BWLCH COROG

Prynwyd Bwlch Corog, Cefn Coch gynt, ar gyfer Coetir Anian ym Mai 2017. Mae Coetir Anian yn dal prydles ar y tir am 125 mlynedd gan Goed Cadw, sydd wedi prynu’r rhydd-daliad ar y tir.

Safle o 350 erw (140 hectar) o rosdir yw hi â’i mwyafrif wedi gorchuddio â gwellt y gweunydd (Molinia caerulea). Rhwng dau nant yng nghornel ogleddol y safle ceir rardal cymharol fach o goetir hynafol.

Y bwriad yw i goetir cytrefi yn naturiol ym Mwlch Corog. Bydd hyn yn cael ei gynorthwyo drwy blannu tua wyth mil o goed brodorol mewn ardaloedd bach o amgylch y safle. Mae’r ardaloedd bach yma o goed yn creu ffynhonnell o hadau, nad ydynt yn bresennol ar hyn o bryd ar y tir uchel. Mae’n debygol y bydd y coetir presennol yn ehangu yn naturiol i mewn i’r rhedyn i fyny’r bryn. Bydd hefyd coed ar wasgar ar hyd y rhosdir. Yn ogystal, gwnaed gwaith cychwynnol o flocio’r 12km o waith draenio sydd ar hyd a lled y safle. Bydd ardaloedd mawr o wellt y gweunydd yn dychwelyd i orgors a rhosdir grug, yn gymysg â’r coetir cynefinol.

Ni borwyd y safle am tua chwe mlynedd cyn iddo gael ei brynu. Rhwng Ebrill a Mehefin 2018 cyflwynwyd cyflwynwyd ceffylau gwyllt i’r safle. Bellach mae gre o 5 – pob un wedi’u geni ym Mwlch Corog – yn crwydro’r tir. Yn ystod misoedd yr haf, ychwanegir gwartheg yr ucheldir a gwartheg gwynion cymreig i gynorthwyo gyda’r pori.

Bydd adfer cynefinoedd yn creu yr amgylchiadau cywir ar gyfer dod â rhai o’r rhywogaethau o anifeiliaid sydd wedi eu colli yn ôl. Gallai hyn ddigwydd yn naturiol, er enghraifft, rydym yn disgwyl y bydd adar yn cael eu denu at yr ardal wrth i’r cynefinoedd cael eu hadfer. Byddwn hefyd yn ysteyried ail-gyflwyno rhywogaethau, yn dilyn ymchwil trylwyr. Gallai rhain gynnwys llygod pengron y dŵr (Arvicola terrestris) a gwiwerod coch (Sciurus vulgaris.) Mae’r boblogaeth fach o’r bele oedd ar ôl yng Nghymru wedi derbyn hwb trwy’r ychwanegiad o bumdeg-un anifail o’r Alban dros y dair mlynedd ddiwethaf, yn agos at safle Coetir Anian.

Gwnaed arolygon cychwynnol i weld pa adar, mamaliaid, planhigion ac infertebratau sy’n bresennol. Bydd rhain yn rhoi man cychwyn er mwyn tynnu cymariaethau ar hyd y blynyddoedd.

Rydym wedi gwella’r llwybrau, a chreu rhai llwybrau newydd ar draws y rhosdir, er mwyn hwyluso mynediad ar droed ac wrth farchogaeth.

Bwlch Corog a phrosiect ‘Living Wales
Mae ein safle ym Mwlch Corog wedi ei gynnwys ym mhrosiect ‘Living Wales’ sy’n anelu i “greu darlun o gyflwr a dynameg tirwedd Cymru, yn y presennol, yn hanesyddol ac i’r dyfodol (dros y tymor hir) trwy integreiddio data arsylwi daear, mesuriadau daear cefnogol a modelau proses.”
Gan ddefnyddio lluniau manwl y ffotograffydd Mike Kay o Fwlch Corog, mae myfyrywr o Brifysgol Aberystwyth wedi lleoli nifer o’n cynefinoedd er ei ‘Earth Track geo-portal.’

Beth sydd i enw?

Ar ôl gwneud tipyn o waith ymchwil, credwn ein bod wedi dod o hyd i esboniad ar gyfer yr enw Bwlch Corog.

Mae ‘bwlch’ yn esbonio’i hunan.

Fodd bynnag, mae ‘Corog’ ychydig yn anoddach i’w ddehongli. Ymddengys mai Corf oedd yr enw yn wreiddiol, nid Corog – â Corf yn enw ar nant. Cyfeirir ato yn ‘The Place Names of Cardiganshire.’ 
Mae yna hefyd gofnod o’r enw sy’n mynd yn ôl i oes y tywysogion.

Ond pam rydyn ni nawr yn defnyddio ‘Corog’? Ar lafar newidiodd Corf i Corof ac yna i Coro (newidiadau digon naturiol fyddai rhain). Yna ychwanegwyd -g (sy’n anarferol ond gall ddigwydd). Dyna sy’n rhoi Corog.

Felly does dim ystyr i ‘Corog’ fel y cyfryw – datblygiad o Corf ydyw yn y pen draw. Diffiniad y geiriadur ar gyfer Corf yw ‘dibyn coediog ger afon.’

Felly, ystyr Bwlch Corog yw ‘bwlch y dibyn coediog ger yr afon.’