GWEITHGAREDDAU MISOL

Gweithgareddau Gwyllt: Anturiaethau ym myd natur

Croeso i’n tudalen gweithdareddau. Pob mis byddwn yn postio gweithgaredd tymhorol i’ch ysbrydoli i fynd allan i’r awyr agored a chysylltu â natur. Bydd rhai o’r gweithgareddau hyn wedi’u hanelu at blant a theuluoedd tra bydd eraill yn fwy priodol i oedolion, ond gobeithiwn, beth bynnag eich oedran neu brofiad, y byddwch yn dod o hyd i syniadau yma sy’n mynd â chi ar antur ym myd natur.

GAEAF

Rhagfyr

Swag Nadolig

Mae mis Rhagfyr wedi cyrraedd a gall paratoadau ddechrau ar gyfer y Nadolig. Rhan bwysig o’r paratoi yw addurno’r tŷ. Mae ‘na hen draddodiad o gasglu bythwyrddion fel celyn a iorwg. ‘Nôl yn yr amsersoedd Paganaidd, roedd planhigion bytholwyrdd yn symbol o’r gwanwyn i ddod, neges bwysig o obaith adeg yr heuldro a’r nosweithiau hir, tywyll trwy’r gaeaf. Mae’r gweithgaredd mis hwn yn defnyddio deunyddiau bytholwyrdd i greu swag Nadolig a oedd yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol.

Bydd angen:
Canghennau byr o binwydd neu sbriws, darn llydan o ruban coch, canghennau byr o gelynnen, darnau o iorwg, conau pinwydd, gwifren a gwlân.

Ewch am dro i’r goedwig. Ewch â basged a siswrn tocio i dorri darnau byr o gelynnen (gorau oll gydag aeron coch) ac iorwg. Ar ôl tywydd gwyntog, mae’n hawdd dod o hyd i ganghennau ffynidwydd Douglas wedi’u chwythu i lawr, neu ffynidwydd, sbriws a phîn eraill. Cadwch lygad barcud am gonau pinwydd a deunyddiau naturiol eraill i addurno’r swag.

Gartref, ar fwrdd, trefnwch y canghennau o ffynidwydd Douglas a chelyn i siâp ffan. Ychwanegwch yr iorwg a chlymwch bopeth at ei gilydd gyda gwlân. Rhowch ddarn o wifren o gwmpas pob côn pinwydd a’i ddefnyddio i’w clymu ar y swag. Torrwch bennau’r canghennau‘n syth. Gorffenwch trwy glymu ruban coch neu tartan o gwmpas y swag a’i hongian lan ar ddrws ffrwnt, gât neu hyd yn oed drws ‘sgubor fel yn y llun.

Ionawr

Lluniau Ia

Yng Nghymru, mae mis Ionawr yn aml yn dod â’n cwymp cyntaf o eira’r gaeaf ac mae’r tymereddau’n plymio dros nos, prin yn codi uwchlaw y rhewbwynt y diwrnod canlynol. Mae hyn yn creu’r amgylchiadau perffaith ar gyfer gwneud lluniau iâ. Ar gyfer y prosiect hwn bydd angen i chi wisgo’n gynnes a mynd am dro yn eich coedwig neu’ch parc lleol er mwyn casglu deunyddiau naturiol. Ewch â bag i’w storio a’u cario. Cofiwch tra ar eich taith gerdded i edrych o’ch cwmpas am arwyddion y gaeaf: adar yn gwledda ar yr olaf o’r aeron; traciau mamaliaid ac adar yn yr eira a choed noeth wedi eu silwetio yn erbyn machlud y gaeaf a’u canghennau yn edrych fel les du yn erbyn yr awyr. Os ydych chi’n mynd am dro fel teulu, beth am fynd â fflasg o siocled poeth i annog y rhai bach?

