Gweler y calendr am y dyddiadau y gallwch wersylla yn Bwlch Corog.

Gwyrdd: croeso i chi wersylla!
Oren: Mae croeso i chi wersylla, ond peidiwch â chyrraedd cyn 4.30pm gan fod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiad addysgol neu ieuenctid.
Coch: Ymddiheuriadau – mae grŵp yn gwersylla, felly gofynnwn i chi beidio â gwersylla’r noson hon.

Sicrhewch eich bod wedi pacio eich gwersyll erbyn 9:30 y.b. ar ddiwrnod sydd wedi’i nodi’n oren neu’n goch. Nid oes angen i chi adael Bwlch Corog, ond cofiwch y gallai staff ofyn i chi symud o ardal benodol os oes ei hangen ar gyfer grŵp neu ddigwyddiad.

*Sylwch – mae gennym amserlen brysur o weithgareddau ar y safle, fel diwrnodau gwaith gwirfoddolwyr, digwyddiadau cymunedol ac ymweliadau prifysgol. Yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad, efallai na fyddant wedi’u nodi ar y calendr. Fodd bynnag, mae bob amser posibilrwydd y byddwch yn gweld pobl eraill ar y safle, gan gynnwys grwpiau mawr. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i beidio ag aflonyddu ar bobl sy’n gwersylla.