Aildyfiant coed Mai 2021

Aildyfiant coed – Mai 2021

Cynhelir Diwrnod Agored Coetir Anian ar ddydd Sadwrn, 5ed o Fehefin i gyd-fynd â lansiad Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystem 2021 – 2030 a Diwrnod Amgylchedd y Byd.

Cynhelir y digwyddiad ar ein safle, Bwlch Corog, ger Machynlleth lle mae 350 erw o dir yn cael ei adfer i gynefinoedd naturiol o rostir, cors a choetir. Seilir y diwrnod ar ddwy daith gerdded dywysedig o’r safle am 10yb a 2yh, lle cynigir cyfle i fwynhau sgyrsiau byr am gynefinoedd coetir a mawndir a gwaith y prosiect. Bydd amrywiaeth o weithgareddau plant ar gael yn ogystal ag arddangosfa boster ynglŷn â Choetir Anian yn y sied newydd.

Adeiladwyd y sied â phren wedi’i gynaeafu o’n planhigfa llarwydd, sy’n cael ei adfer yn raddol i rywogaethau coetir brodorol. Strwythur ffrâm bren sydd i’r sied, lle mae dyluniad da yn arbed yr angen i felinio’r coed ac yn creu adeilad deniadol. Mae’r waliau wedi’u gwneud o fyrnau gwellt wedi’u rendro â chalch. Plannwyd y to gwyrdd â sedwm. Bydd y sied newydd yn cael ei agor yn swyddogol yn ystod y Diwrnod Agored.

Mae Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau yn fenter fyd-eang i atal, rhwystro a gwrthdroi diraddiad ecosystemau ledled y byd. Mae ecosystemau iachach sydd â mwy o fywyd gwyllt yn darparu mwy o fuddion, fel priddoedd mwy ffrwythlon, mwy o gynnyrch, a storfeydd mwy o nwyon tŷ gwydr. Dim ond gydag ecosystemau iach y gallwn wella bywoliaeth pobl, gwrthweithio newid yn yr hinsawdd, ac atal cwymp bioamrywiaeth.

Sied - Y belen gyntaf

Adeiladu’r sied – y belen gyntaf yn cael ei gosod

Pobl yn ymyl yr afon

Pobl yn ymyl yr afon

Bwriad Coetir Anian yw chwarae’r rhan lawnaf y gallwn yn ystod y degawd pwysig hwn. Mae’r ffeithiau ar ddinistr parhaus bywyd gwyllt a chynefinoedd ledled y byd yn glir. Rhaid i ni wyrdroi hyn. Ni all elusennau gyflawni hyn ar eu pennau eu hunain, mae angen i’r holl gymdeithas gymryd rhan. Rydym yn galw ar lywodraethau a busnesau i gyfrannu eu hadnoddau aruthrol i amddiffyn ac adfer ecosystemau.

Derbyniodd y prosiect gyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi ein galluogi i wneud gwaith adfer natur yn Bwlch Corog, ac i ddarparu ystod o weithgareddau addysgol yn y lleoliad gwyllt hwn.

Ni does tâl ar gyfer mynychu’r Diwrnod Agored.

Bydd yn rhoi cyfle i weld beth mae Coetir Anian yn ei wneud eisoes yn y dirwedd hardd hon a chlywed am gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn cydymffurfio â rheoliadau Covid, gofynnir i bobl gysylltu â’r elusen i archebu lleoedd, naill ai ar gyfer 10yb neu 2yh.