Bydd angen:
Casgliad o ddeunyddiau naturiol o goedwig neu glawdd e.e. aeron celyn, conau gwern, yr olaf o ddail yr hydref, nodwyddau ffynidwydd neu sbriws ayyb.
Hen gynwysyddion plastig gwag (e.e. tybiau margarîn neu hufen iâ) neu blatiau plastig / metel
Cordyn neu wlân
Dŵr

Cyfarwyddiadau
1. Trefnwch y deunyddiau naturiol ar waelod y plât neu’r cynhwysydd.
2. Llenwch y plât neu’r cynhwysydd gyda digon o ddŵr i orchuddio’r deunyddiau naturiol.
3. Torrwch hyd o linyn neu wlân a gwnewch ddolen allan ohono, gan glymu’r pennau at ei gilydd a’i osod ar ochr y plât neu’r twb gyda’r pennau clymog yn y dŵr a’r ddolen yn hongian allan (bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i hongian eich llun iâ).
4. Gadewch y plât neu’r cynhwysydd y tu allan dros nos i’r dŵr rewi.*
5. Y bore canlynol, rhyddhewch eich ‘llun’ wedi’i rewi o’r cynhwysydd. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ychydig o ddŵr poeth o amgylch yr ymylon i helpu gyda’r broses hon. Gan ddefnyddio dolen y llinyn, hongiwch eich llun y tu allan ar gangen neu ffens. Os gwnewch chi sawl un, maen nhw’n edrych yn hyfryd gyda’i gilydd yn hongian ar goeden.
*Os nad yw’r tymheredd yn disgyn yn is na’r rhewbwynt dros nos, gallwch roi eich cynwysyddion yn y rhewgell dros nos.

Ionawr

Bwydo’r Adar
Mae’r gaeaf yn amser anodd i adar. Mae aeron yr hydref wedi cael eu bwyta, mae’r pryfed yn gaeafgysgu a gall y tywydd fod yn oer iawn. Rydym ni’n gallu helpu’r adar trwy eu bwydo yn ein gerddi. Does dim rhaid gwario llawer o arian ar fwyd adar er mwyn denu adar i’ch gardd. Mae adar yn hoff iawn o sbarion o’r gegin e.e. caws (wedi’i gratio), bara, reis wedi’i goginio, briwsion cacennau a bisgedi, afalau a gellyg sydd wedi dechrau pydru, tatws wedi’u coginio (siaced, rhost a stwnsh) a chrystiau.

Gweithgaredd y mis hwn yw creu bwyd adar i hongian yn eich gardd.

Bydd angen:                                         
250g lard
50g briwsion bara
50g caws wedi’i gratio
50g ceirch
50g crofen cig moch (heb halen) wedi’i dorri
50g sultanas.
Potiau iogwrt bach, gwag
Cortyn

Beth i’w wneud:
1. Toddwch y lard mewn sosban.
2. Cymysgwch y cynhwysion eraill mewn bowlen
3. Arllwyswch y lard dros y cynhwysion yn y bowlen ac yna eu cymysgu.
4. Gwnewch dwll bach yng ngwaelod y pot iogwrt.
5. Torrwch ddarn o gortyn tua 75 cm o hyd. .
6. Clymwch gwlwm yn y cordyn tua 20 cm o un pen.
7. Gan gymryd pen y cordyn bellaf o’r cwlwm, rhowch y cordyn trwy agoriad y pot a thrwy’r twll yn y gwaelod nes bod y cwlwm yn cyrraedd y twll.
8. Llenwch y pot gyda’r cymysgedd bwyd adar, gan sicrhau bod y cordyn dal yn hongian allan.
9. Unwaith fydd y gymysgedd wedi oeri, hongiwch y potiau tu allan ar ganghennau.
10. Bydd y pot iogwrt wyneb i waered a bydd yr adar yn defnyddio’r cordyn sy’n hongian o dan i lanio arno er mwyn bwyta’r bwyd tu fewn y pot.

Mwynhewch wylio’r adar sy’n dod i fwydo yn eich gardd! Cofiwch i gymryd rhan yn ‘Gwylio Adar Yr Ardd’ gyda’r RSPB ar ddiwedd y mis. Am fanylion pellach am hyn, ewch i: https://www.rspb.org.uk/cy/get-involved/activities/gwylio-adar-yr-ardd/

Chwefror

Er taw mis byrraf y flwyddyn yw Chwefror, gall deimlo’n ddi-ddiwedd wrth i ddyddiau hir, tywyll y gaeaf gadael eu hôl. Mae gweithgaredd y mis hwn yn ein hannog i ddefnyddio pob un o’n synhwyrau yn yr awyr agored, dod o hyd i harddwch ym myd natur a theimlo’n fyw unwaith eto, yn barod ar gyfer y gwanwyn. Dyma weithgaredd i oedolion a phlant. Sgroliwch i’r gwaelod i gael fersiwn PDF y gellir ei argraffu ar gyfer plant lle gallant dicio’r blychau ar eu ffordd.

