ADFER CYNEFINOEDD
Egwyddorion
Mae’r egwyddorion sy’n llywio sut mae ein tir yn cael ei reoli yn seiliedig ar y syniadau sylfaenol hyn:
- Caniatáu i brosesau naturiol ddominyddu.
- Ymyrraeth reoli gynnar i sefydlu amodau sy’n ffafriol i ddatblygiad ecosystem naturiol.
- Rheoli niferoedd llysysyddion – gyda’r nod ar hyn o bryd o alluogi gorchudd coed i gynyddu ar draws y safle.
Mae’r egwyddorion hyn yn cael eu datblygu’n fwy manwl cyn eu cyhoeddi ar y wefan.
Dad-ddofi?
gan Coetir Anian
Mae gan lawer o bobl ddiddordeb ym mhrosiect Coetir Anian fel esiampl o ddad-ddofi (neu ail-wylltio fel mai rhai yn ei alw), ond dydyn ni ddim bellach yn cyfeirio at ein prosiect fel prosiect dad-ddofi.
Pam nad ydyn ni’n cyfeirio at Goetir Anian fel prosiect dad-ddofi? Nid yw’r term wedi ei ddiffinio, ac yn wir mae nifer o dermau gwahanol yn cael eu defnyddio, yn cynnwys dad-ddofi, di-ddofi ac ail-wylltio. Mae’r termau yn golygu pethau gwahanol i bawb. Mae hyn wedi golygu fod llawer wedi camddeall beth rydym yn gwneud, a beth yw ein cynlluniau. Yn lleol, mae’r term wedi dod i olygu cefnu ar dir a’i adael i fynd yn ddiffaith. Nid dyma beth yw bwriad ein prosiect. Mae ein prosiect ni yn rheoli’r tir yn actif ac yn cynnwys ymyriad adferol. Rydym wedi ail-gyflwyno anifeiliaid sy’n pori am y tro cyntaf mewn saith mlynedd, a hefyd yn rhedeg cyrsiau addysgol cysylltu â natur ar y tir. Mae hyn ymhell o gefnu ar y tir neu ei droi’n ddiffaith.
O fewn y symudiad dad-ddofi mae llawer o drafodaeth ynglŷn â beth ddylai’r term olygu. Y diffiniad mwyaf syml yw mai troi lle (neu berson) yn fwy gwyllt ddylai fod. Mae hyn yn ddehongliad da, ond yn dibynnu ar beth yr ydych yn golygu a’r gair ‘gwyllt’ ac, yng nghyswllt hyn, p’un ai eich bod yn golygu ‘gwyllt’ i fod yn beth da neu’n beth drwg. Mae trafodaeth hefyd ynglŷn â p’un ai gall tirwedd wyllt gael ymyriad dynol ai peidio, ac a yw’r broses o ddad-ddofi yn medru cynnwys ymyrraeth ddynol. Er enghraifft, a yw plannu coed yn enghraifft o ddad-ddofi? Beth am gael gwared ar rywogaethau sy’ ddim yn frodorol, er enghraifft pyrwydd sitca? Mae trafodaeth hefyd o gwmpas y rol sydd gan bori gan lysieuwyr mawr i chwarae. Mae rhai (fel Mark Fisher) yn dweud fod pori yn wrthwynebol i ddad-ddofi, ac eraill yn dweud fod pori yn rhan naturiol o dirwedd wyllt ac felly yn rhan gywir o ddad-ddofi. Felly os ydy llysysyddion mawr yn bresennol, dylai eu poblogaethau cael eu gadael heb reolaeth, fel yn Oostvaardesplassen yn yr Iseldiroedd, neu ydy rheoli’r niferoedd, fel yn Knepp, Sussex yn gallach?
Mae hefyd amrywiaeth yn yr hyn mae’r term yn golygu ymhlith pobl y tu allan i’r symudiad. Yn gyffredinol iawn, ymddengys fod gan bobl y dref syniad positif o ddad-ddofi fel ateb i’r golled o fywyd gwyllt sy’n parhau er y gwaith amddiffynnol gan sefydliadau cadwraeth draddodiadol. Mae pobl y wlad, yn enwedig rheiny sy’n gwneud eu bywoliaeth o ffermio neu hela yn aml yn fwy drwgdybus o ddad-ddofi. Mae Coetir Anian yn brosiect cymunedol wedi ei sefydlu ym Machynlleth gan bobl leol, nepell o’n tir ym Mwlch Corog. Yma, yng nghanol y gymuned wledig, ble mae ffermio anifeiliaid yn brif weithgaredd, rydym yn ymwybodol iawn o sut mae dad-ddofi yn cael ei weld yn lleol. Mae’r diwydiant amaethyddol yn aml yn cymryd dad-ddofi i olygu ail gyflwyno cigysyddion mawr a gadael tir i fynd yn ddiffaith, ac wrth gwrs y canlyniadau cysylltiedig o golledion bywoliaeth, diboblogi’r ardal, colli etifeddiaeth ffermio, a cholli’r iaith.
Pwrpas Coetir Anian yw adfer cynefinoedd a rhywogaethau, a rhoi cyfle i bobl ymwneud yn uniongyrchol â natur. Yn bennaf, adnodd cymunedol yw Coetir Anian, ble gall pobl leol gymryd rhan mewn prosiect yn eu tirwedd lleol. Neu, gallant ddefnyddio’r safle ar gyfer adloniant, yn cynnwys gwersylla gwyllt, mewn lle ble maent yn gallu teimlo eu bod yn perthyn, ble nad oes angen iddynt dalu am y fraint. Mae’r rhan fwyaf o bobl wedi eu datgysylltu o’r tir ac yn hiraethu am gysylltu â natur, ond yn aml yn teimlo eu bod yn dresbaswyr yn y dirwedd. Mae Coetir Anian am gywiro hyn – dylai cysylltu â’r tir fod yn hawl i bawb, nid yn unig i leiafrif elît. Dyma sut mae Coetir Anian yn helpu’r gymuned.
Mae ar gael yn yr run ffordd i’r rheiny sy’n ymweld â’r ardal, sy’n cael eu denu gan dirwedd sy’n gyfoethog mewn natur ac yn groesawgar i bobl. Mae Coetir Anian hefyd am greu lle i fywyd gwyllt, ble mae lles rhywogaethau eraill yn achos pennaf.
Mae’r prosiect yn rhoi cyflogaeth ac wedi ei seilio yn etifeddiaeth naturiol a diwylliannol yr ardal. O fewn cof byw, roedd y bryniau yma yn llawn sŵn chwibanoglau a’r rugiar, a’r afonydd yn llawn eog a brithyll. Rydym am weld y digonedd naturiol yma yn dychwelyd.
Oherwydd yr arwyddocâd sydd ynghlwm â dad-ddofi yn lleol, ei fod yn annog cefnu ar y tir ac yn golygu colli cyflogaeth a gwaith, y gwrthwyneb i’r hyn mae Coetir Anian yn ei wneud, mae hi’n awr yn briodol i ni gefnu ar y gair i ddisgrifio ein prosiect. Rydym yn gobeithio y bydd y rheiny sydd â dealltwriaeth bostif o ddad-ddofi, fel rhywbeth i roi hwb i ddychwelyd digonedd naturiol y tir, yn dal i gael eu denu at ein prosiect.