COETIR

Wedi’r Oes Iâ ddiwethaf coed oedd meistri’r tir, sydd yn dra gwahanol i goetiroedd darniog, anghyson yr oes fodern. Mae yna lawer o chwedloniaeth ynghylch y coetiroedd hynafol yma, ac mae llen gwerin yn dyst i hyn. O fewn chwedlau’r Mabinogi mae’r coed yn chwarae rhan fawr ac mae sawl helfa hudol wedi digwydd ynddynt. O fewn y traddodiad Celtaidd, cysidrwyd coed yn gysegredig, yn gartref i ysbrydion a thylwyth teg, a’n gyswllt rhwng y byd yma ac Annwn.

Mae dynoliaeth wedi bod wrthi’n clirio’r coed o’r tir ers miloedd o flynyddoedd ac erbyn hyn dim ond rhyw 13% o’r tir sydd o dan goed, gyda phitw 2% yn goetir hynafol. Mae’r coetiroedd hyn yn brin, yn unigryw ac yn anadnewyddadwy; oblegid eu pridd ddigyffwrdd a’u cydgymunedau cymhleth o blanhigion sy’n gartref i sawl rhywogaeth.

Mae coetiroedd Prydain yn dangos ôl defnydd trwy hanes; megis hen ffiniau, pyllau llifio a ffyrdd y porthmyn, ymysg eraill. Bu amnewid y rhan fwyaf o’n coetir coll-ddail hynafol am fforestydd conwydd am resymau masnachol, effeithlon ac economaidd. Oherwydd hyn bu cwymp mawr mewn bio-amrywiaeth; er esiampl, mae’r llarwydden yn cynnal oddeutu 17 rhywogaeth bryfetaidd, i gymharu a hyd at 284 rhywogaeth wahanol ar dderwen.

Mae’n hanfodol ein bod yn gwarchod y coetiroedd sydd yn weddill tra’n parhau i adfer coetiroedd cynhenid yn ôl i Brydain. Maent yn ecosystemau unigryw yn llawn amrywiaeth a bywyd gwyllt. Bydd priosect  Coetir Anian yn cyfrannu tuag at hyn drwy blannu coed cynhenid sydd wedi eu tyfu o hadau lleol. Bydd y cnewyllyn yma yn galluogi’r coetir i dyfu ac i ymledu’n naturiol gan ddychwelyd ysbryd yr hen goetir i Uwchdiroedd Cymru.

English