Helfa Drysor Synhwyraidd Y Gaeaf
Yn lle’r helfa drysor draddodiadol sy’n ein hannog i chwilio am wrthrychau naturiol a’u casglu, mae’r helfa drysor hon yn ein hannog i ddal profiadau ym myd natur trwy ein synhwyrau. Felly, lapiwch i fyny yn ôl y tywydd a mwynhewch daith gerdded ystyrlon ym myd natur, gan ddefnyddio’ch synhwyrau i gasglu’r profiadau canlynol.

Aroglwch:
a) Awyr iach b) Blodau eithin
c) Dail gwlyb d) Nodwyddau pinwydd wedi’u malu rhwng blaenau eich bysedd
Edrychwch am:
a) Cynffonau ŵyn bach b) Traciau anifeiliaid / adar mewn mwd neu eira
c) Oedwch am ychydig funudau i wylio’r cymylau yn symud ar draws yr awyr
d) Olrheiniwch silwét coeden noeth yn erbyn yr awyr â’ch llygaid
Gwrandewch ar:
a) Robin goch yn canu b) Coed neu ganghennau s’yn gwichian yn y gwynt
c) Dŵr yn llifo d) Y gwynt
Teimlwch:
a) Carreg oer, esmwyth b) Rhisgl gwahanol goed c) Mwsogl meddal
d) Teimlwch y gwynt yn eich gwallt neu yn erbyn eich wyneb
Blaswch:
Diferion glaw neu blu eira ar eich tafod.

Helfa Synhwyraidd PDF

 

Chwefror

If you are unsure how to tell your ash from your oak in the winter, February is the perfect time to go out for a walk and get to know your trees by recognising their bark and buds. As spring draws closer, leaf buds swell – helping us to identify the tree. Every species of tree has its own individual buds. Use our sheets below to help you recognise trees of the wildwood in the wintertime.

Click on the image for a PDF version.

                                                                 

                                                               

 

GWANWYN

Mawrth

Llecyn Llonydd

Mae adar yn chwilio am bartner ac yn brysur yn adeiladu nythod, mae blagur yn chwyddo ac yn byrstio i ddail, mae’r caeau’n llenwi ag ŵyn newydd-anedig ac mae blodau gwyllt yn dawel ymddangos mewn cloddiau. Mae natur yn dechrau deffro ar ôl ei chwsg hir dros y gaeaf. Dyma’r amser perffaith i ddechrau defnyddio ‘llecyn llonydd.’

Llecyn Llonydd yw lle tawel mewn natur rydych chi’n ymweld ag ef yn rheolaidd, gan ddefnyddio’ch synhwyrau i ddatblygu eich ymwybyddiaeth o natur a’ch cysylltiad â hi. Mae’r amser a dreulir ym myd natur yn helpu i ostwng pwysedd gwaed, gwella canolbwyntiad, a’n datblygu dychymyg a meddwl creadigol. Defnyddiodd ein cyndeidiau Llecynnau Llonydd i feithrin gwybodaeth am adar, planhigion a choed a datblygu eu sgiliau tracio anifeiliaid a goroesi’n yr anialdir. Mae’r Llecyn Llonydd hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan naturiaethwyr i ddysgu am batrymau natur ac ymddygiad anifeiliaid ac adar. Heddiw, gall oedolion a phlant i gyd ddefnyddio Llecynnau Llonydd i’n helpu i ymlacio, gwella ein lles, a dod yn agosach at natur.

Dewiswch le tawel ym myd natur, gallai gynnwys eich gardd neu barc lleol. Mae Llecynnau Llonydd yn fwy effeithiol os cânt eu defnyddio’n rheolaidd, felly mae’n bwysig bod mynediad hawdd iddo. Dewch o hyd i lecyn lle gallwch eistedd yn gyffyrddus ac yn ddiogel. Ceisiwch beidio â chymryd eich ffôn symudol, neu os oes rhaid, rhowch e ar ‘tawel.’
Nesaf, defnyddiwch eich synhwyrau i’ch helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’ch amgylchedd.

