Prynu tir i’r Coetir Anian

by Hyd 14, 2014Newyddion0 comments

Mae Tîm Coetir Anian yn gweithio’n galed i godi arian ar gyfer prynu tir. Mae hyn ôll yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr, gan fod yr elusen methu talu staff eto. Mae angen i ni ddod o hyd i tua £900,000 (!) ac mae gennym darged o’i godi erbyn dechrau 2015.

Hyd yn oed os ydym yn llwyddo i godi peth o’r arian drwy grantiau, mae yna swm sylweddol sy’n ofynnol trwy roddion preifat, a dyna’r rhesymeg sydd y tu ôl i y gynllun Sylfaenwyr Coetir Anian.

Os ydych ar ein rhestr e-bost, mae’n golygu eich bod eisoes wedi rhoi neu wirfoddoli neu wedi mynegi diddordeb yn y Coetir Anian, ac felly rydych yn rhannu ein gweledigaeth ar gyfer natur a bywyd gwyllt.

Er mwyn codi y swm sydd ei angen, mae’n rhaid i ni gyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd drwy rwydweithio. Gallwch chi ein helpu efo’r rhwydweithio ?

Gofynnwn yn garedig i chi anfon neges at eich holl gysylltiadau, un ai trwy e-bost neu Facebook, (er enghraifft).

Mae yna ddau (2) gam hawdd i chi ddilyn –

Os y medrwch, gallwch chi fynd gam ymhellach, gan efallai roi erthygl yng nghylchgrawn alumni eich hen ysgol neu brifysgol, neu gylchlythyr arall. Gallwn ddarparu erthygl parod os y mynnwch chi, cysylltwch â ni.

I fod yn Sylfaenydd Coetir Anian, mae angen cyfraniad o, o leiaf £ 300. Am wneud hyn, byddant yn derbyn Tystysgrif Sylfaenydd, yn cael eu henwi ar y Rhestr Sylfaenwyr, ac yn derbyn ein cylchlythyr drwy e-bost. Os oes unrhyw un yn dymuno rhoi ond yn gweld y swm hyn yn ormod ar yr un pryd, mae’n bosibl i gyfrannu mewn rhandaliadau.

Os ydych yn rhannu ein brwdfrydedd dros adfer natur wyllt i Brydain rydym yn gobeithio y gallwch chi ein helpu i wneud y Coetir Anian yn realiti.

Galw am Ymddiriedolwr

Ceir y Coetir Anian ei redeg gan Sefydliad Tir Gwyllt Cymru. Yn bresennol, mae gan yr elusen le gwag ar gyfer ymddiriedolwr newydd. Buaswn yn croesawu unrhyw un sy’n frwdfrydig dros fywyd gwyllt ac sydd yn rhannu ein gweledigaeth am weld y Coetir Anian yn cael ei ymsefydlu, yma yng Nghymru. Gwell fyth os oes gennych sgiliau arbennig i’w cynnig, megis: marchnata neu sgiliau codi pres. Hefyd, hoffen ni weld fwy o Gymry Cymraeg yn ymuno gyda ni.

Rhaid eich bod yn barod i gymryd rhan blaenllaw wrth rannu’r faich o wneud penderfyniadau, ac wrth lywodraethu’r elusen. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar sail cwarterol yn Aberystwyth ac weithiau ym Machynlleth. Os y dymunwch ymuno gyda ni, yna cysylltwch â ni, i ni gael sgwrs.

Diolch i chi am ddarllen,
Tîm Coetir Anian.