RHYWOGAETHAU

Arferai ein coedwigoedd hynafol bod yn fyw gyda bwystfilod ac adar. Un tro, bu eirth brown yn cysgu trwy’r gaeafau rhewllyd, roedd lyncs yn llithro trwy’r coed, baeddod gwyllt yn snwffian yn yr isdyfiant, a bleiddiaid yn udo ar y lleuad. Roedd cynfuail mawrion yn ymlwybro dros y tir, roedd eryrod cynffon-wen yn plymio am bysgod, ysgyfarnogod yn rasio dros y bryniau a gweilch yn gwylio’r goedwig â’u llygaid tanbaid. Heddiw, mae llawer o’r creaduriaid gwych hyn yn wynebu difodiant ac ar goll o’n cefn gwlad yn gyfan gwbl, ysbrydion y tu hwnt i’r cof byw, a geir mewn llyfrau neu dramor yn unig. Mae ein bywydau ni yn dlotach o golli cymaint o’n rhywogaethau brodorol ac, wrth iddyn nhw bylu o’n hymwybyddiaeth, nid yw llawer o bobl hyd yn oed yn ymwybodol o’r hyn maen nhw’n colli.

Mae gan Coetir Anian weledigaeth o adfer y gwylltineb hwn a dychwelyd rhai o’n creaduriaid coll i’r dirwedd. Rydyn ni eisiau ailgyflenwi tir sâl, gan greu hafan i greaduriaid o bob lliw a llun. Ar gyfer y rhywogaethau hynny sy’n dal i fodoli ond gyda niferoedd yn lleihau, rydym am greu man gwyllt lle gall bywyd gwyllt ffynnu. I’r rhai rydyn ni wedi’u colli, rydyn ni am archwilio’r posibilrwydd o ddod â nhw’n ôl. Rydyn ni eisiau gweld gwiwerod coch yn sgwrsio yn y coed, afancod yn adeiladu argaeau yn y nentydd, llygod pengrwn y dŵr yn cythru yn yr afonydd, fflach wen bib bele’r pinwydd wrth iddo wibio trwy’r isdyfiant.

Er nad ydym yn rhagweld presenoldeb rhywogaethau fel eirth, bleiddiaid a lyncs, mae yna gyfoeth o anifeiliaid y gellid yn rhesymol eu hailgyflwyno i Gymru, gan ein helpu i ddod o hyd i gyfaredd yn y gwyllt a chyfoethogi ein hystod rhywogaethau ar gyfer cenedlaethau i ddod. 

.