Cyffwrdd – sylwch ar y ddaear yn eich cefnogi, cyffyrddwch â rhisgl y goeden y gallech fod yn pwyso yn ei herbyn, teimlwch haul ar eich wyneb.
Arogli – pridd llaith ar ôl cawod law, blodau, yr aer o’ch cwmpas.
Gweld – arsylwch y nifer o arlliwiau o liw, y ffordd y mae aderyn yn symud, y gwythiennau mewn deilen. Dewch yn ymwybodol o’ch golwg ymylol a’i ddefnyddio.
Clywed – dewch yn ymwybodol o’r sain agosaf / bellaf, a allwch chi glywed adar neu’r gwynt?
Blasu – mae hyn yn anoddach, ond mae glaw a phlu eira yn cynnig posibiliadau!

Y gyfrinach i wella ein lles mewn Llecyn Llonydd yw ‘tiwnio i mewn’ yn hytrach nag allan. Os bydd eich meddyliau yn tynnu eich sylw, defnyddiwch eich synhwyrau i ddod â chi yn ôl i’r presennol unwaith eto.
Ceisiwch wneud Llecynnau Llonydd yn rhan o’ch bywyd beunyddiol neu wythnosol. Gall deg munud o eistedd yn dawel yn yr awyr agored yn rheolaidd wneud gwahaniaeth enfawr i’ch lles. Efallai y gallwch eistedd yn hirach ar benwythnosau neu gyda’r nos. Gall gwawr a machlud fod yn amseroedd hudolus ar gyfer Llecyn Llonydd. Sylwch ar y newidiadau o’ch cwmpas wrth i’r tymhorau newid. Mae rhai’n hoffi mynd â chyfnodolyn gyda nhw, i gofnodi trwy eiriau a lluniadau yr hyn maen nhw’n ei arsylwi a’i deimlo. Dysgwch mwy am lecynnau llonydd yma.

Mwynhewch!

Mawrth

Chwilio am grifft broga

Mawrth yw mis cyntaf y gwanwyn ac mae grifft y broga yn un o arwyddion cyntaf y gwanwyn. Mae gweithgaredd y mis hwn yn daith gerdded i ymweld â phyllau lleol neu ymylon nentydd araf i chwilio am grifft y broga. Mae brogoad yn dodwy eu hwyau mewn clystyrau, pob ŵy bach du wedi’i orchuddio â swigen amddiffynnol o jeli. Gall un clwstwr o grifft y broga gynnwys hyd at 2,000 o wyau, ond mae bywyd broga’n llawn peryglon a dim ond un o bob hanner cant o wyau fydd yn cyrraedd ei llawn dwf. Gall rhew ladd grifft y broga, ac mae crehyrod, madfallod dŵr a larfa gwas y neidr yn hoff iawn o benbyliaid.

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i grifft y broga, ymwelwch ag ef yn reolaidd i weld sut mae’r ŵy yn datblygu’n raddol yn broga bach. Mae’n cymryd 3 wythnos i’r penbyliaid ddeor, ac yna 14 arall i ddatblygu’n lyffantod bach. Pa mor hir cyn i’r coesau ddechrau tyfu, ac ai’r coesau neu’r breichiau sy’n ymddangos gyntaf? Byddwch yn gallu ateb y cwestiynau hyn drwy arsylwi eich pwll lleol! Wrth ymweld â’ch pwll neu’ch nant leol, cadwch olwg am fywyd arall yn y pwll fel gweision y neidr a sglefrwyr y pwll, adar sy’n ymweld i yfed dŵr a llwybrau anifeiliaid mewn ardaloedd mwdlyd ar ymyl y pwll neu’r nant.

Ebrill

Gwnewch Nyth Aderyn!

Mae’r adar yn brysur iawn ar hyn o bryd yn adeiladu nythod ac yn dodwy wyau. Cadwch lygad am adar yn cario brigau, gwair a mwsogl yn eu pigau. Mae gweithgaredd y mis hwn yn un i’r plant – gwneud nyth aderyn gan ddefnyddio deunyddiau naturiol.

