn heriau, cael hwyl, gwerthfawrogiad a thristwch pan oedd hi’n amser gadael. Crynhodd un myfyriwr: “Rwy’n teimlo’n gartrefol yma. DWI’N DWLI ARNO! ”

Rydym yn cytuno â’r teimlad bod angen i bob person ifanc gael y profiad hwn. Mae’r cysylltiad â natur a chyda’i gilydd yn eu hail-gysylltu â bywyd go iawn. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu mwy o bobl ifanc ar gyfer Gwersylloedd Gwyllt ym Mwlch Corog. Ein cynllun yw cynnal chwech o’r rhain bob blwyddyn. Cafodd y pedwar a gynlluniwyd ar gyfer Mai a Mehefin 2020 eu gohirio oherwydd y pandemig, ac mae’n ymddangos yn annhebygol y bydd y ddau a gynlluniwyd ar gyfer mis Medi yn gallu digwydd. Felly mae’n ddigon posib y byddwn ni’n edrych ymlaen at 2021 ar gyfer y gwersylloedd nesaf.