Ewch allan i’r ardd i gasglu brigau tenau, mwsogl, hen ddail a glaswellt sych. Neu, ewch â bag i’w casglu pan fyddwch chi’n mynd mâs am dro.
Trowch a gwehyddwch y brigau tenau a glaswellt sych i siâp bowlen. Yna, stwffiwch y bylchau gyda mwsogl a rhowch yr hen ddail yn y gwaelod (neu rywbeth meddal fel plu neu wlân defaid).


Beth am chwilio am gerrig llyfn a’u paentio fel wyau i roi yn eich nyth?

Nesaf, ewch allan i’r ardd i chwilio am rywle i guddio’ch nyth. Meddyliwch fel aderyn! A oes cysgod? A yw’n ddiogel rhag cathod? A yw’n rhy isel? Rhy uchel? Agos at fwyd a dŵr?
Efallai gallech chi dynnu llun aderyn a’i liwio a thorri mâs i’w roi yn y nyth.

 

Ebrill

Gwneud Pesto Garlleg Gwyllt

Yn y gwanwyn mae hi wastod yn bleser gwylio blagur yn byrstio i ddail ar y coed a dail gwyrdd ffres garlleg gwyllt a chlychau’r gog yn ymddangos ar lawr y coetir. Gweithgaredd y mis hwn yw gwneud pesto garlleg gwyllt.

Mae garlleg gwyllt yn hoffi tyfu mewn llefydd llaith ac mewn coetiroedd, felly ewch i’ch coedwigoedd lleol am dro gwanwynaidd i chwilio am rai dail garlleg gwyllt. Mae garlleg gwyllt yn tyfu mewn clystyrau trwchus, hyd at 45cm o uchder.
Mae’r dail gwyrdd yn hir ac yn bigfain gydag ymyl llyfn. Y ffordd orau o adnabod garlleg gwyllt yw trwy arogl. Malwch ddeilen yn eich llaw a dylai’r arogl arogli’n gryf o arlleg. Mae gan arlleg gwyllt flodau – coesynnau gwyrdd hir gyda chlwstwr o flodau gwyn bach ar y brig.
Pan ydych chi’n casglu garlleg gwyllt, gwnewch yn siŵr eich bod yn pinsio’r dail yn ofalus ar waelod y coesyn yn hytrach na thynnu’r planhigyn cyfan i fyny. Casglwch o ardaloedd sydd â chyflenwad digonol a gwnewch yn siwr bod digon ar ôl i fywyd gwyllt.
.

Rysait
200g o ddail garlleg gwyllt, wedi’u golchi 
50g caws parmesan, wedi’i gratio
Sudd lemwn
50g cnau pinwydd, cnau cyll neu gnau Ffrengig wedi’u tostio a’u torri’n fân
100ml olew olewydd
Halen môr a phupur i flasu

1. Malwch y cnau gyda pestl a morter a’u rhoi mewn powlen.
2. Rhwygwch y dail garlleg yn ddarnau a’u malu yn y pestl a’r morter cyn eu hychwanegu at y cnau.
3. Ychwanegwch y caws i’r fowlen, a chymysgwch.
4. Yn araf, ychwanegwch yr olew olewydd a sudd lemon a chadwch i droi nes bod y gymysgedd yn ffurfio past llyfn.
5. Ychwanegwch halen a phupur.

Gellir defnyddio’r pesto ar unwaith gyda phasta neu ei storio mewn jariau yn yr oergell am gwpwl o wythnosau.

Mae blodau a dail garlleg gwyllt yn flasus iawn mewn saladau, ac mae 2 neu 3 deilen yn ychwanegiad blasus i frechdanau caws.

 

Mai

Côr y Bore Bach

Mai yw mis gorau’r flwyddyn i fwynhau cân yr adar. Fel arfer, yr aderyn gwrywaidd sy’n canu i ddenu cymar, amddiffyn eu tiriogaeth, a chadw adar gwrywaidd eraill draw. Mae canu yn waith caled, felly y gwrywod cryfaf sy’n canu orau ac sy’n denu cymar yn gyntaf. Gwydda’r aderyn benywaidd, po gryfaf yw’r canwr, y mwyaf tebygol yw e o gael y diriogaeth orau a’r gallu i’w helpu hi i fagu nythaid llwyddiannus o gywion.

Dydd Sul cyntaf mis Mai yw Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach, pan fydd pobl ledled Ewrop yn gosod eu larymau yn gynnar er mwyn deffro, mynd allan i’r awyr agored a gwrando ar y cyngerdd am ddim. Ond gellir mwynhau côr y bore bach unrhyw fore o ganol mis Ebrill hyd at ddechrau mis Mehefin. Mae’r corws yn cychwyn tua awr cyn toriad gwawr, yn aml y robin goch, mwyalchen, a bronfraith fydd yn arwain y canu. Mae’r sain yn chwyddo i’w anterth rhwng hanner awr cyn y wawr a hanner awr ar ôl, cyn tawelu’n raddol i’r lefelau rydyn ni’n gyfarwydd â nhw yn ystod gweddill y dydd.

Pan fydd y tywydd yn braf ac yn sych bydd côr y bore bach ar ei orau, felly cadwch eich llygad ar ragolygon y tywydd, gosodwch eich larwm ar gyfer awr cyn iddi wawrio ac ewch â blanced neu gadair allan gyda chi i fwynhau symffoni natur yn gysurus. Mae fflasg o de, coffi neu siocled poeth bob amser yn helpu os yw ychydig yn oer! Os ydych chi’n teimlo ychydig yn ddiog, agorwch ffenestr eich ystafell wely yn lle a mwynhewch y gerddoriaeth o gysur eich gwely.

Os hoffech chi ddysgu caneuon unigol adar i’ch helpu chi i’w hadnabod ymhlith y corws (neu greu argraff ar eich ffrindiau!), ewch i wefan yr RSPB.

HAF

Mehefin

Mandalas Natur

Erbyn mis Mehefin, mae’r coed i gyd wedi dod i’w dail ac mae blodau i’w cael ym mhobman. Yn ein gerddi, parciau a chefn gwlad mae yna lawer o ddeunyddiau naturiol hardd i gasglu a chreu darn o gelf amgylcheddol. Patrwm geometrig crwn yw Mandala a ddefnyddir weithiau fel cymorth i fyfyrio. Mae gweithgaredd y mis hwn yn canolbwyntio ar greu patrwm lliwgar, crwn gan ddefnyddio deunyddiau naturiol ar lawr y coetir, yn eich gardd neu barc, neu hyd yn oed ar y traeth. Mae hi’n amser i fod yn greadigol!

Dewiswch le tawel tu allan a chasglwch ddeunyddiau naturiol fel dail, petalau blodau, brigau a cherrig. Os nad ydych yn eich gardd, cofiwch gasglu petalau blodau sydd wedi cwympo yn unig, gan ei bod yn drosedd casglu blodau gwyllt.

Dewiswch wrthrych arbennig fel canolbwynt, gan ei roi ar y llawr ac yna gosodwch eitemau eraill mewn cylch o’i gwmpas. Trefnwch gylch arall o wrthrychau o amgylch y cylch cyntaf a pharhewch i ychwanegu mwy o gylchoedd nes bod eich mandala wedi’i gwblhau. Gall fod mor fawr neu mor fach ag y dymunwch. Yna, sefwch yn ôl i edmygu eich gwaith celf. Fe allech dynnu llun i’w gofio.

HYDREF

Medi

Jeli Criafol

Eleni, mae’r coed criafol yn diferu ag aeron. Ym Mwlch Corog (ein safle), mae’r canghennau’n drwm gyda phwysau’r aeron. Ni allaf gofio blwyddyn gystal ar gyfer yr aeron hardd hyn. Dyma newyddion da iawn i’r adar fel mwyalchen, brych y coed a’r coch dan adain. Cofnodwyd 37 rhywogaeth o adar yn bwyta aeron criafol. Roedd y Celtiaid yn eplesu’r aeron yn win ond heddiw mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r aeron i wneud jeli criafol. Mae’r jeli’n flasus iawn gyda chig carw, cinio dydd Sul, caws ac hyd yn oed tost a menyn! Mwynhewch!

Ryseit
1.3 kg (3lb) aeron criafol.
900g (2lb) afalau
Siwgr gwyn

Pliciwch, sleisiwch a chreiddiwch yr afalau. Rhowch yr afalau mewn 1.2l (2 beint) o ddŵr a’u berwi nes eu bod yn feddal. Ychwanegwch yr aeron a’u mudferwi i fwydion. Hidlwch trwy fag mwslin. Ar gyfer pob peint o sudd bydd angen 450g (1 lb) o siwgr. Cynheswch y siwgr, berwch y sudd am 10 munud ac wedyn ychwanegwch y siwgr. Berwch am 10 munud arall. Mae’r jeli yn barod pan roddir llwy de o’r gymysgedd ar blât a gwelir croen yn ffurfio. Cyn gynted ag y bydd y tymheredd setio wedi’i gyrraedd, arllwyswch i jariau clir, cynnes a seliwch.
Cyngor call:Y ffordd orau i gasglu’r aeron yw torri’r clystyrau’n gyfan o’r goeden, gan docio’r coesynnau cyn coginio.

(Rysáit o ‘Wild Food’ gan Roger Phillips)

 

Hydref

Gludwaith Dail yr Hydref

Mae gweithgaredd y mis hwn ar gyfer ein ffrindiau ieuengaf oll. Mae’n esgus da i rieni, neiniau a theidiau a gofalwyr i fynd â phlant bach mas am dro yn y coed neu’r parc a chasglu dail yr hydref er mwyn creu gludwaith ‘nôl adre. Wrth gasglu, os oes digon o ddail ar y ddaear, anogwch y plant i greu pentwr mawr o ddail y gallant neidio i mewn ac esgus bod yn ddraenog sy’n gaeafgysgu trwy gyrlio’u hunain i mewn i bêl a specian mas trwy’r dail. Mae dal dail wrth iddynt gwympo o’r coed (a gwneud dymuniad pan fydd deilen yn cael ei ddal yn llwyddiannus), yn hoff weithgaredd arall.

1. Casglwch amrywiaeth o ddail siâp gwahanol o liwiau’r hydref, sef coch, oren, melyn a brown.

2. Trefnwch y dail ar ddarn mawr o bapur neu gardbord (fe allech chi dorri blwch mawr cardbord neu becyn grawnfwyd). Ceisiwch beidio â gadael gormod o fylchau rhwng y dail.

3. Gan ddefnyddio glud PVA, gludwch y dail yn eu lle. Gallwch chi baentio dros y dail hefyd a fydd yn rhoi golwg sgleiniog braf iddynt pan fydd y glud wedi sychu, yn ogystal â chadw’r dail ychydig yn hirach. Byddai glitter aur (sy’n boblogaidd iawn gyda phlant bach!) yn edrych yn dda wedi’i daenellu dros y gludwaith gorffenedig cyn i’r glud sychu.

4. Gadewch yn fflat i sychu, cyn ei hongian ar y wal i’w fwynhau.

Tachwedd

Goleuadau Cannwyll

Mae’r clociau wedi mynd yn ôl, mae’r dyddiau’n fyrrach ac mae’r tywydd yn gallu bod yn ddiflas. Mae’r gaeaf o’n blaen ni. Y mis hwn rydym ni’n mynd i greu goleuadau cannwyll i ddod ag ychydig o oleuni a chynhesrwydd i’n bywydau.

Bydd angen:
Jar wydr (ailgylchwch un gwag), dail yr hydref, glud PVA, rhuban neu raffia, ‘tealight’

1. Ewch am dro i gasglu dail, aeron, conau gwern ayyb.

2. Tynnwch y label oddi ar y jar trwy ei socian mewn dŵr a chrafu’r label i ffwrdd gyda chyllel pan fydd yn feddal. Golchwch a sychwch y jar.

3. Trefnwch a gludwch y dail ar du allan y jar.

4. Clymwch y deunyddiau naturiol eraill (e.e. conau gwern, aeron neu gnau) o amgylch ymyl y jar.

5. Rhowch ‘tealight’ yng ngwaelod y jar.

6. Goleuwch ef pan ddaw’r cyfnos a mwynhewch liwiau disglair, cynnes dail yr hydref.